Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhamantau i Ddifyrru'ch Gwyliau Yng ngwasg Hughes a'i Fab y cyhoeddwyd ac y cyhoeddir rhamantau Yn eu mysg, y mae'r rhai a ganlyn gyda'r mwyaf poblogaidd. Olrhain twyllwr i'w wal. CYFRINACH YR AFON STEPHEN OWEN TUDOR. Yn ôl y beirniaid-bu'r rhamant hon yn fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol-y mae hon yn ymgais lwyddiannus i daro ar ddir- gelwch newydd. Y mae'r syniad sydd yn y stori," meddir, yn un da-caseg werthfawr yn cael ei lladd drannoeth ei buddugoliaeth fawr mewn arddangosfa a chael gŵr a allsai fod yn gwybod rhywbeth am y peth wedi boddi ymhen rhai dyddiau. Nid llofruddiaeth gyffredin sydd yma eithr dyrysbwnc allan o'r cyffredin." Rhwymwyd y llyfr mewn lliain coch, pris 2s. 6d. Antur, rhufyg, gwrhudri. dirgelwch MADAM WEN W. D. OWEN. Y mae'r stori hon wedi cyrraedd ei hail argraffiad ac yn dal yn ei bn. Rhamant am ddyddiau Iago Frenin ydyw, wedi ei gosod ym Môn. Darlunir smyglwyr a marchogion ceffylau cyflym, lladron pen ffordd, yswain ac arweinydd ddirgel a phrydferth o ferch. Llyfr i w ddarllen â'r gwynt yn ein dwrn. Cynnwys 188 tudalen, pris mewn lliain, 3s. 6d. Deffroad enaid mewn rhyfel degwm. GWR PEN Y BRYN E. TEGLA DAVIES. Rhamant o gyfnod y Rhyfel Degwm tua diwedd y ganrif ddiwethaf, pan ddeffrôdd enaid gŵr Pen-y-bryn. Dechrau'r stori yn gymhedrol ac yn araf, gan ennill nerth a diddordeb nes yn y diwedd ein cludo ar lif o gydymdeimlad, nes teimlo o ddyn awydd ei darllen eilwaith. Bydd darllen mawr ar y nofel hon, ac ni synnem glywed bod rhuthr anghyffredin amdani. Y mae yn nofel â gafael yndd­yn llond llyfr trwchus o stori. — Yr Herald Cymraeg. Cynnwys wyth o ddarluniau gan Illingworth. Pris, mewn lliain, 3s. 6d. Darlun hyw, llawn lliw lleoedd. BUGAIL GEIFR LORRAINE EMILE SOUVESTRE Ac R. SILYN ROBERTS. Yn y stori swynol hon, Hawn hud yr oesoedd canol, daw Siân d'Arc i mewn fel un o'r cymeriadau, er nad y prif un. Llwyddwyd i ddwyn awyrgylch y cyfnod cythryblus hwnnw yn y darlun byw hwn sy'n llawn lliw lleoedd. Y mae'r cyfieithiad yn llithrig ac yn darllen fel gwreiddiol. Rhwymwyd mewn lliain, pris 2s. 6d.. HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM. pwyyica'r iaith Gan un o brif feistrír stori fer. STORIAU RICHARD HUGHES WILLIAMS GYDA RHAGYMADRODD GAN E. MORGAN HUMPHREYS. Yr oedd awdur y 19 stori fer hyn yn un o brif feistri cydnabydd- edig y stori fer Gymraeg. Haera'r News-Chronicle nad oes mo'i hafal fel portreiedydd y chwarelwr yn ei alwedigaeth a'i dreialon. Ni wn am neb eto a fedrodd wneuthur i'w bobl siarad mor naturiol â Richard Hughes-Wilhams. Ac nid disgrifio cymeriadau yn unig a wna gyda siarad. Gall gyfleu awyrgylch trwyddo. Nid oes un gair yn stori'r Hogyn Drwg yn disgrifio'r lefel. Ond drwy siarad Harri a Dic gallodd yr awdur gyfleu holl dduwch a thrymder y twll diobaith hwnnw. Yn y storiau digrif, anodd peidio â chwerthin dros bob man. — Kate Roberts yn Y FoRD Gron. Mewn lliain hardd, pris 2s. 6d.. Stori garu ramantus. LONA YR ATHRO T. GWYNN JONES. Ceir yma ddarnau godidog o lenyddiaeth, disgrifiadau craff a threiddgar o natur a dadorchuddiad meistrolgar ar helynt a phroblem enaid. Talai'n dda i bob Cymro a Chymraes ei darllen. — Y Cyfarwyddwr. Am Lona, byddwch wedi'ch swyno wrth ddarllen y llyfr. Cymeriad annwyl a phrydferth dros ben yw Lona, ac y mae hi yn sicr o'ch dotio. — Y Winllan. Stori garu ramantus, berffaith.— Saunders Lewis yn y Cambrian Daily Leader. Pris mewn rhwymiad lliain, 2s. 6d. Gan brif nofelydd Cymru. RHYS LEWIS DANIEL OWEN. Yn y llyfr hwn deuir i gyfathrach â Mari Lewis, Wil Bryan, y bachgen deallus, ysmala a'r digrifa fu erioed, a Tomos Bartley. Y mae Wil Bryan gyda'i natur dda, ei ddeall cyflym. ei ysmaldod a'i ddireidi dideifyn yn goleuo'r nofel drwyddi. Mewn rhwymiad lliain, pris 5s. Anturiaethau digrif ym Mon. DIALYDD BACH PLWY RHOSLYDAN J. R. LLOYD HUGHES. A wyddoch chwi rywbeth am y profiad o ddal eich anadl wrth ddarllen ambell Iyfr ? Oni wyddoch, mynnwch afael ar Dialydd Bach Plwy Rhoslydan. — Seren yr Ysgol Sul. Llyfr diddorol dros ben. Stori bachgen o Fôn ydyw, wedi'i chynllunio'n dda, a'r ymddiddanion mynych a geir yn y llyfr yn naturiol. Cymeradwywn ef yn galonnog.-The Schoolmaster. Pris, mewn rhwymiad lliain, 2s.