Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stori Llwyd Patagonia fParhad, o dudalen o'r 275J Dyna beth fûm i'n ei ddweud wrtho," ebe Meistres Llwyd dan ddylyfu gên, ond na wn i ddim beth yw llediaith, sh' beth Caeodd ei llygaid. Cymraeg cymysgryw," ebe Owen, dan chwerthin o hyd. Y mae'n debyg i chwi glywed dynion ar eu ffordd i Borth-daw yn dweud eu bod nhw am dramo.' 'Dyw hynny ddim yn dlws, mi wn. Ond fe â heibio." Ie, ac fe all Cymraeg fynd heibio gydag e," ebe Llwyd, gan ysgwyd ei ben. Ond 'dwy i ddim mor siwr mai Saesneg fydd e. Dyna pam yr wy i'n cwyno wrth y bechgyn. 'D vn hw ddim yn siarad Saesneg na Chym- raeg-dim ond Saesneg drwg a Chymraeg drwg. Y mae e'n waeth na chymysgryw. Nid wy i ddim yn erbyn dysgu Saesneg- dyna lle'r wyt ti'n camsynied, David John. Yr wy i'n dweud nad oes dim rheswm yn erbyn i'r ddwy iaith gael eu dysgu a'u defnyddio gyda'i gilydd." Ond y mae hynny'n ormod. Y mae'n ormod o dasg i'r plant." Nag yw'n wir. Nid yw e ddim yn rhy anodd i blentyn o Gymro ddysgu dwy iaith, os yw un yn fodd naturiol iddo o'i fynegi'i hun. Byddai gwybod honno'n dda yn help iddo ddysgu'r llall yn iawn. Yr ych chwi'n gofyn imi pa faint gwell fydd e o wybod ei hanes ei hun yn ogystal a hanes eraill. Oherwydd fe fydd yn gallu gwerthfawrogi mawredd ei orffennol a deall ystyr ei sefyllfa, ochr yn ochr â'r genedl Seisnig ond nid yn rhan ohoni." 'Dwy i ddim yn gweld y fantais o ddeall hynny. Yr ŷm ni'n rhan ohoni-neu bydd rhaid inni fod-a gorau po gynta. Y mae'r amser fu wedi mynd, a'r achos am wahan- iaeth wedi mynd yr vm ni'n perthyn i'r genedl Seisnig, ac y mae'n rhaid inni gyd- weithio â nhw. Dywedwch a fynnoch, y mae dwy iaith yn rhwystr—yn rhwystr i'r dyn ac i'r genedl-yn rhwystr i gyd-doddiad pobloedd, y lleia i'r mwya." SYTHODD Dai John Owen yn ei ddull areUirio'i hun. Yr oedd y nodyn ysgafn, gwawdlyd wedi rhoddi Ue i ddifrifwch tebyg i'r eiddo'r hen Lwyd, ond bod y llanc yn fwy ymwybodol. Trodd gwr y ty yn ei gadair yn boenus, a chan godi bys cyhuddol, meddai EDAFEDD A SIDANAU am Brisiau Cyfanwerth PEIRIANT GWAU "SUNETTE" CHWYDDWCH EICH ENILLION mewn dull pleserus ar eich aelwyd eich hun drwy gymorth peiriant gwau SÜNETÎE gellwch wneuthur pftr o hosannau bach mewn banner awr gydag ef. Fe wna'r pelriant hefyd ddilladau gwir ddeniadol i Blant, etc. CyBenwir darnau sbâr a nodwyddau i beiriannau "Imperia" a "Cymbal." Rhettr PrMau a Manyllon Llawn yn Rhad anfonwch at HARRISON RNTTTER WORKS, 48 (158) UPPER BROOK ST., MANCHESTER. Yr ych chwi'n siarad yn ffôl, Dai John Owen. Os yw dwy iaith yn rhwystr i ddwy genedl ymdoddi i'w gilydd y mae hynny oherwydd bod iaith yn enaid cenedl, a 'fedrwch chwi ddim toddi un enaid i