Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drindod Anhepgor y Chwaraedy Ddramawyr, Actorion a Gwrandawyr, y mae'r radio'n galw am YR ym fel cenedl ar fedr cael gorsaf radio i ni'n hunain. Galwad yw hyn ar ddynion ieuanc Cymru i ymbaratoi ar gyfer gwaith cyson i'w cenedl, a gwae fo i'r neb a lwfrhao rhag rhoi gwasanaeth felly iddi. Eisoes sonnir am ddramau ac os dramau. yna fe fydd galw am awduron ac actorion dramâu. Gan na fydd celfyddeg y cyfan- soddi a'r actio yn dilyn yr hen draddodiad, onid oes alw taer arnom i ymestyn at waith a hynny ar unwaith. Trindod y chwaraedy. Y drindod sy'n cjiansoddi'r chwaraedy yw'r awdur, yr actorion a'r gwrandawyr. Heb yr un o'r rhain. ni cheir yr undod perffaith a elwir gennym yn chwaraedy. Undod ydyw o gydweithrediad, o gyd- ddeall, o gydymdeimlad, o gyd-chwerthin neu o gyd-oddef. Fe wyr y neb a fynycho'r chwaraedy am yr ysbeidiau hynny pan fo'r drindod hon yn soddi i undod hyfryd, pan ymdoddo'r synhwyrau i un ymwybyddiaeth gyffredinol a'r ymwybyddiaeth honno'n gorchfygu pob gwahaniaeth a ddigwyddo fod cyn y chwarae neu ar ei ôl. Dramaydd, actor, gwrandawr. Yr ysbeidiau hyn yw swyn y ddrama ym mhob oes. Fe ellir mesur ein llwyddiant ninnau ym myd y ddrama Gymraeg wrth yr unrhyw brawf oni cheir undod perffaith rhwng darfelydd a dawn y dramaydd, camp athrylith mewn dehongli gan yr actor, a rheswm a chalon y gwrandawr; ni cheir y peth byw hwnnw a elwir gennym yn ysbryd y chwaraedy. Gwelwn felly mor bwysig yw pob rhan o'r gwaith heb weledigaeth a chrefftwaith manwl ar ran yr awdur, heb ddisgyblaeth a medr at ddehongli ar ran yr actorion, heb glust i wrando a chalon i deimlo ar ran y gwrandawr nid oes chwaraedy'n bod o gwbl. Ond nid oes ball. a chaniatáu bod y cymwysterau hyn, ar bosibiliadau celfyddyd y chwaraedy er diddori ac adeiladu mewn llawer iawn o ddulliau a moddau. Y cwmni lleoL Er drwg neu er da, y mae'r ddrama wedi dyfod yn boblogaidd dros ben ym mhot cwrr o'r wlad. ymron. Mawr yw'r miri pan gyhoeddo'r cwmni lleol fod chwarae ai law ac os bydd y chwarae'n rhywbeth nas clybuwyd o'r blaen fe fydd y Cymry, fel yr Atheniaid gynt, yn heidio yno fel un gŴT. Os digwydd bod aelod o'r teulu ai y llwyfan, ni bydd ddiwedd ar eu mawl, na phen-draw i'w brwdfrydedd. Ond chwarae teg i'n cwmnïau yn wir, os ydynt yn ymddwyn fel eilun-addolwyr ai brydiau, y maent hefyd yn ddigon effrc eich gwasanaeth i Gymru Gan John RHYS (Hymyr) Beirniad Drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol Mr. John Rhys. eu cynheddfau i wybod pan fo cyffro ar wyneb llym y ddrama, neu pan fo'r actor celfyddus ei ymadrodd yn plymio i galon y gynulleidfa. Yn sicr y mae'n gwrandawyr drama yng Nghymru heddiw yn batrwm yn y peth hwn o'u cymharu, dyweder, â'r cynulleidfa- oedd, yn fonedd neu wrêng, a wrandawai ar gampweithiau'r meistr-ddramaydd Shakes- peare yn ei ddydd a'i dymor ef. Eto, fel yr ymgynefina'r dorf yn fwy â gwaith y chwaraedy, fe welir dwyster astudrwydd yn fwy o reddf iddynt wrth wrando. Clwm o Gymry ifainc Gedwch inni hoelio'n golygon