Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL V. RHIF 12. HYDREF, 1935. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Golygydd MEREDYDD J. ROBEBTS Teleffôn: Wrecgam 622. Swyddfa iMndain: 47. Gresham Street, London, E.C.4. Wedi'n Prynu FE FYDD llygaid pob Cymro ystyriol y dyddiau hyn ar Borth Neigwi, Ue y gwnaed ein cenedl ni dan ei dwylo. Y mae byddin Prydain wedi treisio'r amaethwyr yn rhai o ffermydd brasa'r cwmwd i werthu eu tir iddynt ar gost y trethi a'u gyrru i hel eu taclau 'nghyd i ymadael. Yn ofer y gwnaeth amryw gyrff o bobl wrthdystio—ni wna awdurdodau'r arfogaeth a'r Weinyddiaeth Awyr onid prysuro i gynllunio dwyn offer y diafl i'r fro beraroglus hon. Bu'r efengyl yn taranu ei neges yn naear Llyn nes ennyn ei phroffwydi ei hun. An- adlodd Siarl Marc yma ei emyn Daeth imi iechydwriaeth drwy eithaf chwys a gwaed bu Robert Jones, Rhos Lan, yma'n dodi 'nghyd ei Grawnsypiau Canaan a'i Ddrych yr Amseroedd rhoes John Elias, a fagwyd heb fod yn nepell oddi yno, Gymru ar dân gyda'i hyodledd heb ei debyg a'r Esgob Owen, Tyddewi, oedd seren fore cymreigiad yr Eglwys yng Nghymru. Pe gwybyddent hwy fe godent eu cri unwaith eto, yn erbyn troi Jerusalem Cymru yn Fabilon. Meddylient mai yn ofer ac am ddim y Uafuriasant bod eu gweinidogaeth wedi dyfod i ben cyn pryd mai trech wedi'r cwbl yw galluoedd y tywyllwch na'i "ryfeddol oleuni Ef." Allforio milwyr AETH Cymru cyn heddiw i roddi Henry Richard i'r byd yn un swydd i gynllunio pa fodd i drechu rhyfel. Ac wele'i freuddwydion yn disgyn yn gandryll wrth ei thraed. Cyflwynodd ei mab Robert Owen ar allor gwasanaeth i'w gyd-ddyn, i feithrin cyd- weithio rhwng dyn a dyn. Ac wele lywodr- aethwyr y wlad yn ei gorfodi i ddad-wneuthur ei gwaith da. Dysgai Cymru gynt i'w phlant hunan- ymwadu er mwyn ei chymdogion: cyf- íwjnodd ei gwerin ei cheiniogau prin i HYSBYSIAD GAN Y CYHOEDDWYR Y Cyboeddwyr ei bod yn y hysbysu darllenwyr Y Ford Gron" mai hwn yw'r rhifyn olaf. Bob bore Sadwrn o hyn ymlaen fe fydd Y Cymro yn rhoddi tudal ennau i brif nodweddion Y Ford Gron," ac fe wneir teitl y cylchgrawn yn is-deitl i'r papur wythnosol. Daw'r rhifyn hwn ar bumed gyfrol o'r Ford Gron i ben, ac yr ydym yn diolch yn gynnes i bawb a fu'n gweithio o blaid y cylchgrawn yn ystod y pum mlynedd diwetbaf. A fyddwch chwi, gyfeillion Y Ford Gron," mor garedig a rhoi eich holl egni o blaid Y Cymro" o hyn ymlaen ? Prif awydd Golygydd Y Cymro" a'r Cyhoeddwyr yw cyn* hyrchu papur gwir genedlaethol sy'n ddrych i fywyd Cymru ac yn arweinydd diogel i feddwl ein gwlad. (Gweler manylion am Y Cymro" ar dudalen 2 o'r clawr.) ddysgu'r Efengyl i'r pagan aeth ei meibion a'i merched mewn llongau dros y môr i gludo'r hanes am Iesu i glyw'r negro a'r mongol. Wele bellach yn He ffynidwydd! y cyfyd drain, yn lle myrtwydd y cyfyd mieri! Yn lle anfon cenhadau heddwch i barthau'r byd o'i bodd, enfyn yn awr o'i hanfodd fidogwyr a thân-belenwyr. I'r gwledydd Annuw, y ceisiodd Cymru eu hachub hyd yn hyn, allforia filwyr a ymarferodd yn nirgelion eu gorchwyl yn ei chymoedd mewnaf ei hun. Na, meddai Plant Cymru NA fydded felly," yw cri Urdd Gobaith Cymru. Yr ŷm ni'n medru caru'n gwlad heb genfigennu wrth blant gwledydd eraill na'u hofni ychwaith. Yr ŷm ni'n gallu gweithio dros ein gwlad ac ar yr un pryd ddysgu i'w gilydd fod yn rhaid peidio â rhyfela." Na fydded felly," ebe negeseuwyr bach Cymreig Dydd Ewyllys Da. Ni ddylem ni, a ddymunodd yn dda i'n brodyr ym mhob gwlad dan haul, fod yn destun gwawd oherwydd bod dysgu rhyfel yn ein tir. Yr oedd ein neges eleni yn erfyn am heddwch. Nid vm ni am iddi gael ei thaflu'n ôl ar draws ein hwynebau bach. Cyn wired ag y cynhyrchodd dyffryn Ceiriog ei Richard Morris fe esgor Porth Neigwí ar ei harwr. Pe gwrandewid ar guriad calon Cymru fe ddeellid nad oes ar neb Cymro eisiau byddinfa ym Mhorth Neigwl. Y mae'n groes i ddaliadau moesol y wlad. Gwell gan ein tyddynwyr a'n pentrefwyr ni bryd o ddail Ue y bo heddwch nag ych pasgedig â chas gydag ef. Mor sicr ag y brwydrodd Cymru am ei bywyd yn yr Oesoedd Canol fe frwydra eto ag arfau cyfiawnder dros ei delfrydau. Ac fe wyr ein gwlad pa fodd i frwydro dros ei hegwyddorion. Ni ddarfu'r atgo eto am ei hymgyrch Iwyddiannus dros gau'r tafarnau ar y Sul. Nid er dim y bathwyd y ddihareb mai trech gwlad nac arglwydd. A gorau po gyntaf y dechreuir yr ymgyrch newydd hon. cyn i'r un adeilad byddinol gael ei godi. Cri Heddwch O BENRHYN GWYR i Ben y Gogarth, o Gaergybi i Gaerdydd, dyrchafed y Cymry eu lleferydd. Pregether y genadwri gan y gweinidogion a'r offeiriaid yn holl gysegr-leoedd y wlad. Ymuned y plant yn yr ysgolion unwaith eto yn eu cri heddychol dilynir hwynt gan y tadau a'r mamau ar yr aelwydydd. Oddi yno fe gwyd y gri i'r cynghorau plwy a dosbarth, tref a sir. Boed i'r Aelodau Seneddol at- seinio'r waedd yn y Senedd. Os gweithir ac os cyd-dynnir felly, fe geir na saif o'n blaen ddim. Bydd gwyr y fyddin wedi synhwyro'r helfa o bell. Ni wybyddir pwy oedd yn hybu'r cynllun na phwy a'i dechreuodd. Derfydd y sôn am y peth ymhell cyn i'r waedd dewi â sôn yng Nghymru. A gall Cymru hithau droi ei golygon tuag Aber Daugleddau.