Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Feirdd fy Ngwlad, y mae'r Can- ebe'r prifardd Dewi Emrys DANGOSODD cystadleuaeth yn yr Eis- teddfod Genedlaethol eleni y tu hwnt i bob dadl fod sail i gwyn barhaus ein cerddorion mai prin yw'r cyfleusterau a roddir iddjnt gan feirdd diweddaraf ein gwlad. Bu i awen y Cyniro helaethrwydd a rôi fynegiant i amlochredd bywyd. Nid wrth yr allor y ganed hi. Bu iddi ryddid celf- j'ddus er yn fore, a ffrwyth y rhyddid hwnnw ym myd llên yw'r Mabinogion a chywyddau Dafydd ap Gwilym, y cethlydd a yfodd mor helaeth o ysbryd y trwbadwriaid. Barddoniaeth i'w chanu gan unawdwyr neu gorau a hawlid gan y telynegwjr yn Eisteddfod Caernarfon. Gelwid am dair telyneg, gan ganiatáu rhyddid i'r beirdd ddewis y testunau a'r mesurau a fynnent. Gofid i ni oedd darganfod, a chynifer â 34 yn cystadlu, mai yng ngwaith un ymgeisydd yn unig y canfu cerddor profiadol fel Dr. Lloyd WUUams gyfres gyfan a atebai ofynion miwsig, heb sôn am dystiolaeth Wil Ifan, gŵr y mae miwsig yn rhan mor gynefin o'i galon a'i aelwyd. Telynegion i'w darllen. Yr wyf yn hollol sicr nad ar gyfrif rhagor- iaeth fy nghrefft fel prydydd a llenor y gwelwyd yn fy rigymau i well cyfle i gerddor nag eiddo'r íelynegwyr eraill yng Nghaer- narfon eleni. Oni soniodd y beirniaid am rai o'r telynegion fel cyfansoddiadau i'w hedmygu a'u mwynhau gan ddarllenwyr llengar ? Y mae'n canlyn, y mae'n debyg, mai rhyw gynhysgaeth heblaw fy adnoddau llenorol a droes yn fantais i mi yn y gystadleuaeth. Rhodfeydd y cerddor oedd fy Uwybrau cyntaf i ym myd awen. Teithiais ganwaith dros gors a gwaun a thrwy wynt a glaw i'r hen lofft uwch ystabl y capel yn Rhosy- caerau, Penfro, i'm hyfforddi mewn sol-ffa a chanu, gan Daniel Rees, baswr blaena'r fro yn nyddiau fy mebyd. Y mae'n llawen gennyf ei fod yn aros o hyd yn Nyfed, ac organau'r môr a ffliwtiau'r gwylain a'r cornicyllod yn gerddorfa anosteg goris ei fwthyn unig ar y graig. Arwain cor yn 16. Yr oeddwn yn arweinydd côr plant yn Wdig. gerllaw Abergwaun, cyn fy mod yn 16 oed. Cofiaf yn dda fel yr euthum â'r côr i gystadlu mewn eisteddfod yn Llan- gloffan a phedwar gŴT mewn oed, dau faswr a dau denor, yn helpu "gwneud i fyny'r gynghanedd." Huriais frec mawr dau geffyl, a hynny ar goel, gan mor sicr oeddwn o fuddugoliaeth. Cofiaf hefyd fel y diflannodd y côr o'm golwg wedi imi ddechrau curo amser a minnau fry ar stôl fach yn ei glywed yn canu rywle yn y pellter draw, fel mintai o leisiau anwel. Tystiodd y beirniad ein bod yn deilwng o'r wobr, a thyfais droed- feddi pan osodwyd y cwdyn sidan glas i hongian wrth fy ngwddf! Ond ar ôl ein clj-wed yn canu, dyma a ddywedodd perch- ennog y cerbyd a'n cludai Wel, diolch i'r mowredd nad oes dim côr arall yma yn eu herbyn hw Troi i gyfansoddi ychydig. Yng Nghaerfyrddin, a mi'n newyddiad- urwr ifanc yn y dref honno, cylchoedd cerdd a'm diddorai: ac arferwn gynnull partïon a nhorau bychain er cystadlu yma ac acw mewn mân eisteddfodau. Trois i gyfan soddi ychydig hefyd, a chofiaf am y bechgyn ar ôl i mi fynd i'r Coleg Presbyt- eraidd, yn cael cryn hwyl ar ganu un o'm tonau. 