Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cv|r„ Merthyr Tydfîl a'i Deng Mil Segur SARNIGOL Y mae cydymdeimlad yr holl wlad gyda Merthyr Tydfil yn ei hymdrech i gadw'i safon fel bwrdeisdref ymgorfforedig. Daeth y dirwasgiad i roi anawsterau enbyd ar ei ffordd, ond y mae wedi eu hymladd yn ddewr a doeth. Ar ôl Mesur mawr 1832 ffurfiwyd plwyfi Merthyr, Aberdâr a Faenor yn fwrdeis- dref seneddol Merthyr Tydfil, ac etholwyd John Josiah Guest yn ddiwrthwynebiad yn gynryehiolydd iddi. Yn y cyfnod hwn y bu terfysgoedd enbyd y Siartiaid, a thref Merthyr yn ganolbwynt yr ystorm. Dychwelwyd Henry Richard, Apostol Heddwch, yn etholiad mawr 1868, i fod yn gyd-aelod â Richard Fothergill, un o berchenogion gweithiau Plymouth a Phen- y-darren, yn y senedd. Ar ôl llawer ymdrech cyn hynny, derbyniodd Merthyr ei Siarter o Ym- gorfforiad yn 1905. Y canlyniad fu i'r dref wneuthur cynnydd mawr, yn enwedig mewn addysg. YMAE Merthyr Tydfil yn cynrychioli'n gryno bob agwedd ar fywyd a dat- blygiad dyn o'r cynoesoedd hyd heddiw. Yma erys olion amlwg ton ar ôl ton o dylwythau anwar, yn cael eu dilyn gan orlifiad cenhedloedd gwâr, a'r trai ofnadwy o anwareiddiad sydd hyd yn hyn yn anwahanol gysylltiedig â'r hyn a elwir yn gynnydd yn hanes gwledydd diwylliedig y byd. Mewn cnrgiau ar y mynydd acw gorffwys esgyrn yr Iberiad yn syth drosto rhed ffordd y Rhufeiniwr ar gorun y bryn draw y mae castell y Norman, heddiw'n gandryll yn y mân bentrefi a'r amaethdai ar y llethrau siaredir iaith y Brython yng nghanol y dref y mae'r masnachwr jn taro bargen yn iaith y Saeson. Heddiw, ysywaeth, yr Iddew fydd yn taro'r fargen honno, a'r Cymro druan, ar y dôl yn gorfod gwneud y gorau ohoni. Ddoe'n mwynhau llewndid cymharol, drwy chwysu'r mêr o'i esgyrn, y mae'n wir; heddiw'n segur ar ei ddogn brin, yn aml yn rhydu ar gornel y stryd, yn wag ei logelli ac yn waeth byth, â'i fywyd yn wag a diobaith. Segurdod heddiw. Ac nid yw hwn ond un o ddeng mil a rhagor. Deng mil yn segur a diobaith ? A fu cyfle gwell gan y diafol erioed am gynhaeaf bras a thoreithiog ? Ond, diolch i'r nefoedd, y mae nerthoedd wedi bod ar waith yn graddol lefeinio'r miloedd onest hyn, sydd wedi eu cadw rhag peryglon parod y segur a'r diobaith diwylliant, crefydd, caredigrwydd, cariad brawdol gelwch ef fel y mynnoch ond y mae ymddygiad y di-waith wedi bod yn rhywbeth agos i wyrthiol. Cymharer hwy â gweithwyr gwledydd eraill y byd ym mlynyddoedd y dirwasgiad mawr. Efallai nad oes un o bob pump ohonynt yn arfer tywyllu drws capel nac eglwys ond rhaid bod ganddynt wreiddyn y mater. Ac nid ar gonglau'r heolydd y maent i gyd. Gwn am rai ohonynt sy'n treulio'u hamser yn astudio clasuron cerddoriaeth eraill wyddoniaeth a llên; eraill waith llaw o bob math ac y mae llawer iawn ohonynt yn teimlo diddordeb dwfn mewn economeg a gwleidyddiaeth. Canolfan caledi. Beth yw achosion y Dirwasgiad ? Paham yr aeth Merthyr yn ganolfan y caledi ? Nid wyf yn honni gwybodaeth arbennig ond credaf mai'r achosion yw yn gyntaf y Rhyfel Mawr, ac yn ail y cyfnewid a ddaeth ar ei ôl ar ffynonellau ynni i yrru peiriannau olew, a nerth dŵr, a thrydan yn cymryd He'r glo ager a gynhyrchir ym Merthyr a'r gymdogaeth. