Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nod ac Ymffrost y Gyngres Ge/taidd Hyrwyddo ymdaith llwythau'r Celt tua'r Oes Aur sydd i wawrio arnynt YSGRIFENNODD Emerson, yr ath- ronydd Americanaidd, folawd i'r llwythau Celtaidd a'u galluoedd cudd a chyndyn, mewn geiriau tebyg i hyn Yn ôl traddodiad tardd y cyff Prydeinig yn bennaf o dair ffynhonnell. Cynnwys y gyntaf y gwaed hynaf yn yr holl fyd, sef y Celt. Pa Ie y mae'r Groegiaid Pa le yr Etruriaid Pa Ie y Rhufeiniaid ? Eithr y mae'r Celtiaid yn hen deulu, ei ddechreuadau yn ymgolli yn niwl y cynfyd, a'i ddiwedd ymhellach fyth yn y dyfodol draw; oblegid y mae defnydd parhad ynddo. Hwynthwy a blannodd Brydain, ac a roddodd enwau i'w hafonydd, ac i'w mynyddoedd, sydd megis delynegion yn dynwared lleisiau pur natur. Y mae gan y Celtiaid athrylith gudd, na wyddys ei maint. Er bod dysg ac ymchwil wedi teithio ymhell er dyddiau Emerson, ac amser wedi cywiro llawer ar ei amcangyfrif o hynaf- iaeth gymharol cenhedloedd yr hen fyd, y mae'r hyn a ddywaid mewn dull mor fol- iannus am y Celt yn aros, ar y cyfan, yn wir. Yn ofer y torrodd rhyferthwy ac ystormydd y canrifoedd ar graig gallestr y Celt. Deffro 50 mlynedd yn oL Hanner can mlynedd yn ôl deffrôdd dyheadau cryf ymhlith y tylwythau Celtaidd am hunanfynegiad Uawnach a hunan ddat- blygiad, neu mewn gair, am gyfle i amlygu eu hunaniaeth. Dyna Iwerddon, yn ymdeimlo oddi wrth gamwri alaethus y dyddiau gynt, yn griddfan o dan ormes wleidyddol, cyfyngiadau blin, a hen ddeddfau oesol traws, a heb gael cyfle un amser i oddef yn hir ddylanwadau parlysol cyfraith a thref,-dyna hi'n gosod esiampl fyw ac effro, ac yn arwain y ffordd i hawliau y deffroad. Cafodd gynghreiriaid parod yng Nghymru ac yn Yr Alban i'w chynorthwyo i ennill ei rhyddid gwladol, a chyfle i ddilyn ei delfrydau arbennig ei hun. Agorodd y deflToad hwn y ffordd i gynnydd a datblygiad amlochrog y cenhedloedd Celtaidd. Cychwynnodd ddiddordeb newydd a byw mewn diwylliant Celtaidd,- mewn iaith, llên, cerdd ac addysg mewn achub a chadw llên-werin a chân-werin oedd mewn perygl o ddifodiant yn yr oes faterol hon, gyda phenderfyniad diysgog i ddodi ar gof a chadw y traddodiadau gwas- garog hyn, cyn iddynt gael eu hysgubo ymaith i ddifancoll. Eu harwyddair oedd, Cared doeth yr encüion." Y gyngres gyntaf. Cymerodd y deffroad hwn ddelw ymarferol yn ffurfiad y Gyngres Geltaidd yn Llydaw yn 1867. Yn ddiweddarach, cymerodd y diweddar Mr. E. T. John ran flaenllaw yn y gwaith, gan roddi ei frwdfrydedd angerddol dros Gymru, ei brofiad Seneddol, ei graffter masnachol, ac nid yn lleiaf, ei gyfoeth mawr, at wasanaeth y pwyllgor, gyda haelfrydedd dirodres. Gan y Parchedig Dr. G. Hartwell Jones Cynhelir y Gyngres o flwyddyn i flwyddyn mewn canolfannau poblog yn y gwahanol wledydd Celtaidd, megis Edinburgh, Glasgow, a Dulyn. O'r cychwyn, y mae'r Gyngres yn fudiad cwbl ddiwylliadol. Nid oes a fynno hi â gwleidyddiaeth,-y maent y tu allan i'w hamcanion. Unwaith yn unig y ceisiwyd ei gwyrdroi allan o'i gwir linell, neu'n hytrach, ei gwthio i ganol trobwll dadleuon gwleidyddol. Yng nghyfarfod Llundain y bu hyn, pan geisiodd un neu