Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Glowyr Donio/ We/ais i Ymhobman I Ebe'r Parchedig H. T. Jacob Abergwaun LLOND pafiliwn o lowyr a fyddai'r L gynulleidfa eisteddfod orau a fedrwn i ei dychmygu. Hwy ânt i Gaernarfon os gallant, ac y mae Pwyllgor Eisteddfod Abergwaun am 1936 yn disgwyl gweld eu hwynebau creithiog a hawddgar yn Henwi'r babell i'w hymylon, a Heisiau pêr deng mil ohonynt yn canu Crug-y-bar nes y clywo De Valera hwynt yn Nulyn Gwyr yr holl fyd am wrhydri'r glowr ar lwyfan Eisteddfod. Y mae eisteddfoda yn ei waed. Myn ganu, doed a ddelo. Ac oni ddigwyddo fod yn aelod o gôr ei ardal, â gyda'r côr i'r 'steddfod i ddal ei freichiau i fyny. A 'does neb o'i well am gadw cynulleidfa mewn hwyl. Y mae ei sylwadau bachog a smala fel awel o'r mynydd ar ddydd o des. Pa sawl gwaith y clywyd ef yn gweiddi ar dop ei lais Pwy yw hwn-na, Mabon ? Y mae llawer o grefftau yn y wlad sy'n llawer hyn na chrefft y glowr ganrif yn ôl yr oedd yn ei babandod, eithr bu ei thwf yn aruthrol gyflym, nes y mae heddiw, ag eithrio amaethyddiaeth, yn fasnach bwysicaf yn ein gwlad. Er nad yw'r glowr yn hen ymhlith crefftwyr, mae wedi magu cymeriad a thraddodiad sydd yn arbennig iddo'i hun. Saif allan yn enwog am ddeubeth, sef ei ffraethineb a'i natur dda. Y mae'r cyntaf fel rheol yn warant o'r ail ac y mae'r ail yn dir da i fagu'r cyntaf. Hyd y gwelais i y mae'r glowr ym mhob- man-yn y gogledd a'r de — wedi'i ddonio'n helaeth â'r synnwyr arab. Dichon fod rhyw ystwythder bywiocach yn nodweddu'r deheuwr na'i frawd o'r gogledd. Onid yw'n syn fod natur y glowr mor heulog a llawen ac yntau'n treulio cymaint o'i amser yn nhywyllwch perfeddion daear. Rhesymol fuasai disgwyl i'w amgylchoedd tywyll a pheryglus fygu pob ffraethineb a doniolwch, ond nid felly y gwna. Dichon mai ffordd natur o wneuthur iawn am anfanteision y glowr yw ei waddoli â synnwyr cryf o afiaith. Yr oedd digollediant natur yn fater ymgom rhwng dau lowr ers tro mawr yn ôl. Ceisiai'r naill egluro'r ffaith i'r llall. Sylwaist ti ddim," ebe'r cyntaf, fod clyw dyn dall yn llawer ysgafnach nag eiddo neb arall ? Dyna beth yw digollediant." Yr wyt ti'n eitha reit," ebe'r ail,- yr wy i wedi sylwi os bydd gan ddyn un goes fer, mae'r llall bob amser yn hwy." Digollediant Magu teulu mawr. CYFNOD aur y glowr fel cymeriad gwreiddiol, hollol ar ei ben ei hun i'm tyb i, oedd tua hanner cant neu drigain mlynedd yn ôl, o'r hyn lleiaf ym Morgannwg. Y mae addysg-neu rywbeth-wedi rhwbio llawer o'r conglau digrif oddi arno. Wrth gwrs pery eto yn gymeriad godidog. Onid ei natur dda a'i asbri sydd wedi ei gadw heb suro yng nghanol cyni'r amseroedd diwethaf hyn? Bywyd undonog oedd ei fywyd gynt, o'r ty i'r gwaith, o'r gwaith i'r ty ei oriau hamdden yn brin, a heb fod ganddo sefydl- iadau fel y tai darluniau, a meysydd chwarae'r Welfare Scheme i'w ddifyrru. Magai deulu mawr o blant mewn ty llai nag a fedd y colier heddiw at fagu teulu bychan. Yr oedd gan Dai Ty Top ddeg o blant, a phan ymddangosodd y degfed, awgrymai i Cathrin ei wraig y buasai'n well