Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER Llwyd Patagonia EITHAFOL? Oedd, yr oedd popeth yn eithafol yn y dyddiau hynny. 'Doedd dim siawns i'r Cymry u gwbl, nac i'w tir nac i'w hiaith, nac i'w crefydd. Yr oeddyn hw'n ein trin ni fel Iddewon, f'el y dywedodd Llywefyn Dywysog wrth yr Esgob Seisnig hwnnw mewn llythyr," ebe Meurig Llwyd, gan ysgwyd ei fys yn wyneb Simwn druan. '` Paid â siarad. ddyn," ebe Meistres Llwyd ar ei draws yn ddreng. Ond yr oedd hynny ganrifoedd yn ôl," ebe Simwn. "Ydych chwi'n meddwl dweud bod y Cymry'n gaeth hanner can mlynedd yn ôl ? Yr wy i 'n dweud wrtbych chwi eu bod nhw. Fe ymfudodd ugein iau ohono' ni i'r America, rhai i Brazil a rhai i Batagonia. 'Chaem ni ddim ethol y bobl oeddym ni eisiau i'n cynrychioli; yr oeddyn hw'n ein cosbi-ni hyd yn oed am siarad iaith ein tadau. A'n calon- nau ni'n llosgi, fe aethom ymaith, yn barod i ddiodde caledi, ond yn oennenynoi o fod yn rnyuu. re gawsuiu newyn, syched ac afiechyd, mewn gwlad ddieithr. Ond yr oedd Duw gyda ni yn ein cadw. Yr oedd gweledigaeth am Gymru newydd yn ein hysbrydoli ni, am swyddfeydd y wlad a'r ysgolion a'r llysoedd a masnach o'r diwedd yn ein iaith annwyl ni." Yr wy i newydd fod yn dweud wrth Simwn fy hun," ebe Meistres Llwyd am y dyddiau hynny. Ffolineb oedd y cwbwl o'r dechrau. Y mae digon yno'n awr yn cael bywoliaeth ar y tir ond am yr iaith, 'fedrai neb yrru mlaen â'i fusnes heb ddysgu Sbaeneg." Do, ni feth'som," ebe'r hen ŵr dan ei wynt. "Efallai nad oedd yr Arglwydd gyda ni mor bell ag y mynnem ni fynd. 'Doedd Pharo'r Ariannin ddim gwell na'r un Seisnig. E orfu i'r bechgyn ddysgu Sbaeneg ac ymuno â'r Garda Nacionale a dyfod yn Sbaeniaid, gallwn feddwl." Fe fuasai'n well, felly," ebe Simwn, iddyn hw' ddyfod yn Saeson, 'te." AGORODD Meurig Llwyd ei enau, ond cyn iddo ateb, dyma guro mawr ar y drws. Daro," ebe Meistres Llwyd, "mae rhywun wrth ddrws y ffrynt." Dyma Dai John Owen," meddai toc, wedi dyfod i edrych amdanat ti." Rhan o bennod a adawyd allan o'i nofel, My Mother's House, am yr unig reswm bod y llyfr yn mynd yn rhy faith. Symudodd y gŵr ieuanc yn afrosgo tuag at Meurig Lloyd. Y mie'n dda gyda fi'ch gweld chwi'n edrych yn iach,.Meistr Llwyd," meddai'n galonnog. A dweud y gwir, fy mrawd Chris a daflodd y garreg atoch chwi. Mi ges i'r hanes i gyd ohono wedi iddo ddyfod adre, ac mi rois i olchiad iawn iddo." gan sythu ei ysgwyddau. Dyn annwyl, y mae'n ddrwg gen i am hynny, 'doedd dim achos," ebe'r hen Lwyd. Ond heb yn feddwl iddo, dechreuodd rwbio'i lin. "Efallai mai cystal i mi alw acw yfory i siarad ag e." Â chroeso," ebe'r brawd, a rhowch gosfa dda iddo-ond cofiwch, nid yn Gym- raeg," meddai dan gilwenu, rhag ofn na ddeall e mohonoch chwi." Mwya cywilydd i chwi, ynteu, Dai John Owen," ebe'r hen ŵr yn sydyn. Yr wy i'n synnu atoch chwi, yn athro. Ond fe ddywed- wyd wrthyf eich bod yn un sy yn erbyn Cymraeg yn yr ysgolion." "Wel 'nawr, Meistr Llwyd, yr wy i 'n credu mai gwastraff ar amser yw e. Chwi wyddoch yn iawn mai Saesneg sydd eisiau i ddyfod ymlaen yn y byd. Fe fyddai'n fwy o rwystr cymryd Cymraeg yn Ue Ffrangeg neu Ladin." Ie, Lladin yr S'ch chwi'n fodlon dysgu iaith farw, ond nid mi fyw." 0, dewch yn awr, chwi wyddoch fod eisiau'r clasuron at y galwedigaethau, a ieithoedd eraill at fasnach." Masnach, ie Dyna'r cwbwl sy'n eich poeni chwi. Pa waeth am wybodaeth neu grefydd neu farddoniaeth-nid ŷn' hw o ddim gwerth i ddyfod ymlaen gyda nhw, Gan LILY TOBIAS* wrth gwrs. A 'dyw'ch iaith eich hun, fu ar arfer am gannoedd o flynyddoedd gan y genedl, dda i ddim yn awr ond i ganu emynau ac i roi'r baban i gysgu." TEIMLAI Simwn wedi'i gyffwrdd yn rhyfedd wrth wrando ar oslef brudd- oganus yr hen ŵr. Ond nid oedd Owen fel pe bai'n malio dim. Ni all ysgol ddydd ddim bod yn ysgol Sul," meddai. Ond y mae'n' hw'n dweud nad ych chwi ddim yn cyd-fynd â'r ysgol Sul hefyd." 'D wy i ddim yn cyd-weld â phopeth a ddysgir yn yr ysgolion Sul, ond mi ro i barch iddyn hw am gadw'r Gymraeg. Wyddoch chwi, Simwn, dyna rodd yr Iddewon i Gymru-y Beibl. Nid yn unig fe rodd fywyd ysbrydol newydd inni, ond fe rodd ein hiaith yn ôl inni hefyd. Ond beth os collwn ni hi ? Y mae plant yr ysgol Sul yn gwybod digon o hanes Palesteina ond 'wyddan hw ddim am hanes Cymru." Pa well fydden hw o'i wybod e ? ebe Dai John Owen. Wynebwch y ffeithiau, Meistr Llwyd bach. Y mae'n rhaid inni baratoi'n plant i wynebu cystadleuaeth yn y byd Cymreig, a ph'un a fynnwn ni hynny ai peidio, 'dyw'r bydSeisnig ddim am Gymraeg." Na, nid vn hw ddim amdano. Ymhell o flaen y Tuduriaid fe geision ei ddileu, gan ladrata plant Cymreig i'w magu nhw'n Saeson. Dyna gyfrwys oeddyn hw wedyn gyda'u deddfau yn gwahardd Cymraeg yn yr ysgolion, ac yn ei gwneuthur hi'n amhosib i Gymro gael swydd dda. 'Fuasai'r Saeson byth wedi Uwyddo ond i'r Cymry eu hunain fradychu eu hiaith. Nid y Saeson sydd i'w beio?' Debyg iawn nad e," ebe Simwn, eich pobol chwi'ch hun sy'n satìiru'r Gymraeg o fod heddiw." Siaradai'n gadarn, ond yn fwyn. Am y tro cyntaf fe welai dristwch mewn sefyllfa a fuasai gynt yn ymddangos iddo'n un ddigon gwych. Yr oedd wedi sylweddoli ers talm mai'r acen Gymreig oedd yr unig beth cyfrredin i Gymru. Hyd yn oed yn nyffryn Daw yr oedd y cymeriad dwyiaith yn colli; yr oedd pobl y dre yn ymfalchïo yn eu Saesneg digymysg. Bwriad- ai ddangos hyn i'r hen ŵr, mai ymladd yn ddall yn erbyn y Ui yr oedd. Ond byddai hynny'n rhy debyg i gefhogi winc Owen ato, a gwên atgas Meistres Llwyd. Meddai'n wyllt, "Ar wahân i'r dre hon; y mae llawer o Gymraeg daTn cael ei siarad yma o hyd." CHWARDDODD Owen yn uchel am yr edrychiad ar wyneb Meurig Llwyd. Os felly, dim ond eich tad-yng-nghyfraith sy'n ei siarad," meddai, pan gafodd ei wynt ato drachefn. Wyddech chwi ddim mai achos yr helynt yw nad yw'r bechgyn ddim yn hoffi cael eu cywiro yn eu llediaith." (I dudalen 279.)