Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr un yw'r Iddew ym Mhobman Ac fel unrhyw genedl arall, yn gymysg o'r drwg a' r da ebe'r prifardd Edgar Phillips yn yr ysgrif ddiddorol hon sy'n cynnwys amryw atgofion hynod WRTH ddarllen erthygl ddiddorol Mr. Timothy Lewis yn un o rifyn- nau diweddar Y FoRD Gron, ni allwn lai na chofio llawer tro difyr a ddaeth i'm rhan innau yng nghwmni rhai o blant Israel. Gwir mai ym mhrifddinas Lloegr y digwyddodd hyn, ond yr un bobl oeddynt hyd yn oed yno, yn gymysg o'r drwg a'r da yn union fel unrhyw genedl arall. Er bod gennyf y pryd hynny dystysgrif Ysgol Dechnegol yn profi fy mod yn grefftwr da ac yn gallu torri a gweithio dillad merched o'r math cywreiniaf, ni allwn gael gwaith yn y West End, a throwyd fy wyneb i gyf- eiriad arall. Trwy garedigrwydd Iddew fe'm cyflwynwyd i sylw gŴT a gredwn oedd yn estron o ryw fath. 0 ba dref y dowch chwi ? Edrychodd arnaf am funud ac yna dywedodd, Mi allaf weld â hanner llygad mai Almaenwr ydych-o ba dref y dowch chwi ? 0 Dref y Glyn," meddwn yn gellweirus. Bie mae hynny-Bohemia ? meddai wedyn. Rhywie gerllaw," ebe finnau. "Wel, waeth gennyf o b'le y dowch," ebe'r gŵr, pwynt yw a fedrwch chwi wneud eich gwaith ? Gyda hynny arweiniodd fi i ystafell arall a rhoddodd bapur o'm blaen a cheisiodd gennyf dorri patrwm cot a sgert merch o'r dull diweddaraf. Gwneuthum hynny wrth ei fodd ac ni cheisiodd fy mhapurau na dim ychwaneg o'm hanes. Cyn imi fynd allan oddi wrtho synnwyd fi yn fawr gan un cais o'r eiddo Ewch yn dawel at y drws acw, ac agorwch ef yn sydyn." Gwneuthum hynny a chyda hynny syrthiodd clamp o Iddew tew yn ei hyd ar lawr tu fewn i'r ystafell-yr oedd wedi bod yn clustfeinio wrth y drws Hanner eich gwaith fydd gwylio'r taclau hyn a'u cadw rhag fy ysbeilio," ebe'r g-wr, ac os gwnewch hynny'n ofalus ni fyddwch ar eich colled." A dyna fy ngwaith am y chwe mis nesaf. Yr wythnos gyntaf. Yn y gweithdy yr oedd pymtheg o Iddewon a rhyw hanner dwsin o ferched o'r un genedl, ac amser anhapus iawn a gefais am yr wythnos gyntaf. Ni chlywais air o Saesneg am ddyddiau lawer, ond pan welsant nad oedd hyn yn fy mlino, ceisiwyd fy nenu â sebon meddal a llawer o geisiadau am wybodaeth parthed fy ngwlad a'm cenedl. Pan fethasant â hyn dechreuasant ofyn imi pa beth oedd hyn a'r llall yn fy iaith i, a'r atebion a gaent oedd Llanfairpwil- gwyngyll," ac yn y blaen. Tybiasant o'r diwedd fy mod yn alltud politicaidd fel un neu ddau ohonynt hwy a chyn hir trwy imi ddangos cwrteisi a charedigrwydd iddynt, deuthum o dipyn i beth yn ffefryn. Darganfûm yn fuan na aned yr un ohonynt yn Lloegr a ffoaduriaid oedd llawer ohonynt. Daeth y blaenwr (y gŵr tew y soniais amdano) i'r wlad hon yn ystod y rhyfel rhwng Rwsia a Japan, ond gadawer iddo ddweud ei hanes. Dyfalu a dyfeisio. Yr oeddwn ar y pryd yn sarsiant yn y fyddin, ond yr oedd fy nghalon yn toddi wrth feddwl am fynd i'r rhyfel. Ni