Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED. "Bri a Chyfaredd Cotymau Disglair Çan MEGAN ELLIS YMAE'R llu defnyddiau cotwm newydd mewn patrymau disglair wedi achosi cryn gyfnewidiad yn ffurfiau gwisg- oedd y tymor hwn. Yr oedd y cynllunwyr gwisgoedd mewn tipyn o benbleth ddechrau'r tymor pan ddaeth y cotymau i'r golwg. Yr oedd merched wedi arfer gwisgo crêpiau a sidanau gymaint, gan gadw cotwm a defnyddiau tebyg ar gyfair chwarae a cherdded ar y traeth, nes eu bod wedi magu rhywbeth tebyg i draddodiad yn eu cylch. Nid oedd hi ddim yn hawdd torri ar y traddodiad ac yr oedd y defnyddiau cotwm cyntaf wedi eu llunio yn debyg iawn i'r sidanau a'r defnydd crych (crêpe), neu ynteu fe gaech gynlluniau'r gwisgoedd chwarae wedi eu cyfaddasu ar gyfair y defnyddiau llawnach ac ehangach. Y mr.e gwyr Paris yn awr wedi canpl- bwyntio ar gotwm. Ni welir mwy wisgoedd CRYSFFBOG ATYNIADOL frethyn brith coch a ywyn gyda choler bique wen, a dolennau cydwedd i lawr tu blaen. traddodiadol, syml hollol, yn y defnydd hwn ond yn hytrach, gwneir y gorau o'i fanteision ac y mae rhai o'u cynlluniau yn hynod atyniadol. Edrych cynllun sidan, neu grych (crêpe) neu wlanen ysgafn yn anghym- wjTs i gotwm. Gellir llunio o gotwm syn- iadau cyfareddol fyddai'n hollol amhosibl yn y defnyddiau tawelach a meddalach. Cynllun syml crysaidd Yn y defnyddiau cotwm plaen, cynllun syml, crysaidd a welir gan amlaf, gyda gwddf destlus a choler rydd. Gelwir y rhain yn grys-ffrociau. Yr oedd un enghraifft a welais y dydd o'r blaen o gras-gotwm glas golau lled fain, y tu blaen yn agor i lawr tua chwe modfedd ac yn cau gyda thri o fotymau asgwrn glas golau, a choler ddel uwchben. Yr oedd asgwrn y llewysau yn fyr iawn a'r sgert wedi'i hollti ychydig yn y gwaelod i rwyddhau cerdded. Defnyddir cotwm lawer iawn at ffrociau dawnsio a ffrociau pnawn. Y mae hyd yn oed y myslinau tew yn caniatáu eu gwneuthur yn blygion a gellir cael effaith dlos iawn pan drafoder y defnydd yn gymleth. Edrych clwstwr o blygion yn hynod dlws-yn fwy effeithiol ar gotwm na dim. Lliain main gwyngoch, gyda chylchau gwinau cysgodol wedi eu gwau iddo, oedd defnydd un ŵn a welais mewn cyngerdd. Yr oedd casgliadau yn y wisg uwchben y wasg ac fe orweddai'n hollol dynn ac esmwyth uwchben y gwregys. Yr oedd yntau'r gwregys yn felfed gwinau. Pan ddefnyddier organdi neu fyslin meddal at wisgoedd prynhawn ar achlysuron neill- tuol bydd y sgert yn bur llaes, wedi'i thorri'n helaeth ond gyda'r defnydd dros ben wedi'i ddodi i gyd y tu ôl, gan fynd i bwynt ar y llawr yn debyg i gynffon paunes-a dyna'r enw arni hefyd. Cedwch yn Glaear yn y Gwres Drwy ofalu am fanion y ffenestri, y llwybrau a'r ystafelloedd gellir llawer i glaearu'r tý ar hin boeth. Gan amlaf bydd yn well cadw'r ffenestri ynghau ar dywydd anarferol dwym-yn enwedig os bydd awel frwd yn chwythu- a'u hagor yn oerni'r hwyrnos. Yn y trof- annau nid agorir ffenestr byth oni bo gwres DWY FFROC LIAIN AT Y GWYLIAU. Lliain hufen ysmotiog gwinau yw defnydd honacw â phen siwmper a lliain gwyn stribiog glas yw defnydd y llall. y dydd wedi mynd heibio. Ond Ue bo tân at goginio yn gwneuthur yr awyr yn boeth, doeth torri'r rheol. Dyfrhaer llwybrau o amgylch y tý ben bore ac yn yr hwyr a cheir ei fod yn cadw'r llwch i lawr ac yn oeri tymheredd priddfeini'r tv. Oddi mewn i'r tý fe ellwch awgrymu claearwch drwy ddiddymu pob disgleirdeb. Tynnwch lenni ysgafnwe ar draws ffenestri llydan ac fe edrych yr ystafell yn llawen oerach na chyda'r haul yn rhythu i mewn. Edrych muriau a dodrefn gwyrdd, llwyà. neu hufenlliw yn well na rhai oraen neu goch, sy'n lliwiau twym ill dau. Ceir effaith oer arall drwy ddodi digon o ddail yn gymysg â'r blodau yn y cawgiau. Ceidw dail bwyta yn wyrdd ac ir ar ddiwrnod poeth wrth eu dodi ar lechen ar lawr y tŷ bwyd. > CRYSFFBOC BRINT BLODAU gyda siaced blaen ddigoler dros ben, yn cau â gwregys yn unig. Gwisgir coler y wisg y tu allan.