Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro ýí. H. Dodd, Bangor, yn dweud 02~ mae hanes yn penderfynu'r ystyron a roddwn i eiriau, y syniadau a jfurfiwn am genhedloedd erai/ hyd yn oed ein drychfeddwl o'n cymeriad a'n cenhadaeth gened/aeàho/ ni'n hunain, meddir yma "HANES," meddai'r diweddar Syr John JLjL Seeley gwieidyddiaeth yr amser gynt." Nid yw'r frawddeg hon yn ddim ond hanner gwirionedd, oblegid y mae hanes yn lletach o lawer na gwieidyddiaeth eto y mae'n wir fod i hanes bob amser (gan ei fod, wrth orfod, yn ymdrin â dynion yn eu crynswth) gysylltiad agos â gwleidyddiaeth, ac arwyddocâd neilltuol i'r gwleidydd. Ond a oes gan hanes ryw berthynas â'n hanawsterau ni heddiw ? Neu a ydym i gytuno â'r lUaws na wêl ynddo ddim ond hoffedd hynafiaethgar, hyfrydwch i freudd- wydwyr rhamantus, cyffur angof a helpa'r myfyriwr i gau ei lygaid ar y drygioni o'i gwmpas ? Y gwleidydd a hanes. I'r gwleidydd ymarferol, 0 leiaf, sy'n apelio'n wastad at ddyfarniad hanes," nid hawdd yw credu'r ail syniad hwn. Oblegid onid yw'r gwleidydd, pan fo dadl ar droed o fewn gwlad neu ymladd rhwng gwlad a gwlad, bob amser yn awyddus i ddangos bod hanes ar ei ochr ef, ac mai arno ef, neu ar ei blaid, neu ar ei wlad, y daeth terfynau yr oesoedd ? Dymunaf ddiolch i'm cyfaill Mr. R. T. Jenkins am ddarllen yr ysgrif hon ymlaen llaw, hefyd am wneud llawer gwelliant yn ei harddull Gymreig. -A.H.D. Heb HANES Heb Genedl Onid yw'r ddadl oesol rhwng Ffrainc a'r Almaen am feddiant bro'r Rhein yn troi, yn y pen draw, ar y cwestiwn hwn a ddylid ystyried Siarlymaen yn Ffrangwr neu'n Allman-ac yntau wedi teyrnasu 1100 o flynyddoedd yn ôl, hynny yw, cyn geni'r ddwy genedl hon fel y maent heddiw ? Oni welwn hyd yn oed arweinwyr y Chwyldro Ffrengig yn troi at y Rhufeiniaid gynt am ysbrydoliaeth, yn rhoi'r enwau Tribun a Chonswl ar ei gilydd, yn cymryd eu darlunio gan y peintiwr David, mewn toga Rufeinig a choron o lawryf ? Odid bod unrhyw ran o'r byd y mae astudio hanes (hanes o bell, yn aml, a hanes ffug ar brydiau) wedi suddo'n ddyfnach i wleidyddiaeth feunyddiol nag a wnaeth yn y gwledydd Balcanaidd, lle y mae astudio hanes wedi creu (neu ail-greu) mwy nag un genedl, ac wedi cynysgaeddu ambell genedl â hawliau tiriogaethol amhosibl eu bodloni. Ac y mae ymborth hanesyddol Herr Hitler yntau'n tarddu o'r broydd niwlog Ue'r ymdodda hanes a chwedloniaeth i'w gilydd. Creu cymeriad gwlad. Cryfach efallai hyd yn oed na'r apêl ymwybodol hon at hanes neu gyn-hanes yw grym y gorffennol yn ein cof anym- wybodol. Ofer yw ochneidio mai hapus y genedl nad oes iddi hanes, oblegid gan hanes y crewyd cof gwlad, amcanion cyff- redin ei phobl, ei chymeriad cyffredin a'i ffordd o fyw-y pethau y dibynna gwir fodolaeth cenedl amynt. Heb hanes, heb genedl. Y mae hanes yn debyg i Hen Wr y môr yn stori Sindbad ni allwn ymysgwyd oddi wrtho, ceisiwn a fynnom. Penderfynu'n cenhadaeth. Yn union wedi i'r Ffrangwyr feddwl boddi'r gorffennol yn nilyw 1789, wele