Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU BYR SYR Arglwydd Peel, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ynglyn a'r Gyfraith, 10, Smith Square, Westminster. EICH ARGLWYDDTAETH,―Cyflwynwyd ger- bron eich Comisiwn yn ddiweddar ddeiseb oedd wedi cael cefnogaeth selog Uu mawr o awdurdodau lleol, eglwysi a chyrff eraill, yn erfyn am i chwi ffurfio ar unwaith gylchdaith gyfreithiol gyflawn i Gymru, yn cynnwys Mynwy am i'r barnwyr a'r swyddogion Uys fod yn medru Cymraeg ac am i'r llysoedd sir gael yr hawl i drafod achosion hyd at £ 500. Mewn cylchlythyr ynglvn â'r ddeiseb fe a'.vyd eich sylw at y ffaith y gwedir i'r Cymry yr hawl gyntaf a naturiol o gael eu bârnu yn eu iaith eu hunain yng ngwlad eu genedigaeth a gwlad eu hynafiaid er cyn hanes. Eglurwyd bod llawer wedi diodde'n fawr oherwydd hyn, ac y gwneir anghyfiawn- der â llu eraill oblegid nad oes ganddynt y moddion i deithio i'r llys gan ei belled. Dangoswyd hefyd bod llu yn methu siarad iaith gyffredin y llys; yr achosir annhegwch a cham-ddeall drwy hynny a bod y rhan fwyaf o 800,000 o Gymry yn y cwestiwn. Gall eich Comisiwn chwi wneuthur tro da dros degwch a rhyddid drwy glust- ymwrando ar y deisebwyr hyn. Gwaith yw y bydd yn rhaid ei gyflawni yn hwyr neu hwyrach. Pam nid yn awr 1-L. Mr. D. Rhys Phillips, Trefnydd Arholiadau'r Orsedd, I.lanelli. ANNWYL MR. PHILIPS, — Gyda gofid y sylwasom ei bod yn arfer gan y Bwrdd Arholiadau anfon canlyniadau eu gwaith i'r ymgeiswyr yn Saesneg. Buom yn dychmygu beth a ddigwyddai ped anfonai Prifysgol Rhydychen neu Gaer- gawnt ei chanlyniadau mewn iaith estron. Neu'r Institut de France. Èto, pan ddechreuo'r sefydliadau hyn ddefnyddio'r Gymraeg yn iaith swyddogol, dyna'r pryd y dylai'r Orsedd feddwl am ysgrifennu yn Saesneg. A rowch chwi'ch holl ddylanwad ar waith i gael gan yr Orsedd ddileu'r arferiad ehud hwn Diolch.-L. LAWNSLOD Yr Ysgrifennydd, Cymdeithas Alawon Gwerin a Dawnsiau Lloegr, Llundain. SYR,-Buom yn dyfalu sut na fuasai cyn- rychiolwyr o Gymru ymysg y 600 o ddawns- wyr o 17 o wledydd tramor, a'r ugain o ddawnswyr Mwraidd o swydd Rhydychen, fu'n cynnal Gwyl Ddawns Ryng-Genedlaethol yn Hyde Park ar y 15 o'r mis diwethaf. Nid oes wisg genedlaethol gan bobl Lloegr, a gorfu i'r Saeson ymddangos mewn dillad oedd yn gymysgedd o wlanenni a rhubannau. Yr oedd y Llydawiaid yn peri cryn edmygedd o'u gwisgoedd hwy, â phenwisgoedd pwynt d'Aunllac cain i'r merched. Edrychai'r Hwngariaid a'r Pwyliaid a'r Isellmyn hefyd yn orwych. Ond b'le'r oedd y Cymry ? Ddeuddydd ynghynt yr oedd y mabolgampau yn Aber- ystwyth. Gallesid bod wedi trefnu gyda'r adran hon o'r Urdd i gael cwmni o ddawns- yddion Cymreig yn yr ŵyl yn Llundain fuasai'n agoriad llygad i lawer. — L. Mr. A. E. Edwards, Ysgrifennydd y Dref, Rhyl. ANNWYL MR. EDWARDS, — Y mae eich cyd- drefwyr a chwithau yn haeddu curo'ch cefnau am eich agwedd iach, ystyriol a chenedl-garol tuag at y pwnc o wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'ch tref. Yr oedd yr awdurdodau a'r holl drigoUon yn awyddus i groesawu'r brifwyl i'w plith pan nad oedd yr un gymdogaeth arall yn dyfod ymlaen. Ond wedi i ddwy dref yn rhagor wneuthur cais am y sefydliad, rhoesoch ystyriaeth ddwys i'r sefyllfa., a dyma'ch penderfyniad Credwn na ddylem gystadlu â Bae Colwyn na Machynlleth. Y mae gan Fae Colwyn hawl hvn, gan iddi dynnu'i chais yn ôl yn 1931, ac y mae i Fachynlleth le am ystyriaeth am na fu'r Eisteddfod erioed o'r blaen ym Maldwyn." Campus. Dyma'r math ar gymdeithas- iaeth dda sydd wedi hybu'r brifwyl yn ei blaen o'r dechrau.-L. Mr. Caradoc Evans, Queen's Square, Aberystwyth. ANNWYL SYR, — Bu mudiad y ddrama," meddech yn ddiweddar, yn rhy hir yn ail- beth yng Nghymru. Un o anhawsterau mwya'r darlledwyr fydd paratoi ar gyfair synnwyr arab y Cymro." Da gennym yw gweld gwr fel chwi yn rhoi'r gorau i feirniadu'r Cymry ac yn troi ati i'w helpu. Gellir gwneuthur llawn mwy o les felly, a llai o elynion. Beth am lunio cyfres o raglenni Cymraeg digrif i'w cynnig i'r awdurdodau darUedu ? Ni byddai neb balchach o wrando ar eich gwaith na'ch cydwladwyr. Ac y mae gennych chwi'r holl ddawn a gwybodaeth sy'n eisiau at y gorchwyl.-L. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar OU a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidW yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr diwg Ar gael gan bob ceinist neu siop neu dorwyr gwallt, phe 3s. 6d., 7b., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue. London, E.C.l. J. H. & co.