allwn ddirnad sut y gallwn osgoi hynny a bûm nosweithiau yn dyfalu a dyfeisio cynlluniau. Gwelwn na wnâi ffugio afiechyd y tro oblegid curid pob un sâl yn ôl i lawn iechyd drachefn, a'm gwaith i'n fynych oedd curo fy nghyd Iddewon a geisiai ffugio. i O'r diwedd deuthum i'r penderfyniad mai dangos sêl a brwdfrydedd yn hynny o waith a oedd y peth gorau. Blinid yr awdurdodau gan y nifer fawr a ddiangai dros y ffin rhwng ein gwlad ni a'r nesaf ati (ni allwn gael ei henw ganddo), a phender- fynwyd na châi neb ond Rwsiaid o sêl profedig wylio'r ffin. Darganfûm fod y chwe chyntaf o'r rhai newydd yn bwriadu dianc a rhybuddiais yr awdurdodau. Gosodwyd fi a chwech o Iddewon yn eu lle a buom yn hynod o weithgar am wythnos-daliasom tua dwsin o ddynion a chanmolwyd ni gan yr awdur- dodau am ein sêl. Y noson gyntaf y tyn- nwyd y swyddog oddi wrthym, aethom drosodd ein hunain a daethom i gyd i Brydain." Stori Joseff a Moses. Y peth a'm synnai fwyaf wrth gyfath- rachu felly â hwy beunydd oedd eu han- wybodaeth o'u chwedlau traddodiadol. Tybiwn, a mi'n Gymro wedi fy magu yn yr Ysgol Sul. y gwyddai pob Iddew y rheini ar dafod leferydd. Nid hwyrach mai'r ffaith mai o Rwsia y daethant a gyfrif am hyn, ond y gwir yw, ni wyddent stori Joseff na Moses yn dda o gwbl a gwrandawent arnaf yn eu hadrodd dro ar ôl tro fel plant bychain-fe'i hadroddais wrthynt nes fy mod wedi blino arnynt fy hun, a'r gwir yw, nid oes gennyf fawr o olwg arnynt hyd y dydd heddiw. Canlyniad hyn oedd i un o'r Coheniaid alw i'm gweled a cheisio gwybod i ba genedl y perthynwn. Pan fethodd, bu mor eon â gofyn yn bendant ac atebais, I un o'r deg llwyth coUedig." Mr. Edgar Phülips. Cellwair yr ydych, yn ddiamau," ebr yntau, ond nid hwyrach bod mwy o wir yn yr hyn a ddywedwch nag a dybiwch ar hyn o bryd." Yr oedd yr un mwyaf crefyddol ohonynt yn gweithio'n gyson ar ddydd Sadwrn, a phan ofynnais iddo sut y cysonai hynny â'i ddaliadau atebodd 0. yr wyf yn gynu'r wraig bob amser i wneud crefydd drosof." Sylwais ei fod yn fwy llawen nag arfer un diwrnod ac atebodd fod y nef yn ei fendithio uwch pawb o'i gyd-genedl. Neithiwr," ebe fe, ar fy ffordd adref mi gefais bwrs a decpunt ynddo, a'r bore heddiw ganed mab yn blentyn imi." Gofynnais iddo a hysbysodd hynny i'r polîs a dywedodd, Naddo, ond fe anfonais bunt i'r synagog yn offrwm diolch." Ymhen wythnos darganfu mai un o'i gyd-genedl a gollasai'r arian a dychwelodd y cwbl ond y bunt petai'n Gristion ni chawsai geiniog Dyna fy mhrif gwyn yn erbyn yr Iddewon ­tuag at ei gilydd ymddygant yn garedig a brawdol, ond yng ngwaelod eu calonnau nid ystyriant y cenedl-ddyn yn ddim amgen na llwch y llaw, a phan gânt y llaw uch yn fynych fe'i gwyr yntau. Nid yw hyn efallai, ond tâl cyfiawn am y driniaeth gawsant yn ystod yr oesoedd, ond nid ango gennyf yr unig dro y rhydd hanes enghraifft inni o'r Iddew fel meistr ar y Cristion, ac ni allaf hyd heddiw ei garu. [Drosodd