Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Julius Pokorny Athro Ceiteg ym Mhrifysgol Berlin CWYDDOM i sicrwydd heddiw fod cjiartaledd mawr o bobl Cymru yn disgyn o'r hen hiliau oedd yn byw yma cyn i'r Celtiaid Ariaidd cyntaf lanio ym Mhrydain. Perthynai'r mwyafrif o'r gwladfawyr cyntaf i hil y Môr Canoldir a elwir gan amlaf yn IJberiaid, bobi fach, ddu, hirben, a siaradai iaith yn perthyn i'r hen Eiffteg a'r Ferbereg yng ngogledd yr Affrig. Syr John Morris-Jones oedd y cyntaf i ddangos bod cyffelybrwydd cryf rhwng cystrawen Cymraeg ac Eiffteg, ond gan iddo ef ei gyfyngu ei hun i debygrwydd arwynebol yma ac acw yn y gramadegau. ni choeliai neb muhono. Eithr y mae efrydiaeth drefnus o ieithoedd Gogledd Affrig wedi fy narbwyllo i fod y damcaniaethau hynny'n gywir, a'm galluogi i brofi bod llawer o deithi pwysig yn yr ieithoedd Celtaidd, nas ceir yn yr ieithoedd Ariaidd eraill, ar wahan i debygrwydd man- ion sy'n cydfynd o ran ffurf ac ysbryd â ieithoedd trigolion boreaf gogledd Affrig. Y mae holl gymeriad yr ieithoedd Celt- aidd yn wahanol i'r craidd i'r eiddo'r ieith- oedd Ariaidd eraill i gyd. Y mae eu geirfa a'u troadau ymadrodd wrth gwrs yn Ariaidd, ond y mae'r gystrawen a'r cyfansoddiad yn sicr yr un fath â Gogledd Affrig-peth y gellid ei ddisgwyl pan gymerer iaith estron concwerwyr gan boblogaeth orthrech wahanol. GeUir priodoli'r rhan fwyaf o'r gwahaniaeth rhwng cyfansoddiad y Gym- raeg a'r Saesneg i ddylanwad cyn-Geltaidd o'r Môr Canoldir. Wele frawddegau, er enghraifft (o'r FoRD GRON am y mis diwethaf) edrychai ar y dyrfa a'i llawen- ydd yn fawr": neu, "ar ôl i Jim fod gartref neu bu i'w rieni farw." Y mae'r amser pendant yn Saesneg a hyd yn oed y rhagenw personol o flaen rhannau o'r corff yn mynd yn ôl drwy'r Gelteg i'r cyn-Gelteg. Tra gellir haeru'n lled sicr i drigolion Canoldirol Cymru adael olion pendant ar yr iaith, ceir poblogaeth gyn-Geltaidd arall na Fy Marn am Hil y Cymry wyddom ddim am eu hiaith, er iddynt hwythau o raid adael rhyw oJion o'u bod. Sôn yr wyf am bobl y ffrol a elwir felly oherwydd ffurf eu llestri yfed-gwyr pen- grwn o'r Iseldiroedd a oresgynnodd barthau mawr o Loegr a Chymru yn nechrau'r Oes Bres. tua 1900 cyn Crist. Y cwbl a wyddom amdanynt hwy yw y gellir eu holrhain i ogledd-ddwyrain Sbaen ac oddi yno ar hyd glannau gogledd Affrig, efallai, i orllewin Asia a'r Cawcasws. 0 safbwynt corff-dvn, ystyria'r Athro Fleure fod perthynas rhyngddynt a'r Armeniaid cyntaf, ac fe fuasai hynny'n cyd-daro â chanlyniadau cyn-hanes. Credaf mai'r unig ffordd i wybod rhywbeth am eu hanes hwy fyddai darganfod y prif wahaniaethau rhwng Cymraeg a'r Wyddeleg, oherwydd ni bu i bobl y ffiol erioed gyniwair yn Un mawr i Cor Telyn a'i Dri-Chan Cyngerdd Tdynores Eryri. Y mae Côr Telyn Eryri a'i hyffordd- ydd, a Thelynores Maldwyn ym mhobman gyda hwy, yn gwneuthur gwasanaeth godidog draddodiadau gorau Cymru, ac nid oes neb a gâr y traddodiadau