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn yn dod yn raddol cyn y Rhyfel, ond ar ei ôl daethant gyda chyflymder mawr. Ac y mae pellter Dowlais oddi wrth y môr, a chystadleuaeth yr Almaen a'r Amerig wedi ei gwneud yn galetach, galetach i gadw'r rfwrneisi mawr mor llewychus ag y buont yn y dyddiau gynt. Yn wir, erbyn heddiw y maent oll wedi eu diffodd. Ac nid oes ond nifer cymharol fychan, ryw dair neu bedair mil, yn gweithio yn y pyllau a'r leftau glo o Dop Dowlais hyd waelod Treharris, y deng milltir o ddyffryn Taf a'i ganghennau, a gynhwysir ym Mwrdeisdref Merthyr. Llewych gwaith tan. Ar ambell noson dywyll yn y blynyddoedd gynt gellid gweled adlewych gwaith tân Dowlais, a Phen-y-darren, a Chyfarthfa ar ben rhai o fynyddoedd Ceredigion. Pan ymwelwyd â'r He gan George Borrow tua Castell Cyfarthfa. chanol y ganrif ddiwethaf, rhywbeth fel a ganlyn fu ei brofiad Wedi pasio congl ar ben y bryn, gwelais dân golau'n fflaehio yma ac acw, ac i gyfeiriad y de-ddwyrain fynydd llosg yn llewychu. Euthum i lawr hyd y llethr am gryn bellter. Gan mor danbaid oedd goleuni'r tanau, a llewych y mynydd llosg, gallwn weld yn glir y cerrig lleiaf ar yr heol. Drannoeth aeth yr hen deithiwr heini i weld gwaith haearn y Gyfarthfa, a dyma'i ddisgrifiad ohono Ar ôl brecwast euthum i weld gweithiau haearn y Gyfarthfa Fawr, a ystyrrir yn brif ryfeddod y lle. Pa beth a ddwedaf amdanynt ? Gwell dweud dim ond ychydig. Gwelais ffwrneisi anferth. Gwelais ffrydiau o fetel toddedig. Gwelais ddarn hir o haearn coch a meddal yn cael ei dynnu allan a'i weithio i'w ffurf derfynol. Gwelais filiynau o wreichion yn tasgu o amgylch i bob cyfeiriad. Gwelais rod anferth yn cael ei throi gyda chyflymder aruthr gan beiriant ager o bwer dau cant a deugain o geffylau. Clywais bob math o dwrf o'r mwyaf dychrynllyd. Yr oedd yr effaith arnaf yn bensyfrdanol. Perthynna'r gwaith hwn i deulu Crawshay. Pan euthum i Ferthyr, yn agos i ddeugain mlynedd yn ôl, canfûm olygfeydd cyffelyb yn Nowlais. Pentref bychan gynt. Tua chanol y ddeunawfed ganrif nid oedd Merthyr namyn pentref bychan, eglwys, tafarn neu ddau, ac ychydig dai to gwellt. Gwir bod haearn wedi ei doddi yn yr ardal efaUai er dyddiau'r Rhufeiniaid, gan fod yma ddigon o fwyn, a cherrig calch, a choed oblegid golosg coed a ddefnyddid gynt i doddi'r mwyn a'i droi'n haearn. Darganfyddiad dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd golosgi'r glo a gyrru'r brwmstan allan ohono, i gymryd Ue'r coed. Yn 1759 daeth John Guest, o swydd Stafford, a ffurfiwyd Cwmni Haearn Dowlais. (1 dudalen 225.)