Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhag Diffyg Chwaeth a Chwant Gan T.E.Morris Fig Tree Court, Llundain Ysgrifennydd Mygedol Cymdeithas Ddiogelu Harddwch Cymru Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, I'ob dyffiyn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd. — Ieuan ab Ingo. CAEL y bobl i gydweithredu i ddiogelu harddwch Cymru a sicrhau dat- blygiad trefnus a boddhaol yn ein trefi a'n pentrefi ac ym mhob man lle bo AXHARDDU'E ADWY I GYMRU YX Y FENNI GOLYGFA DLOS AR Y FPOEDD I OAEROYBI hynny'n angenrheidiol; perswadio'r awdur- dodau lleol i ddefnyddio'u dylanwad a'u hawdurdod i'r diben hwn, er enghraifft, drwy reoli gosodiad hysbysiadau a gorsaf- oedd naws petrol a hefyd drwy'r Ddeddf Gjnllunio Gwlad a Thref; deffro cydwybod gwlad a meithrin barn gyhoeddus i hyr- wyddo'r amcanion hyn a thrwy hynny sicrhau i Gymru Fydd etifeddiaeth ddilwgr- dyna a arfaetha'r Gymdeithas Ddiogelu Harddwch Cymru ei wneuthur-cvmdeithas y gwahoddir Cymry i'w chefnogi ac sydd a'i hadroddiad blynyddol newydd ymddangos. Ysgrifennodd Mr. W. Eames erthygl darawiadol i'r Ford GRON ar ein dyletswydd fel Cymry gwlatgar i wneuthur ein gorau i ddiogelu prydferthwch ein hoff wlad ac i gadw gogoniant ei golygfeydd godidog yn ddilychwin. Ysgrifennais innau lythyr byr, mewn rhifyn diweddarach, i ddiolch iddo am ei anogaeth amserol, ac i alw sylw neill- tuol darllenwyr Y Ford Gron at Gymdeithas DTMA SYDD EISIAU RHAGOR 0 HEOLYDD DA RU CYNLLUN FEL HON YN EHTWBISA Ddiogelu Harddwch Cymru, a sefydlwyd wyth mljnedd yn ôl. Cydwelwyd â'r syniad o gychwyn y Gymdeithas yng nghyfarfod y Cymmrod- orion yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, pryd y traddododd Arglwydd Boston, un o bendefigion Môn, araith ffraeth ac ymarferol yn canmol prydferthwch dihafal Cymru wledig, ac yn amlygu sut yr hacrir ein gwlad mewn llawer ardal, a sut y di- fethir tlysni ambell fro a dyffryn, ac y maeddir rhannau helaeth o'n gwlad trwy flerwch ac annhrefn, canlyniad diffyg chwaeth yr unigolyn neu anwybodaeth ein hawdur- dodau cyhoeddus. Sefydlwyd y Gymdeithas yn ddiymdroi wedi'r cyfarfod hwn, trwy gyfrwng a than nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion. Gweithiodd y Gymdeithas yn ddiflino yn ystod y saith mlynedd er ei sefydliad. Nid ydyw efallai wedi synnu'r cyhoedd, ond y mae ymdrechion ei phwyHgor gwaith yn swyddfeydd y Llywodraeth, gyda chyd- POLIOS TRYDAN ASOHYDWEDD GER CAPEL CÜRIG