Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCHUAND 0 AUEN Y BARDD MAIN VAGANS Y MAE gennyf y mwynhad anrhaethadwy o hysbysu i chwi fy mod ar ôl llawer iawn o drafferth a chost. wedi trefnu i chwi gael cipolwg ar y Bardd Main wrth ei waith yn ei ystafell. Nid wyf am godi disgwyliadau ofer na siomi fy narllenwyr, ond mentraf ddweud hyn nid yw o gwbl yn amhosibl-yn amhosibl, meddaf-y medrwn ddal y bardd ar y foment eneidegol honno pan yw'r Awen yn y weithred o ddisgyn arno, ac y cawn y fraint amhrisiadwy o weled cyfansoddi telyneg neu soned. Ar gais nifer fawr o'm cyd-genedl y mae gennyf y mwynhad o gyflwyno unwaith eto i sylw'r lluoedd y gẃr a adwaenir fel y Bardd Main. Er bod peth o waith y poet hwn eisoes yn adnabyddus i lawer, eto y mae ]le i gredu nad yw'r genedl ar y cyfan wedi ei werthfawrogi a thalu iddo y deyrnged a deilynga. Dull gwreiddiol o ennill byw. Er enghraifft, nid ydyw Prifysgol Cymru hyd yn oed wedi awgrymu ei hanrhydeddu ei hun drwy gynnig gradd iddo, a nid ydyw'r Orsedd, chwaith, wedi cydnabod ei fod, a thra yw'r corfforaethau dysgedig hyn wedi bod drwy'r blynyddoedd yn anrhydeddu gwýr anhraethol llai disglair y mae'r Bardd Marn wedi bod, mewn dull o siarad. yn myned yn feinach, ac y mae 1le i gredu y buasai wedi diffodd yn llwyr erbyn hyn, oni bai i'w ddychymyg byw a'i ddirfawr athrylith ef ei hun ddarganfod dull hynod wreiddiol o ennill bywoliaeth, fel y cewch weled yn nes ymlaen. Er hynny, ni ellir beio gormod ar y werin yn gyfrredrnol am beidio â'i werthfawrogi. Er bod y Bardd Main wedi cynhyrchu mwy o ddarnau o fewn amser penodedig nag unrhyw dri phrydydd cyfoes, eto nid yw ef yn wr sydd yn caru gormod o gyhoeddus- rwydd. Y mae ef yn swil yn ogystal ag yn fain. Ychydig flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd nifer fach o'i weithiau yn y wasg, ond eithriad oedd hynny, ac nid oedd y pethau a gyhoeddwyd ond rhan fechan iawn o'r stôr ddi-hysbydd oedd ganddo yn y tÿ o bryddestau, awdlau, cerddi a thelynegion. Awen fel ager o degelL Yn wir, gymaint ydyw'r afradlonedd awenyddol hwn o eiddo'r bardd nes peri iddo o dro i dro gael peth trafferth i gael gwared ar ei stoc o brydyddiaeth. Fel yr awgrymwyd, gwr yw ef nad yw'n rhy hoff o'r wasg, a nid yw'r wasg, chwaith, yn rhy hoff ohono yntau. Sefyllfa anhapus yw hon i fardd a'r awen yn ei nerth yn mynnu corddi o'i fewn fel golchan mewn pair, a thelynegion, englynion, pryddestau a cherddi yn Uifo allan ohono fel ager o big tegell. Eithr tarawodd y bardd ar un ffordd hapus nodedig o wneud defnydd o ffrwyth ei awen, ac yn wir, o'i gyflwyno i'r cylch bychan hwnnw o lenorion a chritigyddion sy'n cael yr anrhydedd o werthfawrogi ei waith. Dechreuodd drwy bapuro muriau ei lyfrgell â llawysgrifau yn cynnwys rhai o'i brif weithiau. Aeth yìnlaen i bapuro'r gegin yn yr un modd. Wrth ei fod yn dyfod i deimlo yn fwy hyderus ymgymerodd â'r gwaith o addurno ei ystafell wely yn y dull hwn. Yna daeth tro'r ystafell ymolchi, y gegin fach, a'r pantri, ac erbyn hyn, y mae'n hyfryd gennyf gofnodi nad oes gymaint â drws pantri neu silff lyfrau heb fod arni nifer o delynegion neu osteg o englynion. Yn wir nid oes gymaint â thu fewn i gwpwrdd heb ei bapuro fel hyn. Yn nhv y Bardd Main, Ue y disgwyliech weled marmalêd chwi a gewch bryddest, a phan ewch ati i chwilio am y mint sauce ond odid na tharawch ar secwens o sonedau. Dr. Jones, M.A., o'r