0 fyd y plant, a ffurfiais yn gorau a'u disgyblu i ganu ac actio mewn opereta, y dychwel rhai o'm hatgofion melysaf heddiw o hen gylchoedd fy ngweinidogaeth. Cym- erwn fisoedd y gaeaf oll-dwy noswaith bob wythnos tua'r diwedd­i baratoi'r gwaith, a'i berfformio'n gyhoeddus yn neuadd y dref, nid yn yr addoldy. Ynglvn â'r gobeithlu, fel rheol, y digwyddai hyn. Ni chredwn ddim mewn pregethau sychlyd i blant ar ddirwest, eithr troi'r peth yn ddrama iddynt hwy eu hunain, y Tylwyth Teg, yn ddisgleirwyn gan dinsel, yn cyn- rychioli'r nentydd gloywon a rhyw ellyllon hyll mewn teitiau cochion yn canu clodydd y gwin a'r frwydr rhwng y ddau wersyll yn beth byw, gwir. Llyngeswyr wedyn, a'r hogiau wedi eu gwisgo'n gyfaddas, yn perthyn i'r Uong dda Dirwest a chrwt pwysig iawn ar lun admiral yn ben arnynt. Cofiaf y synnu fu ym Mwcle, Fflint, o weld mintai ohonynt yn ymarfer corff mor berffaith. Pa ryfedd ? Y Parch. W. P. Gough, o Gaergwrle yr adeg honno, a'u hyfforddai erof rai wythnosau cyn hynny! Pwythwn gryn lawer o bethau felly drwy'r gweithiau gwreiddiol; creu ym- gomiau a chaneuon a golygfeydd i'm pwrpas fy hun, ac nid arbedwn glwm o gymeriadau Ue'r oedd galw am effeithiau arbennig. Gweriais tua £ 50 ar lwyfannu opereta blant yn Neuadd y Dref ym Mhont y Pridd, a gwneuthur elw sylweddol wedyn o'r per- fformiad. Yr oedd Cyril Jenkins y cerddor yn dyst o'r perfformiad hwnnw, a'i fwynhad a'i gymeradwyaeth yn fawr. Yr oedd fy nhylwyth teg mewn teitiau lhw aur ac arian- nid tipyn o fwslin dienaid fel a welswn- a'r golau calch yn chwarae arnynt yn y llwyn unwedd tywyn lloer hwythau'r sipsiwn yn cynnull draw o gwmpas crug o farwor, gyda'r peth mwyaf naturiol a welsoch chwi erioed, a'u sisial-ganu mwyn yn denu'r coed i wrando. Y cywyddwyr a'r derwyr. Y mae esboniad meddylegol i'r cyfyngu fu ar awen Cymru ar gyfer dawn y cerddor, a daw'r esboniad hwnnw'n glir i'r neb a edrycho'n ôl yn ystyrgar ar hanes ei wlad. Mynych y sonnir am ddylanwad y trwbad- wriaid ar farddoniaeth Cymru arllwys gwin serch i'w chostrel a rhoi iddi serenâd yn lle salm ei dwyn o fyd Mair i fyd Morfudd. Anaml y crybwyllir am ddylan- wad eu miwsig ar ddawn y Cymro. Nac anghofier mai arfer yr awenyddion treigl hyn oedd canu wrth gyfeiliant offer cerdd. Ceir digon o brawf yng ngwaith Dafydd ap Gwilym iddo yntau ddysgu'r grefft honno. Aeth yr un grefft wedi hynny yn etifedd- iaeth i'r clerwyr Cymreig a grwydrai o ardal i ardal gan leisio'u hodlau dan wybren a than do. Canlynodd y baledwyr. a ganai eu rhigymau ar ben ffair ac mewn tafarn, a'r delyn a'r crwth yn gymheiriaid ffyddlon. Gellid sôn hefyd am yr hen nosweithiau llawen ar aelwydydd y wlad i gyd, a'r canu difyr gyda'r tannau. Torri'r hen gyfathrach. Paham y tawodd y lleisiau hynny ? Paham y torrwyd yr hen gyfathrach rhwng y bardd a'r cerddor ? Oherwydd i Buritan- iaeth ddwyn awen Cymru a'i harneisio wrth yr emyn. Dilynodd yntau'r cerddor tan ledu ei adenydd ychydig yn awyrgylch yr anthem. Am flynyddoedd, pregethwyr yn bennaf oedd beirdd y wlad. a'r rheini, nid heb achos Ue'r aeth rhigymu'n rhialtwch a chanu tant yn gyfeddach, yn tybio mai cymwynas â'r awen oedd peri iddi ym- wadu'n llwyr â ffyrdd y byd." Wrth reswm, Uesteiriodd hyn lawer ar ddawn y Cymro, yn fardd a cherddor, canys nid ysbryd y capel yw'r unig dueddfryd a berthyn i'r galon. Fe wyr yr adar hynny.