Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pam y mae'r Almaen yn erbyn yr Iddew? PAHAM y tyrfai myfyrwyr Berlin yn erbyn yr Iddewon gymaint â 27 mlyn- edd yn ôl, a hwythau'n gwybod bod rhai o athrawon blaena'r Brifysgol a dinas- yddion enwocaf Berlin yn Iddewon parchus ? Cefais i gip ar dri o Iddewon Berlin, ac er nad oeddwn i yn teimlo fawr o ddiddordeb yn Iddewon y ddinas, dichon bod y tri a welais yn gynrychiolaeth deg ohonynt-ac os gwir hyn, hawdd deall cynddeiriogrwydd Hitler. Gwaith deir yw casglu gwybodaeth-ond geill pawb gasglu rhywfaint ohono gwaith dengwaith deirach yw gosod safonau gwastad i farn deg—ac wedi gweithio, ychydig sy'n llwyddo. Wrth wrando a darllen y papurau heddiw, gellid tybio bod miloedd o bob haen o gym- deithas yn awdurdodau terfynol ar Rwsia, yr Almaen a'r Eidal. Condemniant Gomun- iaeth Rwsía, a Hitleriaeth yr Almaen, a Ffasgaeth yr Eidal mor oraclaidd a therfynol nes peri i ddyn cyffredin dybio mae hwy yw ceidwaid cyfrinach y Barnwr Mawr, a bod hwnnw, fe ddichon, yn gohirio traddodi barn nes gwybod meddwl y gwvr hyn. Y Sais a'r lleill. Y mae'r Sais, wrth reswm, yn gallu gwneud hyn yn raenus iawn, oblegid y mae ganddo ef, yn anad neb, athrylith i anghofio'i ffaeleddau ei hun a chadw'i ddau lygad yn rhwth ar eiddo pobl eraill. Pastynnwyd Hitler a'r Almaen yn ddi- weddar gan Brydeinwyr am drin yr Iddew mor giaidd, ac yn ddibetai, y mae hynny yn ymddangos yn beth hyll. Cydnebydd pawb, ond odid, fod cyfran yr Almaen i ddiwylliant y byd yn gyfran ogoneddus iawn, a'i hymdrech am addysg yn un o'r penodau godidocaf yn hanes Ewrob; cydnabyddir mor rhwydd â hynny mai Iddewon ydyw rhai o wyr disgleiriaf diwyll- iant yr Almaen. Ai rhyw chwa wallgof ydyw'r chwa hon yn yn erbyn yr Iddew, sydd wedi cronni o ddig- llonedd ar anffodion yr Ellmyn ar ôl y rhyfel? Ac ai chwilio am ryw fwch diangol yn rhywle y mae yn ei ing a'i ofid ? Felly y geUid meddwl oddi wrth yr oraclau a saif ar drothwy Delphi Prydain bob dydd. Y gwr ar ben y grisiau. Pan oeddwn i yn Berlin yn 1908, byddai gan fvfvrwyr y Brifysgol yno gyfarfod yn fynych yn erbyn yr Iddewon, a bu gennyf gasgliad o bamffledi'r myfyrwyr yn cyhoeddi'r cyfarfodydd hyn. Teithiwn weithiau i'r Brifysgol gyda'r ffordd dan y ddaear o Nollendorf Platz. Ar ben y grisiau, wrth esgyn i'r golau o'r orsaf fwyaf cyfleus i'r Coleg, safai gŵr oedd mor Iddewig ei wedd a'i ddiwyg â'r un Iddew ar a welais i erioed. Y gaeaf ydoedd hi. Yr ganddo ddigon o floneg i'w gadw'n gysurus, eithr at hynny, yr oedd ganddo gôt fawr o bân trwchus, a chroen drud am arddwrn a gwddf, a bysedd ei law yn fodrwyog. Yr oedd ganddo ddyrnaid o gardiau llwyd- las yn ei law chwith. Estynnodd un i mi, a Os yw'r Elìmyn ieuainc yn gweld llygredd yr Iddewon sydd yn et wlad yn ei liw iatcn, nid yw ymhetl o weid pob llygredd yn ei liw iawn." Gan Timothy Lewis gwelais ei bod wedi ei hargraffu yn ddillyn iawn gan grefftwr cel- fvddus. Tybiaswn mai gwerthu llyfrau neu rywbeth felly yr oedd yr Iddew, a derbyniais ei gerdyn yn awyddus. Eithr erbyn manylu, neges y cerdyn celfyddus ydoedd fy ngwahodd i