brifysgol. Y mae hyn oll yn wybyddus i'r cylch llenyddol a dysgedig a gyferfydd o bryd i bryd yn nhŷ y Bardd Main, cylch sydd, erbyn hyn, wedi ei ffurfio yn rhyw fath ar salon." A pheth cyffredin iawn ar un amser ydoedd ymgom o'r fath yma rhwng, dyweder, y critig dysgedig Dr. Jones, M.A., o'r brifysgol, a'r bardd enwog (sydd hefyd yn aelod blaenllaw o'r Orsedd), Ieuan Tew ei Floneg. Ebr y bardd Beth yw'ch barn chwi, Dr. Jones, am y delyneg fach yna i'r fal- woden, sydd ar gefn drws y gegin fach ? Yna etyb y critig Nid ystyriaf hi ar yr un lefel â'r soned i'r Iâr Glwci sydd tu ôl i'r Cwpwrdd PicUs Tybed ? ebr y bardd. gan dynnu ei law yn synfyfyriol drwy ei wallt trwchus. Fy mam bersonol i ydyw mai dyna'r peth gorau y mae'r Bardd Main wedi ei droi allan oddi ar y delyneg fach felys honno i'r Lleuad Tan Gwmwl, a gyfansoddodd ryw chwe mis yn ôl." Telynegion i'r lleuad. Telyneg i'r Lleuad Tan Gwmwl ? ebr y critig yn chwyrn, ac yn awyddus i brofi ei fod yn hyddysg yng ngwefthiau'r bardd. Mae ganddo nifer o delynegion i'r lleuad mewn gwahanol gyflyrau. A ydych yn cyfeirio at yr un sydd tan y cloc uwchben y silff ben tân, neu ynteu honno sydd wrth gefn y 'Gas Stove ? "Dim un o'r ddwy," eteb y bardd. Mae'r un a olygaf i ar ddrws y safe gig, rhyw dair modfedd i'r dde oddi wrth yr hinshis." Hmff ebe'r critig wedyn, yn fy marn i, nid yw'r Bardd Main ar ei orau pan vw'n canu i'r hen destunau traddodiadol. Os ydych am werthfawrogi ei lawn nerth, cewch ef yn ei epig aruthrol i'r Vacuum Cleaner.' Y mae'r arwrgerdd hon y funud yma yn addurno wal y 'Bathroom' Tybed, yn wir ? ebr y bardd ­braidd yn ddiflas erbyn hyn. Ofnaf nad wyf wedi darllen y campwaith hwnnw." Epig i'r Vacuum Cleaner." Beth ? ebe'r critig mewn Uais bydd- arol, onid ydych wedi darllen yr epig i'r Vacuum Cleaner sydd gan y Bardd Main ar furiau'r Bathroom ? Wel, — he, he — ebe'r bardd yn wylaidd, -y-ofnaf nad wyf wedi cael cyfle i gael bath oddi ar imi ddyfod i aros i'r tv yma 'Beth? Beth Dim bath ? Dyna eich syniad o werthfawrogi llenyddiaeth eich cenedl. Dim bath — a'r gerdd odidog yna ar furiau'r Bath-room Hwdiwch, y dyn -dyma i chi delpyn o sebon Cymerwch fath er mwyn Uenyddiaeth Cymru Bu llawer ymgom ddiddorol o'r fath yna yn gyffredin ar un adeg yn y cylchoedd llenyddol uchaf. Ond rhaid symud ymlaen yn awr i roddi syniad o waith y Bardd Main i'r bobl hynny na chawsant y fraint o ymgydnabod â'r enghreifftiau disgleiriaf sydd yn addurno muriau ei gartref. Ac yn y fan yma yr ydym mewn peth penbleth, oblegid y mae cynnyrch awen y bardd mor doreithiog fel ei bod ymron yn amhosibl darganfod unrhyw ddarn sydd yn enghraifft deg o rediad ei feddwl. Nid oes darn sydd yn wir nodweddiadol ohono. Mewn gair, ni fedrir awgrymu i ba gyfeiriad y rhed ei feddwl am y rheswm syml fod ei feddwl yn rhedeg i bob cyfeiriad. Nid bardd yn unig ydyw'r dyn. Y mae hefyd yn athronydd, ac yn wir ar adegau y mae hefyd yn hanesydd a hyd yn oed yn rhyw fath o ddramâydd. Ambell dro, fe wêl yn dda fod yn bob un o'r rhai hyn o fewn cwmpas un gerdd fer. Ychwaneg, gellir dywedyd nad gwaith hawdd fydd i gritigyddion y dyfodol leoli y prydydd hwn o fewn cyffiniau unrhyw ysgol. Y mae'n perthyn i bob ysgol ac ar yr un pryd y mae uwchlaw iddynt oll. Felly, o angenrheidrwydd, y mae rhai darnau o'r eiddo yn tueddu i fod yn ddyrys ac anodd eu deall. Nid bardd syml ydyw'r Bardd Main bob amser.