hwy'n ymladd unwaith eto ryfeloedd Lewis XIV, ac yn adferyd, yn effeithiolach fyth, yr unbennaeth ganolgyrch a sefydlwyd gan Lewis XI a Richelieu. A thybed na ellir gweld cysgod y Tsariaid yn ymsymud weithiau yn nhrafodaeth Rwsia'r Soviet â'r Dwyrain Pell ? Y mae hanes-a wyddom hynny ai ni wyddom, a hoffwn hynny neu beidio-yn penderfynu'r ystyron a roddwn i eiriau, y syniadau a ffurfiwn am genhedloedd eraill, hyd yn oed ein drychfeddwl o'n cymeriad a'n cenhadaeth genedlaethol ni'n hunain. Nid yw'n fymryn haws dianc rhag ein hanes na dianc rhag ein hachau. Gwastrodi yn lle ein gwastrodi. A ydym ni, gan hynny, wedi'n clymu'n ddinerth wrth ein gorffennol. heb ddyfodol o'n blaen ond hwnnw a arfaethwyd inni gan y gorffennol ? Pe felly y byddai, ni byddai astudio hanes yn ddim ond gwaith diffrwyth a digalon, amddifad o ysbrydoliaeth ac o arweiniad i'r myfyriwr ar wleidyddiaeth heddiw. Eto, o agosáu at hanes yn yr iawn ffordd, odid na ddysgir inni rywbeth pa fodd i wastrodi Hen Wr y Môr yn Be cymryd ein gwastrodi ganddo. Nid anodd, bid sicr, ydyw dewis ffordd gyfeiliorn. Un o'r ffyrdd hynny yw chwilio am ddyfarniad hanes" parod i law, a atgyfnertha'r dueddfryd a oedd ynom eisoes. Gallwn yn hawdd, wrth ddethol ein ffeithiau yn ofalus, ddarganfod y fath ddyfamiad," ond ni bydd hwn yn hanes. Dysgu oddi wrth y tadau. Ffordd arall ydyw chwilio hanes am ragfynegiad o'r dyfodol. Gallwn ddysgu rhywbeth (anaml, ysywaeth, y byddwn yn dysgu) oddi wrth brofiadau ein tadau ond nid oes ronyn o wirionedd yn y ddihareb bod hanes yn ei ailadrodd ei hun. Amhosibl yw cyfarfod â dau ddyn sy'n hollol gyffelyb i'w gilydd; yr un mor amhosibl yw cyfarfod â dwy sefyllfa ddynol sy'n hollol gyffelyb i'w gilydd. Nid yw Clio, Awen Hanes. i'w chael ymysg y proffwydi. Cymorth i'r amser y sydd. Ond oni all hanes ddatgnddio'r amser i ddyfod, eto y mae ynddo ryw gymorth i ddeall yr amser y sydd, gan ddangos inni pa ffordd y datblygodd hwnnw yn debyg i'r modd y mae ffilm cinemátograff yn rhoi ystyr a phwrpas i'r ystumiau a ymddengys yn anystwyth ac yn ddiystyr mewn ffóto- graff Uonydd, gan eu harddangos fel eiliadau mewn ffrwd barhaol. Y mae gorffennol cenedl yn llechu yn ei chof isymwybodol; yn unig wrth ei lusgo i oleuni gwybodaeth ac ymresymiad ymwybodol y medrwn ei gyfnewid o fod yn fwrn ac yn fwgan i fod yn rhywbeth y gallwn ei lywodraethu a'i ddefnyddio. Dyma un gwasanaeth y gall astudio'r gorffennol ei wneuthur i wleidyddiaeth y presennol. Deall-eymwynas pennaf hanes. Yn yr un modd, cawn ynddo ryw eglurhad ar safbwynt pobl o wahanol draddodiadau i'n rhai ni-cred yr Allman yn nerth gwladwriaeth, a'i arswyd rhag byd- ddinasyddiaeth amhendant; cri'r FfrangwT am ddiogelwch, a'i ymchwil am ogoniant trwy flaenoriaeth Ffrainc ym myd drych- feddyliau. Ni ddei>llir yr un o'r rhain heb wybod am ei ddatblygiad hanesyddol a'u deall ydyw'r cam cyntaf yng nghyfeiriad eu cysoni â'i gilydd. Dyma, efallai, un o gymwynasau pennaf hanes i wleidyddiaeth.