hynny na ddymuna rwydd hynt iddynt. YCAM cyntaf a gymerth Telynores Eryri gyda cherdd dant oedd prynu telyn, ar awgrym ei chyfaill a gyfarfu mewn modd damweiniol, sef Telynores Maldwyn, a breswyliai'r pryd hwnnw yn Nhremadog. Fe ddigwyddodd hynny ym mis Mehefin, 1930, ac fe'i sicrhawyd y dysgai ganu alaw gyda hi ymhen y pythefnos, ac felly y bu, a byth er hynny y mae hanes y ddwy megis yn anwahanadwy y tu fewn a'r tu faes i Glawdd Offa. Iwerddon. Gallai'r teithi gwahanol hyn fod, nid hwyrach yn effaith pobl y ffìol. Un o'r prif wahaniaethau rhwng y ddwy iaith yw'r sain ll-Bain, gyda llaw, nas ceir yn un o ieithoedd Ewrob. A chofio bod efrydwyr cyn-hanes yn olrhain pobl y ffiol i orllewin Asia, a bod efrydwyr corff-dyn yn eu cysylltu â'r Armeniaid bore, ymddengys i mi yn rhyfedd, 0 leiaf, bod yr un sain i'w chael yn fynych yn ymron bob iaith yn y Cawcasws, sef ieithoedd cyn-Ariaidd Armenia. Sillefir y sain, gan amlaf, yn tl yn Saesneg, yn aml, cyfleir y sain Gymraeg â thl. Dylai efrydiaeth gymhariaethol bellach o'r Gym- raeg a'r Wyddeleg roddi inni ragor o wybod- aeth am iaith y bobl ffiol ddirgel yma. Y mae'r ll 0 leiaf yn awgrymu iddynt siarad iaith Gawcasws, debyg i'r Georgeg neu'r Tcherkessieg. Am y cystadleuaethau y bu ynddynt, enillodd yn rhwydd ddigon gyda chaneuon ar destunau poblogaidd a difvr megis Y Crwydryn," "Y Postmon Gwlad." "Yr Hen Ferch," Y Ferch Fodem," Y Saer." Mewn cystadleuaeth ym Mhwllheli fe gafodd y wobr gyntaf a'r ail am ganu'r Crwydryn," a'r Hen Ferch." ac er bod yno dri beirniaid, ni ddeallasant mai'r nn person a ganai'r ddwy gân, gan ragored y'i cuddiodd y gantores ei hunan. Penderfynodd Telynores Eryri hefyd godi Côr Telyn, a buan y sylweddolwyd y pender- fyniad hwnnw. Y mae hanes y Côr erbyn heddiw fel dihareb ledled y wlad. Nid rhaid dywedyd bod aml rwystr wedi ei dreiglo ar ei ffordd, ond buan iawn yr aethpwyd trostynt yng ngrym ewyllys yr hyfforddydd. Bedwar mis ar ôl i'w hyfforddydd roi'i llaw gyntaf ar y delyn, bu gan y côr gyngerdd -y cyngerdd cyntaf y tu allan i'r Bedd yng Nghricieth. Y mae clod am hynny'n ddyledus i'r foneddiges garedig Mrs. Mathew Roberts, ac ni bu edifar ganddi anturio cymryd y Côr Telyn, a thalu iddo am ei wasanaeth. Byth er hynny y mae'r côr wedi bod cyn sicred o'i Gyhoeddiadau â Phregethwr Sasiwn." Y mae cyfanrif y cyngherddau a roddwyd ganddynt yn ymyl 300 yng Nghymru a phrif drefi LIoegr-Llundain, Lerpwl, Man- ceinion, Warrington, Caerlleon, Rhydychen, Reading, Stoke-on-Trent, a mannau eraill. Cofier hefyd mai cyngherddau heb eu ceisio fuont oll, ac nid unwaith na dwywaith y buont yn yr un mannau-y dystiolaeth orau fod eir gwasanaeth yn gymeradwy ym mhobman. Fe gynnwys eu rhaglen ganu penillion, adrodd, dadlau ac ymgomio, unawdau a deuawdau telyn, a pheth na ellir ei hepgor yw'r cerddi disgrifio gan Delynores Eryri, a Thelynores Maldwyn yn canu'i thelyn iddi yn ei dull dihafal ei hun. DEWT MAI O FEIRION.