ar lwyfan wledig Ue gwelir clwm o Gymry ifanc yn ceisio portreiadu cymeriadau sydd efallai yn gwbl wahanol iddynt hwy eu hunain. Ie'n wir, sbiwch arnynt. Dynion di- brofiad ydynt gan amlaf, di-ddisgyblaeth yng nghrefft chwaraedy ac onid syndod eu bod hwy cystal ag y maent. Fe gewch glywed lleisiau gan wŷr ifainc sydd i'r dim at bwrpas mynegiant ond, ysywaeth, pan yw'r gofyn am fynegiant cyfrin, cêl, o ryw ddarn o'r ddrama, fe â'r llais yn afreolus ac yn gwbl analluog i'r alwad. Nid dyma'r fan na'r achlysur i fanylu ar y cwestiwn, ond goddefer imi ddywedyd yn syml nad oes modd inni godi at uchelion celfyddyd ym myd y chwaraedy oni bydd ein hactorion ieuanc yn mynd at rywun cyfarwydd am hyfforddiant pa fodd i feithrin a chynhyrchu'r llais, pa fodd i ymarweddu ar lwyfan, pa fodd i siarad yn fynegus, pa fodd i ennill diddordeb llwyr y gwrandawyr yn neges y ddrama. Yng nghylchoedd drama llafur-cariad gwledydd eraill ni byddai siawns am ran yn y chwarae heb fynd dan ddisgyblaeth drylwyr felly ac yn ddios ni chaffai neb waith ar lwyfannau proffeswrol heb fod ganddo gyflawn gymhwyster a dawn. Y mae eisoes nifer o gwmnïau, er nad vm ond megis ar drothwy celfyddyd drama yng Nghymru, sy'n esgyn yn uchel iawn yn y grefft ond ysywaeth, ni welir y rheini y tu allan i'w hardal eu hunain ac y mae pwys ein sylwadaeth yn arbennig felly ar gwmnïau yn y mudiad sy'n brin o'u man- teision hwythau. Y gwrandawyr. Am yr edrychwyr-gwrandawyr efallai yw'r enw gorau-oni ddônt hwy â'u cyfran- iad i'r chwaraedy, ofer fydd pob gwaith arall, er ei odidoced. Nid vm, efallai, yn barod i eilio'r gosodiad mai'r dorf biau'r chwaraedy ond nid vm am eiliad yn amau ei hawl gyfreithlon i'w Ue yno. Heb feddyliau effro, calonnau agored i neges y ddrama a'r cwbl o'r gwrando a'r derbyn, a'r gymeradwyaeth yn tarddu o ffynoneUau cywir, fe ddifethir pob delfryd o eiddo'r awdur, fe ddistrywir pob ymgais gelfyddus gan yr actorion i ddehongli'r chwaraeawd ac fe â'r hud a'r Uedrith ar ddisberod, heb obaith am eu hadferyd y noson honno. Cofier, nid unrhyw pob perfformiad. Nage; dynion sy'n chwarae, nid dolïau. Felly y mae cyfle i ysbrydoliaeth godi'r chwarae ar un noson yn unig o gyfres ac y mae'n werth inni fynd bob tro sy'n bosibl er mwyn profi melyster dawn yr ysbrydoliaeth honno. Fe ddaw'r ysbrydoliaeth mor ddisyfyd a chyn sicred ag y daw awel o rywle i chwarae ar lyn o ddŵr ryw fore o Fai neu Fehefin. Darllenwch hanes profion felly neu yn well ewch, Gymry annwyl, i wrando fwy nag unwaith ar ddramâu Cymraeg. Fe haedda'r awdur a'r actorion hynyna o leiaf. Yr awdur. Gŵt yw'r awdur a gerir gan bawb o'r werin a ymddiddora yn y ddrama a'i swynion. A yw serch ein blaenafiaid arno sy fater arall; ni chlywsom guro dwylo na banllef o gymeradwyaeth iddo oddi wrth ein Prif- ysgol. Swn crintach isel hefyd a glywir gan rai cwmnïau yn erbyn y tâl afresymol o isel a godir ganddo am ei waith llafurus. Eto credaf fod mwyafrif ein cenedl yn uno megis un galon i anrhydeddu'n harloeswyr ym maes caregog y ddrama Gymraeg. (I dudalen 288.)