Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cwmwd Lle Claddwyd Tlysni GASGLWN flodau gwylltion ar lan yr afon yn fy mebyd," meddai Asaph Ebwy am fro sydd heddiw yn edlychaidd, a'i harddwch wedi ei ysbeilio, mewn dyffryn â wasgarwyd ledled â thom- enau hagr diwydiant, gan adael dim i'r llygaid ond darnau o fynydd-dir llwm. Gwaeth byth, ers chwe blynedd bellach, ciliodd y diwydiannau fu'n brif gynhaliaeth i'r dref, gan adael miloedd o weithwyr onest i grwydro'r heolydd yn ddiamcan ac wynebdrist— caethion diobaith y ddogn. Ym mlaenau dyffryn cul afon Ebwy-fawr, a ymestyn o dre Camo, Brycheiniog, hyd yn Aber Bug, rhyw saith mUItir o ffordd, y llochesa tref Glyn Ebwy. Ar y ddau du i'r dref, aros mae'r mynyddoedd mawr, Carn-y-cefn a Thon-y-fedw, hwythau nid heb greithiau diwydiant. Codant yn syth i'r uchelderau a ffurfiant gryn gysgod yn stormydd certh gaeaf. A ddengys traddodiad. Er na cheir nemor ddim ar glawr o hanes y darn hwn o ucheldir Gwent yn yr amser pell a fu, eto dengys a erys o draddodiad fod i Glyn Ebwy a'r amgylchoedd hefyd eu lle ym mywyd a helyntion Cymru. Aw- grymir felly yn enwau'r ardal Twyn-y- cynghordy, y Drefil, y Garn Lydan. Dy- wedir y bu brwydro ar fynydd Camo gerllaw, yn wir, y mae'r olion a geir yma a thraw ar y mynydd yn awgrymu felly. Cloddiwyd hefyd yn yr ardal nifer o arfau amryddull o dro i dro. Ymhlith y cyntaf i drosglwyddo disgrifiad o'r fro i dudalennau hanes yr oedd Edmund Jones, Yr Hen Broffwyd," hynny tua chanol y 18 ganrif, ac yn ddiweddarach y teithiwr Cox. A ganlyn yw'r disgrifiad a roddir o Gwm Ebwy-fawr tua'r cyfnod 1750-1780 Gorchuddir y mynyddoedd â choedydd tewfrig a phrysgwydd, cartref llawer math ar helwriaeth. Ceir yn yr afon ddigonedd am- rywiol o bysgod, ar y mynyddoedd hefyd ceir amlder o rugieir ac adar cochion. Gwisgir y trumiau ag wmbredd o lus, cesglir a marchnateir hwynt gan y tlodion. Di-grefydd, anwybodus a thra ofergoelus yw'r trigolion eto'n garuaidd, cymdogol a llednais o ysbryd. Y maent yn lanwedd eu cyrff ac felly y mae eu hanedd-dai, nid oes ymron neb a ddeall Saesneg. Y mae'r men- ywod yn brydweddol gwisg y gwragedd ar hynt gapiau ffril a chlogynnau glas trwchus. Gwisga'r genethod hwythau hetiau brethyn llawban megis y gwrywod. Dim ond un plas. Yn y cyfnod hwnnw ni cheid trwy'r holl gwm ond un plas, — Tŷ Llwyn, neu Y Llwyn, trigfan y teulu Miles, perchnogion tir y cwm ar ei hyd; hefyd, ddau neu dri o amaethdai, a 36 o aneddau. Cynhyrchid ceirch, ac yma a thraw beth yd a haidd. Ond nid digon i ddiwallu angen yr ardal, a chyfrwng bywoliaeth y bobl gan mwyaf oedd magu anifeüiaid!' Yr oedd ar lechwedd Carn-y-cefn ffyn- honnau meddygol nodedig ers talm, ond Trefi Cymru XII Gan Ioan Morgan (Buallt) erbyn heddiw fe'u dihysbyddwyd. Dywedai E.J." fod murddun tŵr hynafol ag olion llyn yn perthyn iddo yn aros ar gopa'r mynydd yn ei amser ef (gwelir y sylfaen heddiw). Dywaid ymhellach mai pryd- ferthion Natur oedd nodwedd amlwg y Cwm. Darganfod glo a mwyn. Ond yr oedd mawr gyfnewidiad yn ymyl, gan y darganfuwyd gan fforiaid gyfoeth y glo a'r mwyn haearn cuddiedig dan y tir. Cyn hir cychwynnwyd diwydiant marsian- dïol trwy agor glofeydd bychain hyd yr ardal. Gan ddechrau yn 1780, adeiladwyd chwech o ffwrneisiau tawdd ar lecyn filltir i'r gogledd o lyn Ebwy gan un Mr. Kendall. Codwyd pentref gerllaw a gymreigiwyd i Cendl" ar ôl y perchen ac adnabyddir y He felly yn awr. Y mae'r boblogaeth, nid hwyrach, yn rhyw dair mil. Cludid yr haearn bwrw dros fryn a phant â mulod i forthwylfa Aberhonddu, 18 milltir o ffordd. Yma, yn 1785, gwneuthpwyd nifer o belennau magnel ac anfonwyd hwynt i Ffrainc ynglvn â heldrin y Chwyldro. Trosglwyddwyd y gwaith yn 1833 i gwmni Crawshay Bailey ac awd ymlaen yn llwydd- Glyn Ebwy-y ffwrneisiau chwa a'r gwaith dur. Natur iannus. Bu y gweithwyr yn lluosog hyd gyfnod y dirwasgiad mawr 1876-78, yna ataliwyd y gwaith tynnwyd y chwe ffwmais fawr i lawr a phrin y gwelir eu holion heddiw. Y mae cymaint o adeiladu tai ar droed heddiw fel bod Cendl (Beaufort) a Glyn Ebwy ymron ymuno. Defnyddio coed y fro. Adeiladwyd y ffwrnais dawdd gyntaf yn Glyn Ebwy yn 1790, ac yn fuan dilynwyd â thair arall. Y perchenogion oedd Homfray a Watkins. Yn 1794 methdalwyd, ac wedi segurdod o ddwy flynedd fe'i prynwyd gan Harford. Adbrynwyd y gweithfeydd yn 1843 gan Brown a Darby, neu fel v'i gelwid, Cwmni Glyn Ebwy (E.V. Co.). Defnyddiwyd Uawer o goed y fro i wneuthur golosg,-y glo eto'n brin. Codwyd morthwylfa yn 1818, yma y gwnawd cledrau'r rheilffordd fore, y Stockton and Darlington." Cludid haearn ar gefn mulod hyd gulfor Bryste, peUter o 21 milltir, tua'r cyfnod 1866-70. Cyfodwyd wedyn ffwrneisiau chwa a gwaith dur a bu datblygiad enfawr hyd ddirwasgiad alaethus 1929-30. Yna atal- iwyd y gweithfeydd taflwyd ymron 3000 allan o waith, ac erys y caledi hyd heddiw. Eglwys hynafol Aberystruth. Genesis Glyn Ebwy oedd adeiladu y Rhestr Gam yn 1787, a thrwy gynnydd graddol cofrestrwyd 39,000 o drigolion yn y fwrdeisdref yn 1928. (I dudalen 273.)