Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

5 3 l 9 ^mgais yn yr Eisteddfod Eleni "y MAE Caernarfon yn gartref i'r Eis- teddfod. Bu rhagor o Eisteddfodau Cenedlaethol yma yn ystod y can mlynedd diwethaf nag yn un o drefi Cymru. Bu'r cyrddau bob amser yn Uwyddiant. Ac nid syn hynny pan gofiwn fod Caernarfon yn dref sy â'i thrigoUon i gyd yn Gymry, yn siarad yr iaith yn yr heol a'r swyddfa, yn y siop a'r gwaith," meddir wrthym mewn hysbyseb. Meddai ymheUach Gosodwyd prifddinas Gwynedd a phorth Eryri yn fluniaidd ar lan afonydd Saint a Menai, dan gysgod y castell enfawr a eilw Pennant yn fathodyn gwychaf ein gorchfygiad.' I'r dref hon yn ystod wythnos gynta'r mis hwn, gobeithio, y tyrrir wrth y miloedd. Daw gwyrda Môn ac Arfon gan deithio drwy Fangor a'r Felinheli o Lyn deuir drwy Glynnog neu LanUyfhi a Llanwnda; o Eifionydd, drwy fwlch Aberglaslyn, Bedd- gelert a'r Waunfawr; o waelod dyffryn- noedd Conwy a Chlwyd, drwy Gapel Curig a bwlch Llanberis o orUewinbarth Môn dros Geubalfa Menai, ac o'r gweddill o Gymru a'r byd, ar hyd y cwbl o'r ffyrdd hyn. Yr oedd 354 o gystadleuaethau i ddewis ohonynt yn y rhestr testunau, ac yn ôl y rhaglen sydd newydd ymddangos y mae o leiaf un enw ar gyfair pob un ohonynt, oddieithr deuddeg. Y mae 2029 o enwau wedi dyfod i law'r ysgrifennydd yn y gwahanol gystadleu- aethau. Os lluosogir y rhif hwn gan nifer yr aelodau mewn corau, cwmnîau a phartïon, ceir bod cyfanswm y troeon yr ymgeisir gan y cystadleuwyr tua 5319, ar wahân i gannoedd eraill yn y cwmnïau drama. Rhagor o ganu gyda'r tannau. Y mae'r ffaith fod rhagor o ganwyr gyda'r tannau nag a fu ers blynyddoedd yn arwyddo'n dda am ddyfodol y gelfyddyd hon yng Nghymru. Ceir 25 o ymgeiswyr i bob oed, 15 dan ddeunaw, a 14 yn y gystad- leuaeth arbennig er cof am J.E." Cenir barddoniaeth rydd a chaeth, yn ogystal â rhyddiaith. Pa bryd y cynigir gwobr am unawd ar y delyn deires ? Ymgeisia tri thelynor ddydd Mercher a phedwar ddydd Gwener, ar geinciau estron gan mwyaf. Ceidw'r fiola, y telgorn a'r torbib eu pennau ag un cys- tadleuwr yr un; ceir tri chwibanoglwr, wyth soddgrythor ac wyth organydd. Gwael yw rhai o'r cystadleuaethau offer eraill. Ceir dau bedwarawd tannau, un gerddorfa dan- nau dan 16 o rif, un gerddorfa yng nghwrdd Sadwrn, tair cerddorfa ysgol, tri thriawd offer a phedwar deuawd crwth a phiano. Addo ymdrechu tynn. Am y rhelyw enfawr o'r cystadleuaethau y mae rhifedi'r omestwyr yn uchel ac yn addo ymdrech dynn. Cais tri chôr o dros 130 aelod yr un am y brif anrhydedd gorawl, sef yr eiddo Llanelli, Caerdydd a Sale. Bydd tri o gorau plant a phedwar o gorau gwlad. Y mae pump o brif gorau meibion, Golygfa ym Mharc Caernarfon. chwech o gorau ysgol, saith