rhoi rhifau arnyn hw o hyn i maes-yr oedd wedi defnyddio ymron bob enw oedd yn ei eiriadur. Cynnig ein bod yn mynd i Gasnewydd. Yr oedd gwyliau yn beth anadnabyddus iddo ond codai ei gefn weithiau hefyd, megis ar ddydd sgyrsion y gwaith. Yr oedd miri mawr yng nghwrdd y gweithwyr i setlo b'le mae mynd. Codai Wil Ty Isha i gynnig ein bod yn mynd i Gasnewydd-Newport, Mynwy-ac eiliai Dafydd Dafis. Gwaeddai Wil yr Halier yr wy i'n cynnig gwelliant-gadewch i ni fynd i Newport." 0," ebe Wil Tŷ Isha, 'd wy i ddim am rannu'r tS", mi dynna' i 'nghyniciad yn ôl- gadewch i ni fynd i Newport yn enw dyn, ac fe awn i Gasnewydd y flwyddyn nesa." A bu tangnefedd. Yr oedd dydd yr excursion yn ddiwrnod mawr i'r carwr brwd i roi treat i'w: gariad cerdded y strydoedd ac edrych i'r ffenestri. Safai Gwilym o flaen siop ffrwythau, ac yr oedd golwg hudol ar swp o rawnwin duon yn y ffenestr. Mentrodd i fewn yng ngrym ei serch, Beth yw prish y grapesì Coron y pound," ebe'r siopwraig. Collodd Gwilym ei anadl a phan ddych- welodd ei hunanfeddiant, meddai, gwerth dwy geiniog o geirios os gwelwch yn dda,- y mae Lizzie yn lico ceirios Priododd llawer pâr fel y rhain heb feddwl fawr am ddarbod, eu hunig waddol oedd eu serch, a gofal rhagluniaeth fawr y nef. Bywyd dedwydd ar y cyfan oedd bywyd teuluol yr hen lowyr. Nid oedd heb ambell awel groes, ond bu eu harabedd yn gysgod lawer tro. Cododd rhyw awel fach ar fyd Tomi Dafis a Sara ei wraig-ac ebe Tomi yn ei nwyd— melltith ar y dydd y priotais i ti, Sara Tomi bachan," ebe hithau, gad y dwarnod bach hynny'n llonydd, dyna'r un bach mwya teidi geson ni eto A throesant yn ôl i ailfyw'r diwrnod hwnnw gyda chusan. UysenwL Y R oedd llysenwi dynion-yn enwedig dyfodiaid newydd-yn beth cyffredin yn eu mysg. Yn aml rhyw air dieithr a ddefnyddid gan rywun a wnâi'r tro. Dyma fachgen o'r wlad newydd ddyfod i'r cwm, a digwyddodd ddweud iddo gerdded yr holl ffordd bentigili (gair y gorllewin am "benbwygiJydd "), 1fan pentigili a fu am ei oes. A dyna Shoni Bach MwjTa' y mae'n debyg fod yno Shoni Bach arall, ac er mwyn eu gwahaniaethu aethant yn Shoni Bach Mwya, a Shoni Bach Lleia. Ac unwaith y gwisgid neb â Uysenw, ofer fyddai pob cynnig i'w ddiosg. Un parod iawn ei ateb yw'r glowr-meistr ar y grefft o wrtheb. Cyfarfu dau ohonynt ar doriad gwawr-un ar ei ffordd adref o'r gwaith a'r Uall ar y ffordd yno. Yr oedd y ddau yn ddiarebol denau He-lo," ebe'r cyntaf, "wyddwn i ddim o'r blaen fod ysbrydion yn ymddangos wedi'r dydd 0 byddan," ebe'r Uall, idd ei gilydd wel' di." Cweryl a ffrwgwd. Ffflachia ergydion o wefusau'r glowr mor sydyn â mellt o'r wybren, a gorchest anodd yw diffoddi fflam ei arabedd Ue bynnag y digwyddo fod. Bu tipyn o gweryl rhwng Morgan a goruchwyliwr y lofa He y gweithiai. Meddai'r olaf Yr wyt ti, Morgan, yn meddwl dy fod yn glyfar iawn, ond clyw, mi dy brynwn di a mi dy werthwn di wedyn cyn brecwast." Ho," ebe Morgan, mi dy brynwn innau dithau cyn brecwast, ond fe fyset ar fy nwylo i am byth wedyn! Gwell oedd i'r meistr adael llonydd i Morgan byth ar ôl hyn. [Drosodd