Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pARAU DEL O FRETHYN YSGAFN. Y mae'r naill 0 liw maen gyda chot hugan yn cael ei gwisgo gyda het, tei a menyg du. Y mae'r llall yn blod gwyrdd a llwyd ac yn mynd gyda het werdd a blows sidan llwyd. DYMA dymor cymysglyd-un funud fe ddywedir bod rhaid gwisgo llathenni ar lathenni o lasiau a ffriliau. a'r funud nesaf fe haerir mai gwisgoedd llwm a digwmpas sydd i reoli. Rhwng y ddau eithaf y mae lliaws o syniadau sy'n siŵr o fodloni pob menyw. Y mae un peth sy'n ddigon sicr-daeth lasiau i aros, pa ddefnydd dieithr bynnag BRI AR LASIAÜ ETO. Dewisiad da ywr wisg hwyrnos hon lliw glas-rhew, gyda hugan a chod rhwyd pleth arian. BYD Y MERCHED. Lasiau ym Mrig y Ffasiwn arall a ddêl, i droi'r fam neu'r eneth yn ferch y dwyrain. Pa ddewis sy well na lasiau i ferch na hoffo wario gormod ar wisgoedd Mi brynais yn ddi- weddar ffroc lasiau fach brynhawn blaen iawn, 0 liw mêl, gyda gwasgarn syml a sgert at y llawr, a sylfaen o daffetas gwyrdd lili'r dwr, gyda gwregys llydan o'r un defnydd. Fe awgrymodd y wniadwraig imi geisio sylfaen a gwregys llydan arall hefyd, satin du. Oes rhywbeth mor grand yr olwg ag eurlliw gyda du ? Felly y mae'r wisg lasiau wedi gweld Hawer o wisgo—ac fe wêl lawer eto—cyn y bydd wedi mynd yn hen. Gan fod lasiau ym mrig y ffasiwn ar hyn o bryd, y mae'n ddiau bod dwy sylfaen i'r un ŵn yn syniad a all apelio at lawer. Blowsiau lasiau; Gynau Cinio Gwisg ddefnyddiol at deithio yw blows lasiau gyda siwt o unrhyw fath. Edrych y flows hon yr un mor gartrefol hefyd gyda sgert daffetas neu satin du, ar gyfer rhyw gyfarfod urddasol dan do. Ychydig iawn o drafferth a rônt, y cwbl sy'n eisiau i'w cadw'n ddestlus yw rhoddi'r haearn poeth arnynt ychydig-ac ni ellwch ddywedyd hynny am na thaffetas na chrêpe, satin na siffon, na llawer defnydd arall sy'n crychu gyda'r pwysau lleiaf. Y mae rhai o'r gýnau hwyrnos yn welliant mawr ar y gynau o'r blaen, nad oedd iddynt na llewysau na fawr i gyd o amgylch yr ysgwyddau. Y mae rhai cynllunwyr yn argymell y siwt deiliwr blaen o felfed neu satin du gyda blows wen ddel, sy'n ein hatgoffa yn gry am y crys berw traddod- iadol. Edrych y cyfuniad yn bert ar rai merched-y rhai mwyaf dynol." Blawd Ceirch at yr Wynepryd Dywedodd gwraig fonheddig wrthyf yn ddiweddar iddi gadw glendid croen ei hwyneb am dros 50 mlynedd drwy ddefnyddio blawd ceirch yn gyson yn Ue sebon a dyma'r modd yr âi ati. Wedi golchi ei hwyneb mewn dwr oer, fe'i sych yn ofalus yna'i bowdro'n dew â blawd ceirch mân gadael hwn am ychydig funudau, yna symud yr hyn sydd dros ben. Ychydig fuasai'n barod i roddi heibio defnyddio sebon, er mwyn y driniaeth hon. I wynnu a meddalu'r wynéb, cymysgwch flawd ceirch mân gyda llaeth oer yn bast Çan MEGAN ELLIS esmwyth a'i ddodi dros yr wyneb a'r gwddf. Rhwbiwch ymaith â blaenau'r hysedd, ac wedi iddo sychu, ymolchwch â rhannau cyfartal 0 laeth a dŵr. Dylid gwneuthur hyn am bythefnos, ac fe synnir at y gwelliant yn y croen. Pan fo llais mwyn yn anhepgor Un o ddirgelion llwyddiant wrth geisio swydd, yn ôl un sydd â phrofiad helaeth gan- ddi mewn swyddfa gyflogi, yw llais mwyn. Y mae llais swynol yn gymorth mawr i greu argraff gyntaf dda ac mewn llawer o swyddi y mae tôn hyfryd a geirio clir yn anhepgor i'r gwaith. Gellir meithrin llais swynol yn rhwydd iawn drwy ymarfer â dulliau elfennol cynhyrchu Uais ac areitheg. Peth da yw cymharu'r llais o ran ansawdd â'r eiddo rhywun enwog, gan wneuthur pob cyfnewid- iad a aller. Y mae darllen rhyddiaith neu farddoniaeth yn wych o heth at ddileu siarad trwynol. Dylai pum munud o ddarllen bob dydd wneuthur gwelliant mawr. Drwy wrando ar ein llais a thrwy ddilyn y cyfarwyddyd uchod fe ellir troi llais gwichlyd yn llais swynol i wrando arno. ÇIWMPER FFEDOG DDEFNYDDIOL. Dyma ddatblygiad o'r ffrog-ffedog, sef sgert a siaced ddi-lewys gyda gwasg-ddarn at y glun a phlygiadau-gwddf isel yn eu croesi'i gilydd.