o ail brif-gorau a naw o aU-gorau meibion, deuddeg o gorau merched, a 13 o gorau plant. Diddorol yw sylwi bod bron yr un nifer o grythorion, sef 35, ag o bianyddion, sef 48, yn nwy gystadleuaeth y naill a'r llall. Y mae nifer y seindyrf fore Llun yn gadarn hefyd-25 mewn tair cystadleuaeth. Dyna dda oedd eu rhybuddio i beidio ag ymarfer o fewn dwy filltir i'r babell. Bydd 31 yn tynnu'r dorch gyda champ- waith yr Athro T. Gwynn Jones, Caled- fwlch" (o'r Caniadau), ac ugain gydag awdl Eifion Wyn i'r Merthyr," y darn sy'n cynnwys yr englyn Ni bu oes na bu'i eisiau, — ni ddaw un Na ddwg ôl ei gamau Anfonedig cyfnodau, Ar ei groes myn drugarhau. Yr unawdau'n tynnu. Bydd 25 o ferched yn adrodd dernyn Pantycelyn i'r ferch, a thros hanner cant o blant yn dehongli teljneg seml Eifion Wyn. Bydd unawdau'r genedlaethol" bob amser yn tynnu, nid yn gymaint am y wobr, nad yw'n ddigon yn aml i dalu'r costau, ond am yr enw a'r bri; ac nid amgen eleni. Daw'r ddeuawd soprano a chontralto yn isaf gyda deg, yna'r mezzo-soprano a'r bas gyda 17 ill dau y mae i'r baritôn, y tenor a'r contralto dros 20, a cheir 40 soprano yn ymgeisio. Y mae 85 o blant rhwng dwy ^ystadleuaeth unawd. Nid ar ganu ac adrodd yn unig y bydd byw yr eisteddfod. Yn ogystal ag omestau brwsio clwyfau, i ferched a dynion, a dawnsio jwerin i gwmnïau o 60, ceir pethau eraill i dorri ar ddim undonedd a allo fod yn y cyrddau. Dyna ddefod agor yr eisteddfod fore Llun, gyda'r Archdderwydd, y Maer, y Cadeirydd a Chôr yr Eisteddfod, sy dros 250 mewn nifer. Rhoddir cân yr eisteddfod hefyd bob bore gan gantor o fri; coronir y pen prydd- estwr a derbynnir plant yr Urdd ddydd Mawrth cadeirir y prif awdlwr, derbyn y ddirprwyaeth o Abergwaun, croesawu'r Cymry ar wasgar a gwrando ar araith Uywydd yr Eisteddfod, Mr. Lloyd George, ddydd Iau. Yna bydd dau anerchiad y dydd gan lyw. yddion y gwahanol gyfarfodydd, prifion cenedl bob un ohonynt. Cyrddau eraill. A beth am gyrddau Uiwgar yr Orsedd yn y Castell, am chwarter wedi wyth fore Mawrth a Iau ? A'r cyngherddau bob nos yn eu tro, gan gôr plant yr Eisteddfod (tua 750), Cerddorfa Symffon Llundain a Chôr yr Eisteddfod. Datgeiniaid blaena'r gwledydd Celtaidd hefyd, a Chôr Ystalyfera. Heb anghofio'r arddangosfa gelfyddyd a chrefft fydd drwy'r wythnos yn yr ysgol genedlaethol, a'r babell arbennig yn y Cei Llechi, lle bydd y profion drama terfynol. Ectir un-ar-ddeg o ddramâu yma ar wahanol ddyddiau o'r wythnos. Nac ychwaith y cystadlu a'r beirniadu diddorol yn y babell lên a'r babell gerdd. Cefndir o gymreigrwydd dwys a golygfeydd hudol Eryri, sylfaen o gystadleuaethau pob- logaidd a threfniadaeth wych dyna'r wythnos o lawenydd sydd gan Eisteddfod C!aernarfbn i'n denu. M. ap T