ddau oedd mewn cydymdeimlad brwd â'r Llydawiaid, ddefnyddio'r Gyngres i gefnogi hawl Llydaw i ymreolaeth. Gwrth- ododd y Gyngres yn bendant gymryd ei rhwydo. Y mae dau fudiad ar droed yn Llydaw, a'r ddau'n berthnasau agos i'w gilydd. Pleidio Ymwahaniad neu DdatgysyUtiad oddi wrth Ffrainc a wna un mudiad,- peth amhosibl ei sylweddoli am resymau nad oes angen mynd ar eu hôl yma. Dadlau dros fesur o hunan-lywodraeth oddi mewn i'r Llywodraeth Ffrengig a wna'r dosbarth arall. Ond mewn gwlad fel Ffrainc, sydd â'i bryd ar ganoli ei holl lywodraeth, nid oes lawer o siawns o hwn ychwaith. Y mae Ar Breiz, — hanner Ffrengig a hanner Llyd- ewig,-papur gwlatgar a gyhoeddir yn Rennes, yn pleidio hawliau'r Ymreolwyr yn Llydaw. O sôn yn fwy manwl, un o brif faterion ymdrafod yn y Gyngres, hyd yn hyn, fu sefyllfa'r ieithoedd brodorol. Y pwnc pwys- icaf yn y cyfwng presennol hefyd ydyw cadwraeth yr ieithoedd Celtaidd. a Ue y mae hynny'n bosibl, eu Uedaeniad. Yn y cyswllt hwn y mae'r diddordeb pennaf ynglŷn ag Iwerddon a Chymru. Y mae i Gymru'r fantais o fod y Gymraeg wedi ei chadw'n iaith fyw er cyn cof, neu o'r amseroedd bore. Er pan sefydlwyd Llywodraeth y Dalaith Rydd y mae Iwerddon, gyda'i thiriogaeth gryno, rhwng pedwar môr, mewn safle i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun, ac i gymryd mes- urau â'u hamcan i hyrwyddo Uedaeniad yr Wyddeleg. Y mae astudiaeth o'r Wyddeleg wedi gwneud camau breision, ac o flwyddyn i flwyddyn ânt rhagddynt o nerth i nerth, yn gorchfygu ac i orchfygu. Rhaid i bob ymgeisydd i'r gwasanaeth gwlad, a phob penodiad bron o dan y llywodraeth, fod yn gyfarwydd yn y Wyddeleg. Mewn can- lyniad, y mae'r darlithfeydd ym mhrif- ysgolion Dulyn, Cork, a Galway, yn orlawn, ac y mae'r to, sjT'n codi wedi cymryd at yr iaith gyda brwdfrydedd mawr. Y mae'r Synthetic Gaels," fel y llys- enwir y gwlatgarwyr pybyraf a charwyr gwresocaf y Wyddeleg yn Iwerddon, yn gwisgo'r lcilt, ac yn gwrthod siarad Saesneg, hyd yn oed â'u gwragedd Mr. Lloyd George a'r Wyddeleg. Yn anuhiongjTchol, yr oedd gan ein cydwladwr enwog, Mr. Lloyd George, law yn y gwaith o adferyd bywyd y Wyddeleg. Un tro, ag yntau'n ymresymu â'r aelodau Gwyddelig yn y Senedd yn Llundain, mewn perthynas i hunan-lywodraeth i'r Ynys Werdd, digwyddodd edliw iddynt-ai o ddifrif ai o fregedd, nis gwn. — na feddent iaith genedlaethol. Parodd y sylw gyffro nid bychan yn Iwerddon ymdaflodd Uu o Wyddelod, yn enwedig o blith y rhai ifanc, i ddysgu'r iaith. Yn ystod yr haf yn dilyn, cyfarfu cyfaill i mi o'r brif-athrofa yn Nulyn, â masnachwr o'r brifddinas a'i deulu, yn anialdir Donegal. Dyn annwjd," meddai, be 'dechi'n 'neud vma, vn vr ardal unig, anghysbell hon ? 1 Deuthom yma i gyd i ddysgu Gwyddeleg." Be' barodd i ŵr o'ch oedran chi vm- gymryd â'r fath orchwyl ? ebe'r Athro drachefn, mewn syndod. Atebodd yntau, Lloyd George." Trown at Ynys Manaw. Siaredir Man- aweg o hyd gan oddeutu cant o frodorion hynaf yr ynys. Pregetha Archddiacon Manaw yn yr iaith ar achlysuron arbennig, ac efrydir hi gan ysgolheigion. Ond gormod disgwyl iddi byth mwy ad-ennill ei safle fel iaith bob dydd y bobl, nac mewn masnach.