a'm tebyg i ryw dv yn un o rannau mwyaf parchus Berlin gerllaw palas yr Ymherawdr yn y lustgarten, a dweud bod Gretchen a Margarete mewn hwyl dda, ac yn gobeithio fy ngweld i yn treulio noson yn eu cwmni ar fyrder. Yr oedd neges cerdyn y gŵr mod- rwyog yn ddigon amlwg i ddyn â hanner llygad ei ddarllen. Dehongli'r neges. Yr oedd gennyf gyfaill newydd gyrraedd Berlin, â'i Ellmyneg yn rhy brin bron i ofyn am stamp yn y llythyrdy. Ei ffordd ef o ddysgu'r iaith oedd ar bwys ei Feibl a'i eiriadur. Cawsai yntau hefyd gerdyn gan yr Iddew ar ben y grisiau. Pan gyrhaeddais adref y noson honno, gwelwn ef wrth y ffenestr â'i ddau benelin ar ei fwrdd bach, a'i ben yn pwyso'n fyfyrgar ar ei ddwy law. O'i flaen gwelwn y cerdyn llwydlas dillyn, ac yntau â'i holl egni yn ceisio ei ddehongli — Testament Luther ar y chwith, Testament Saesneg ar y dde, a geiriadur Whitney gerllaw. Chwerthin yn iachus a wnawn i wrth edrych ar yr olygfa ond wedi colli diffuant- rwydd dyddiau coleg, yr wyf yn gweld mai diniweidrwydd fy nghydfyfyriwr yn pwyso ar y ddau Destament yw'r unig ffordd i ddar- llen yn iawn neges yr Iddew tagellog. Beth bynnag a ddywaid y ddau Destament am faddau i elyn, yr unig le diogel i bob Iddew halog o'r fath ydyw y tu allan i ffin gwareiddiad. Dyna'r Iddew cyntaf a welais i yn Berlin. Y porth ar glo. Yr oedd perthynas i Roosevelt yn cyd- letya â mi-neu yn hytrach yn cyd-fwyta â mi bob dydd yn ôl arfer myfyrwyr. Berlin. Byddem bob nos bron yn dadlau am ryw- beth neu'i gilydd, ac weithiau byddai'n hwyr iawn arnom yn troi adre i'n llety. Ystafell- oedd unllawr, gan mwyaf, oedd yn Berlin. Tuag un-ar-ddeg o'r gloch diffoddid y golau a chloid drws y porth mawr. Oni byddai allwedd y porth mawr gan ddyn, rhaid talu dirwy i'r porthwr am agor wedi un-ar-ddeg. Un noson, buasai'r dadlau'n frwd a maith, a'r porth ar glo a'r golau'n niffodd pan gyrhaeddais fy llety. Yr oedd fy ystafell i ar y trydydd llawr, a phan oeddwn ar yr ail dro ar y grisiau yng nghanol y tywyllwch, wele ddau ergyd o ddryll a rhyw gorffyn trwm diymadferth fel sachaid o flawd yn svrthio'n giwt am fy mhen a chenllif o lyfon oer yn fy nilyn fel y svrthiwn dwmbwr dambar i lawr y grisiau. Yr oedd lamp ar gyfair ein drws ni ar y palmant, a rhuthrais allan i olau a diogelwch honno, a'r sach flawd wedi dadebru yn rhuthro ar fy ôl i. Esbonio'r peth yn fanwl. Erbyn cyrraedd y lamp, gwelais y gallai'r sach fod yn ŵr bonheddig o ran ei bryd a'i wedd. Dywedodd wrthyf mai wedi dod i geisio denu ei wraig jn. ôl ato yr oedd. Yr oedd hi a'i mam yn byw o dan yr un to â mi, wedi ffoi am loches jnorhag ei gŵr anffydd- lon ac yn hytrach nag ymddiried ynddo yr ail waith, wedi ceisio'i saethu. Ar ôl adrodd ei chwedl. ceisiai gennyf ddyfod gydag ef ganol nos felly at yr heddlu. Gwrthodais, eithr addewais ddyfod dran- noeth os deuai i'm cyrchu, eithr ni ddaeth. Yr oedd arnaf ormod o ofn bellach ddychwelyd i'm hystafell, rhag i'r wraig gynddeiriog fy nghamgymryd i am ei gwr yn v tywyllwch. Bwriais y gweddill o'r nos ar leithig anniddig yn y fy y bwytawn fy mhrvdiau bwvd ynddo. (I dudalen 240.)