enaid arall. Fe ddaethan ar wahân oddi wrth Dduw, ac ar wahân yr ân hw'n ôl ato E. Gwae ni os sathrwn ni dan ein traed y pethau gwahanol a fwriadwyd i dynnu allan felyster a nerth cenedl, megis pêr aroglau llawer o flodau mewn gardd." Ciliodd llais yr hen йт hyd i sibrwd. Chwyrnodd ei wraig i gwsg. Ymollyngodd Owen yn ei gadair nes hanner gorwedd ynddi. Efallai'n wir, Meistr Llwyd bach, ond ych chwi ddim eisiau rhyfel arall o annibyn- iaeth ych-chwi-rhaib a thywallt gwaed ? Siaradai ychydig yn chwareus, ond yr oedd rhyw gywilydd wyneb yn ei gylch fe] y trosai ei gap brethyn. Chwi wyddoch o'r gorau nad wy i. Dai John. Duw a'n gwaredo ni! Os ym ni'n cofio Owen Glyn Dŵr ac arwyr yr amser fu, nid er mwyn galw eto i'r gad y'i gwnawn. Meddyliwch am ein hymladdwyr yn yr ysbryd, John Penri a'r Ficer Prichard a'u tebyg. Neges heddwch sy'n rhaid i Gymru ei chyhoeddi. Nid casineb a rhagfarn an- nuwiol ond cyfeillgarwch brawdol â rhai o bob cenedl. Cofiwch hyn, Dafydd John Owen, os byddwch chwi'n ffyddlon i'ch pobl a'ch traddodiadau eich hun, chwi fyddwch yn well gwas i Brydain ac i'r byd. A fynnwch chwi wadu'ch Meistr ? A fynnwch chwi wadu'r serch at wlad eich tadcu ac at iaith eich mam a roddodd E ynoch chwi ? Dirgel iawn yw ffyrdd yr Arglwydd, ond eglur ei alwad ar bob cenedl ddwyn Ei ewyllys i ben, bob un yng ngwlad ei eni. Fe ddaw hyd yn oed y crwydriaid yn ôl i weithio dros ryddid eu pobl." YR oedd ei lais yn glir i'r diwedd y tro hwn. Cydiodd yn ysgwydd Simwn wrth bwyso'n ôl yn y gadair. I synhwyrau brawychedig y gŴT ieuanc, yr oedd yr afael hon fel canlyniad naturiol i'w eiriau olaf. Dyfnhawyd yr argraff gan ymddygiad Owen. Yn y cyffro a ddilynodd ysgytiad Llwyd a deffroad ei wraig gallodd Owen gilio yn ddisylw. Ond nid cjn iddo sibrwd wrth Simwn Dyna un gas ichwi, onid e ? Yr oeddwn i'n ceisio meddwl pa sut y byddai ar yr Iddewon yn y cynllun, os nad oes ganddyn hw na gwlad nac iaith i'w caru. Ond p'run bynnag, yr ych-chwi'n un ohono' ni'n awr, fachgen. Yn iach Gwridodd Simwn yn rhudd. Ysai ei fysedd am gydio yng ngholer Owen a'i droi ymaith. Ond trodd at Meistres Llwyd oedd yn gofalu'n brysur am yr hen ddyn. Pregethu wnaiff e' hyd y diwedd," meddai'n gryg. "Ac ni waeth heb ei ateb yn ôl. Ond yn y gwely y dylai fod. Well imi edrych y pen-glin yna cyn iddo fynd. Yn awr, Meurig, tynn yr hen gadach yna ymaith. Drato, yr wvt ti'n ddulas. Cyf., M.T. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemiat neu siop nea dorwyr gwallt, pria 3s. 6d., 7s„ a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, anr at wallt golau nen wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystail St., Rosebery Avenue. London, E.C.l. J. H. & CO.