Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crafangwÿr Bydol Cadwer Ni NID OES BI8IATJ COED A ANURDDWYD weithrediad pwyllgor y chwaer-Gymdeithas Seisnig, ynghyd â'r gwaith distaw a wneir trwy ei ganghennau sir (oherwydd y mae erbyn hyn gangen neu bwyllgor ym mhob sir yng Nghymru a Mynwy) wedi bod yn hynod effeithiol. Cydweithia'r pwyllgor gwaith yn frwd- frydig â phob cangen sir, a gwna yr hyn a all i ddatblygu a hyrwyddo pob cynnig neu fudiad o'u heiddo er lles a budd i dref neu ardal, a hynny, yn aml, yn gyfrinachol am resymau neilltuol; a phob amser, yn ddioed. Mantais fu'r ffaith bod pwyllgor gwaith y Gymdeithas yn cyfarfod yn Llundain, Ue yr eistedd y Senedd ac y llunir ein deddfau a'n rheolau swyddogol. Yn swyddfeydd y Llywodraeth. Galluogir y pwyllgor i wneuthur gwasan- aeth dirfawr yn swyddfeydd y Llywodraeth trwy awgrymu llinellau priodol yn narpariad deddfau a rheolau yn ymwneuthur â chadwr- aeth prydferthwch gwlad, neu yn ymdaro ar werth a mwynhad ein bywyd gwledig. 0 dipyn i beth y mae'r wlad yn sylweddoli pa ryw gyfalaf sydd iddi yng ngogoniant natur, ac yn deffro i'w chyfrifoldeb o ddiog- elu'r prydferthion sydd yn aros, 0 leiaf, hyd yn hyn, rhag eu hanurddo a'u difodi. Y mae'n eglur ddigon i bawb nad ystyria'r crafangwT bydol degwch bro yn gysegredig pan fo i'w fantais hunanol ef i'w anwybyddu. Ond os aeth llawer llecyn tlws yn aberth i'w chwant anystyriol ef, difwynwyd llawer rhagor gan yr erchyllterau a gyflawnir gan y di-chwaeth a'r di-feddwl. Os ydym i ddiog- elu ein hetifeddiaeth rhaid i ni gyd-weithio a chyd-drefhu yn feddylgar, gan gyd-symud yn íWdfrydig a doeth, fel na ddyfarno'r: dyfodol ni yn euog o ddallineb na llwfrdra. Cymhellaf bob Cymro a Chymraes sy'n caru lles eu gwlad i roddi pob cefnogaeth a chyn- horthwy i chwanegu at nerth a dylanwad y Gymdeithas. Gall y darllenydd gyflawni cryn wasanaeth trwy hysbysu ysgrifennydd y Gymdeithas neu ysgrifennydd y pwyll- gor sir pan anurddir ei gymdogaeth. Gofyn- naf iddo gadw'r wlad yn lân trwy ddinistrio ysbwriel, papurach a phethau cyffelybi ac os yw'n cymryd pryd yn yr awyr agored, i ofalu glanhau r Ue cyn ymadael. Anogaf ef i brynu mewn siopau naws petrol di- dramgwydd, a geir ar ein priffyrdd, yn hytrach na mewn rhai hyU. Cynllunio hefyd. Gobeithia'r Gymdeithas y bydd y plant ac eraill yn gynnil wrth gasglu blodau gwylltion ac y gochelant rhag eu tynnu o'r gwraidd. Dymrma'r Gymdeithas i bob un sy'n codi ty neu adeilad arall, yn enwedig mewn bro wledig, i ofyn am gyngor un o bwyllgor y Penseiri. Y mae llawer o'r tai a'r adeiladau a godwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn neilltuol ar hyd ochrau'r ffyrdd o'n trefydd a'n pen- trefydd, yn bur anghydwedd â'u hamgylch- oedd, ac yn aml yn anharddu'r Ue. Y mae cynllunio cymwys gogyfair â'r dyfodol ymhlith amcanion y Gymdeithas, yn ogystal â diogelu gorau'r amser fu ac y sydd. Cyn byth y gellir dwyn yr holl amcanion hyn i ben rhaid wrth fwy na gwybodaeth am yr erchyllterau. Hyd yn hyn dibynnodd y Gymdeithas am ei pharhad a'i bod ar haelioni Americanwr a rhodd sylweddol bob blwyddyn oddi wrth y Carnegie Trust yn hytrach nag ar gyfraniadau ei haelodau. Defnyddiwyd y rhoddion hyn i dalu costau'r swyddfa a'i chyhoeddiadau cyson. Os yw'r gwaith i barhau, rhaid wrth gefnogaeth ariannol y cyhoedd. Gellir ymuno â'r Gymdeithas fel aelod o dalu lleiafswm blynyddol o hanner gini, neu fel cefnogwr, trwy dalu lleiafswm o hanner coron. Caiff pob aelod holl gyhoedd- iadau'r Gymdeithas, ac anfonir yr adroddiad a gwahoddiad i'r cyfarfod blynyddol, i bob cefnogwr. Ni chyfyngir aelodaeth i unigolion. Es- tynnir gwahoddiad i gymdeithasau ac ys- golion ar delerau neilltuol. Gellir cael y manylion o'r swyddfa. Llywydd y Gym- deithas yw'r Arglwydd Howard de Walden, a Mr. Clough WUliams-EUis ydyw cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol, Mr. J. D. K. Lloyd yw ysgrifennydd medrus a gweithgar y Gymdeithas, ^a chyfeiriad y swyddfa yw 17, Great Marlborough Street, Llundain, W.l. — NAC ARDALOEDD GWLEDIG A DDawYNWYD Dengys y seithfed adroddiad blynyddol (1934) sydd newydd ei gyhoeddi fod y Gymdeithas yn gwneuthur llawer o waith da ac amrywiol i gadw wyneb Hen Wlad ein Tadau yn deg a glân. Dim ond un sir yng Nghymru (Maesyfed) sydd heb fabwyso rheolau i reoli hysbysiadau. Derbyniodd 11 o siroedd Cymru reolau i wahardd taenu ysbwriel neu bapurach ar gaeau ac ar fin y ffyrdd. Y mae naw o'r siroedd yn defn- yddio'u hawdurdod i amddiffyn blodau gwylltion, a chwech yn gwahardd codi gorsafoedd naws petrol hyUion. Pwysleisia'r adroddiad werth aesthetig beddfeini o ddefnydd cartref rhagor marmor gwyn o'r Eidal yn ein mynwentydd, a chadwraeth hen bontydd hardd. Sonia hefyd am fan- teision plannu coed ac am y diddordeb cjŵedin yn y mudiad i gael Parc Cenedlaethol i Gymru yn Eryri. Yn Barod. RHESTR TESTUNAU Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, ABERGWAÜN, 1936. Pris, 11- Trtcy'r Post, 113. RHESTR TESTUNAU Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, BLAENAU FFESTINIOG, 1936. Prís, Ø. Trucy'r Post, 7d. AR WERTH GAN LYFRWERTHWYR YM MHOBMAN. HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM.