Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dilynwch Hyn ac Enillwch ar Adrodd TT MAE i'r parabl a'r llais a'r corff a'r cof a'r deall eu Ue mewn adrodd da. Credaf mai'r ffordd orau i ddar- ganfod y pwyslais synhwyrol mewn brawddeg yw ei throsi i iaith lafar, oherwydd anaml iawn y ceir pwyslais anghywir mewn sgwrs bob dydd," meddir yma. DEG gorchymyn i'r adroddwr. Dil- ynwch y sylwadau hyn ac nid hwyrach yr enillwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol ryw ddydd. Pwy ŵyt ? Mewn oes y mae ynddi gymaint o an- wybyddu ar orchmjnion, nid hwyrach y teimhr mai rhyfyg ar fy rhan yw mentro cynnig rhai i adroddwyr. Ond o sylwi ar feian a rhagoriaethau llu o adroddwyr y cefais y fraint o'u beirniadu. credaf nad anfuddiol fydd y sylwadau hyn i rai ohonynt. Ysgrifennais yn arbennig i adroddwyr ieuainc sy'n awyddys i loywi eu doniau, a pherffeithio'r gelfyddyd o adrodd. Ni fwr- iedir y gorchmynion hyn i'r arbenigwr a gyrhaeddodd eisoes Ganaan adrodd. Fe gydnebydd pawb fod rhai pethau cynhenid sy'n rhaid eu meddiannu cyn y gall unrhyw un fod yn adroddwr. Ar sail hynny, y gorchymyn cyntaf i'r adroddwr ydyw iddo'i holi ei hun a fwriadodd y nefoedd iddo fod yn adroddwr. Os oes nam amlwg ar leferydd unrhyw un, ni ddylai geisio adrodd, oherwydd y garreg sylfaen yw Uefariad clir a chroyw. Loes i'm calon fydd gwrando ar rai nas breintiwyd á rhwyddineb parablu, yn ceisio adrodd. Fy hunan, ni chyfrifaf fethiant gyda'r gytsain r yn rhwystr, gan fod rhai o'r adroddwyr gorau a glywais yn swnio'r r yn y gwddf Dysgu a deall. Yr wyf yn sicr bod Uu o adroddwyr yn adrodd heb ddeall amryw eiriau a brawddegau yn yr adroddiad ac y mae pob dehongliad anghywir yn brawf o ddiffyg astudiaeth. Os bydd adroddwr yn adrodd telyneg seml yn union yn yr un dull á darn dramatig dyweder, fe brawf nad yw'n deall beth yw telyneg i ddechrau. Astudied yr adroddwr yr hyn y bwriedir ei adrodd yn bwyllog a gofalus. Dylid gwneuthur yr astudiaeth cyn dechrau dysgu'r un sillaf. Na fentred yr un adroddwr i adrodd darn caeth, heb ddeall cynghanedd yn gyntaf. Nid anfuddiol, mi gredaf, fuasai holi ambell adroddwr yn y rhagbrawf, ar ystyron geiriau a brawddegau, fel y gwnâi'r diweddar Mr. Parry Williams (tad yr athro adna- byddus). Collwyd y wobr gan lawer un oherwydd anwybyddu dysgu'r adroddiad yn berffaith gywir yn y cof. Onid hwn yw y gorchymyn cyntaf ? Heb sicrwydd pendant o'r geiriau yn y cof y mae'r meddwl, nid ar yr hyn a Gan Alun Ogwen Williams Yr Ysgol Ganol, Pwllheli ddywedir ond ar yr hyn sydd i'w ddywedyd. Canljniad naturiol hyn yw bod yr adroddwr, nid yn ceisio rhoi rhywbeth ym meddwl y gynulleidfa, ond yn ceisio cael gwared o rywbeth o'i feddwl ei hun." Oslef a phwyslais. Un o'r doniau cynhenid yw llais clir soniarus, ond gellir helpu natur drwy ym arfer cywir. Gresyn na chredai adroddwyr fod disgyblu'r llais mewn ansawdd ac oslef cyn bwysiced iddynt hwy ag ydyw i gan- torion. Ni ddysgodd llawer o'r adroddwyr a glywais, sut i anadlu'n gywir eto, a pha obaith sydd ganddynt i gynhyrchu'r llais yn gywir heb hyn ? Y mae ambell adroddwr er hynny a freiniwyd â llais ardderchog yn difetha'i adrodd drwy wneuthur arddangosiad o'i lais. Bai cyffredin yw pwysleisio ar ormod o eiriau mewn brawddeg, nes y ceir nifer o guriadau ac adrodd plyciog. Wrth wneuthur hyn, fe gollir Uyfhder y farddoniaeth. Credaf mai'r ffordd orau i ddarganfod y pwyslais synhwyrol mewn brawddeg yw ei throsi i iaith lafar, oherwydd anaml iawn y ceir pwyslais anghywir mewn sgwrs bob dydd. Dylid gofalu hefyd am bwyslais ysgafn a thrwm fel y bo'r angen. Amser a brawddegu. Gofaled yr adroddwr amrywio'r amseriad wrth adrodd. Y mae undonedd amseriad bron mor ddiflas i wrando arno ag undonedd Uais. Ofer hollol yw cyflymu ac arafu rywsut-rywsut, rhaid dethol yn ofalus ac ymarfer cyn ymddangos ar lwyfan. Buddiol fuasai i'r adroddwr farcio'r rhannau yn yr adroddiad, wrth ei astudio, gyda'r termau a ddefnyddir mewn miwsig. Y mae seibiant hefyd yn bwysig. Dylai'r seibiant olygu rhywbeth bob amser, neu y mae'n ddiwerth hollol. Y mae'n rhaid i'r adroddwr wrth frawddegu synhwyrol. Nid oes angen cadw'n gaeth i'r atalnodau, oherwydd nid ydynt hwy yn y Ueoedd cywir bob amser. Fel hyn yr adroddir llinell o farddoniaeth gan amryw A'm taid yn ei ddal o hyd. I mi, fe goUir holl swyn barddoniaeth wrth dorri llinellau yn dameidiau mân fel hyn. Na thynned yr adroddwr sylw'r gynull- îidfa at yr hyn mae'n ei wneuthur ar y lwyfan, ond at yr hyn y mae'n ei ddywedyd. Yt unig ffordd yw gofalu am safiad bonheddig tr lwyfan, a rheoli pob ystum ac osgo. Na wnaed yr adroddwr unrhyw ystum y gellir ei hepgor. Gofaled nad êl ei ystum yn stumiau." Pechod parod y rhan fwyaf o adroddwyr yw gor-wneuthur. Y mae mwy o angen iysgu gwerth cynildeb na dim. Bûm yn ^wrando droeon ar rai mewn rhagbrofion, ig arswyd yn fy nghalon rhag i wythiennau'r gwddf hollti neu i ryw anghaffael enbyd arall ddigwydd i'r adroddwr. Nid dychymyg yw hyn, ond gwirionedd. Yn olaf, peidiwch â meddwl, pan golloch, fod gan y beirniad ryw ragfarn bersonol yn eich erbyn, ac amau ei onestrwydd a'i IdidwyUedd. Dysgwch ennill a choUi'n foneddigaidd. Onid oes gennych ffydd yn y beirniad, peidiwch â chystadlu. Mr. W. Ambrose Bebb, awdur yr erthygl ar dudaHennau 218 a 219. 'ADAR TREGARON' CYNGHERDDWYR DIFYR Y B.B.C. DAN ARWEINIAD Y Prif ADERYN, DAI WILLIAMS. Y mae cyngherddau'r Adar yn wahanol i ddim a glywir yn gyflredin ar lwyfan. Trefnir y rhaglenni gan Idwal Jones. Y mae pob rhaglen yn ysgafn a difyr a chynnwys ganeuon digri, sketches, adroddiadau, un- awdau, penillion, etc., a'r cwbl yn Gymraeg. Ymddengys y parti mewn gwisgoedd pryd- ferth, wedi eu llunio yn arbennig ar eu cyfer. Rhai Cyhoeddiadau B.B.C., Mis Medi. Trefeirig, 27 Medi. Llundain (Neuadd y Cvmrv Ieuainc), 31 Hydref. Cwrt Henry, mis Hydref. Tal-y-bont, 6 Tachwedd. Talgarreg, 16 Tachwedd, etc. Manylion am delerau'r parti oddi wrth IDWAL JONES, RHOSLWYN, LAMPETER.