Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRO EGNIOL CREWE A'R CYLCH EI LONGYFARCH AR EI SWYDD NEWYDD IPYN o eithriad ym myd E*|RfaMF^päS addysg yw i ŵr sy'n aelod UT^ùÈS^èJr o'r Orsedd (y mae'n dwyn wfe^^HEÍ^S) yr enw Dewi Bignall) yn un o islywyddion Undeb у Cymdeithasau Cymraeg, ac yn gyn-lywydd i Gym- deithas Gymraeg gref yn Lloegr (sef Crewe a'r cylch) gael ei ddewis i swydd mor ddiwyd- iannol ag athro mwynyddiaeth mewn coleg prifysgol; ond dyna a ddigwyddodd ganol y mis hwn i'r Dr. T. David Jones, Stoke-on- Trent a Chaerdydd yw'r coleg hapus a gafodd ei wasanaeth. Yn frodor o Grynant ger Castell Nedd, cafodd Dr. Jones ei addysg gyntaf mewn mwynyddiaeth yng nglofeydd dyffryn Nedd. Daeth y rhyfel, ac ymunodd â'r Cwmni I7th Lancers, ac aros gyda hwynt am ddwy flynedd, gan ymaelodi ddiwedd y rhyfel yng ngholeg Birmingham. Graddiodd yno yn iq22 a chael ei wadd gan yr Athro J. S. Haldane, F.R.S., o'r Anglo Persian Oil Co., i ymchwilio gydag ef. Y mae'r ddoctoraeth a gafodd yn 1924 a'r aelodaeth yn y Gymdeithas Ddaeareg Fren- hinol yn 1929, yn arwyddion pellach o ddisgleirdeb ei yrfa addysg. Oddi ar amser y danchwa yng nglofa'r Groesffordd, Wrec- sam eleni y mae'r Dr. Jones wedi bod yn un o'r prif wyddonwyr i weithio yno cymerwyd yr holl samplau awyr, a'u cofnodi, ganddo ef. Y mae ei briod, Mrs. Griselda Jones, yn ferch i'r diweddar Barchedig John Hughes, Nant-y-moel, a Mrs. Hughes, Walters Road, Llanelli. Creu son am y Cymry YCHYDIG flynyddoedd yn ôl, nid oedd fawr sôn am y Cymry yn Crewe a'r cvlch, a chredaf mai'r Dr. Jones fu'r prif ddyn i ddwyn cyfnewidiad yno. Adeg y Wedgewood Anniversary oedd hi, a'r cyfarwyddwyr eisiau trefnu'r pasiant o ddehau," gan gynnwys ynddo y Brython- iaid a'r Rhufeiniaid. Gofynnodd y pwyllgor i Gymry'r cylch a wnaent hwy gymryd gofal o'r adran hon, ond am ryw achos, methu a wnaethant. Yn awr," meddai'r llywyddi Syr Francis Joseph, wrth Dr. Jones, yr oedd yn ei adnabod eisoes, yr wyf yn apelio atoch chwi i beidio â'n siomi ni y tro hwn." Na, chwi ellwch ddibynnu arnom ni," ebe'r Doctor, a mynd ati i gasglu Cymry'r cylch oddi ar y rheilffyrdd, o'r gweithdai, o'r ysgolion, o bob man. Erbyn diwrnod y pasiant, yr oedd yr holl gynhyrchu yn yr adran Frythonig 0 hanes Prydain yn Gymraeg, a chyda'r mwyaf poblogaidd o'r cyfan i gyd. Byth oddi ar hynny, y mae i Gymry Crewe, Stoke-on-Trent, a gogledd swydd Stafford, Ie cynnes ym mryd y brodorion. Rhoddir sylw i bob manyn Cymreig yn y papurau cyhwfennir y Ddraig Goch yn y lleoedd cyhoeddus ar Wyl Ddewi; arddangosir newyddion Cymraeg yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, ac ymwêl y maerod yn swyddogol â dathliadau arbennig, er y mae'n wir mai drwy ymdrech y cyrff Cymreig, a'r Dr. Jones yn un o'r prif symudwyr, y gwneir y rhan fwyaf o'r pethau hyn. Pan wahoddwyd cynhadledd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg i Crewe-yr oedd hyn yn gryn fenter, gyda llaw-gwnaed ef Dr. T. David Jones. yn llywydd i'r gynhadledd. Diwedd hyn fu cael derbyniad dinesig cyhoeddus i'r gynhadl- edd, a'r maer yn arwain. Cafodd yr undeb amser i'w gofio yn y dre. Gradd Miss Hefipa Jones CLYWAIS gyda llawenydd y dydd o'r blaen fod Miss Hefina Jones, awdur yr ysgrif ddiddorol ar Ynys Enlli a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron fis Ionawr diwethaf, wedi graddio gydag anrhydedd yn y pwnc newydd hwnnw i ferched, sef bywiol- iaetheg aeconomia = gwyddor bwysicaf yfory." Beth amser cyn hynny yr oedd gan ei thad, y Parchedig J. Owen Jones (Hyfreithon), stori fer Ar y Cyd yn ein cylchgrawn. Rhoir fi ar ddeall bod merch Hyfreithon â'i bryd ar fyd y newyddiaduron. Yng Nghwmafon, Morgannwg, y'i ganwyd, a daeth i fyw i Gaergybi ryw naw mlynedd yn ôl, pan ymadawodd ei thad â'r Capel Newydd, Llanelli, am Gapel Armonia. Y mae eimam yn ferch i Robert Roberts, Trefnant Isaf, oedd yn adnabyddus iawn yn y cylch. O Ruthyn i Natal DEALLAF mai Cymro o ardal Rhuthyn yw'r Dr. J. Townley Williams, a gafodd ei anrhydeddu yn Ne Affrig yn ddiweddar drwy ei arwisgo yn ddoethor mygedol cyntaf mewn athroniaeth yn nhalaith Natal. Ychvdig gyfleusterau addysg a gafodd Mr. Williams yn nechrau'i yrfa," ebe'r Dr. Bews, prifathro'r coleg, wrth gyflwyno'r anrhydedd iddo, ond llwyddodd drwy ei ymdrech ei hun nid yn unig i ymgodi i'r safle amlwg y mae ynddo'n awr ym myd diwydiant, ond hefyd i ymlathru mewn diwylliant nes balchïo unrhyw brifysgol. Gwnaeth Mr. Williams lawer i hyrwyddo efrydiaethau gwyddonol yn y fasnach lo. Y mae Prifysgol De Affrig eisoes wedi cydnabod cyfraniadau i'r celfyddydau a'r gwyddorau," ebe'r Prifathro wedyn, ond heddiw, am y tro cyntaf, y mae'n dilyn esiampl prifysgolion eraill, ac yn cydnabod gwerth gwasanaeth i gymdeithas ac yn arbennig i addysg fanol." Cyrddau Awst o Medi YMAE misoedd Awst a Medi bob amser yn llawn o gyrddau diddorol a gwerth- fawr i'n diwylliant. Oedodd y Gyngres Geltaidd ei chyfarfod blynyddol yng Nghaerdydd 0 ddechrau Gorffennaf i'r wythnos gyntaf ym Medi. Fe groesewir y cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd mewn nifer o gyrddau cymdeithasol a drefnwyd gan yr Arglwydd Faer a Chymrodorion y dre. Oherwydd na allai rhai o'r siaradwyr ddyfod ynghynt yr oed- wyd y cwrdd. Cyferfydd adran Gymrodorol yr Eistedd- fod yng Nghapel Salem, Stryd y Llyn, Caer- narfon, a darllenir papurau brynhawn Llun gan Mr. R. T. Jenkins ar Hanes Cymdeithas yr Eisteddfod, a bore Mercher gan Mr. W. Hughes Jones ar Lais Cymru; Arglwydd Clwyd a Mr. W. P. Wheldon fydd yn llywyddu, a rhoddir croeso ar ran y dref gan Syr Michael Assheton-Smith. Credaf yr adunir hefyd eleni yn ystod y brif wyl gan Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg, Pwyllgor Gwisg a Defod a Bwrdd Cerdd