Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tynnwch Ddarluniau yn y Gaear YCHYDIG bethau a ddaeth i boblog- rwydd mor gyfljm â'r arferiad o dynnu lluniau. Ceir papur newydd heddiw yn trefnu cystadleuaethau i dynnu lluniau a cheir amryw bapurau estron sy'n ymdrin â'r mater hwn yn unig. Prawf hyn fod diddordeb y lliaws erbyn heddiw wedi ei ddeffro i bosibilrwydd y gelfyddyd gain yma. Eto, er mor boblogaidd ydyw, rhyw bleser dros dymor ha a rydd y tynnwr lluniau i'r rhan fwyaf ohonom. Nid rhaid i hyn fod. Wrth gwrs, i'r rheini sy'n fodlon ar gael Uun eu cydnabod yn unig, hwyrach mai cyfyngu eu hymdrechion i dymor yr heulwen sydd orau, ond gwêl y sawl a fyn ddarluniau gwerth eu cadw fod y gaea'n dymor llawn mor ffrwvthlon â'r ha. Y mae perygl mawr yr ha yn ei ragor- iaeth, oherwydd gan fod tynnu lluniau'n beth mor hawdd pan geir digon o olau haul, y demtasiwn fawr yw tynnu llun ar ôl llun yn ddifeddwl a bod yn y diwedd heb un da yn wobr am yr holl lafur. Ond yn nhymor y gaeaf y mae'n rhaid rhoi llawer mwy o ystyriaeth a gofal os vm am wneud y gwaith o ryw werth. Pa beth i'w dynnu. Y cwestiwn cyntaf wrth sôn am dynnu lluniau yw, pa beth i'w dynnu a'r ateb yw, unrhyw beth y credir bod ynddo bryd- ferthwch neu ryw elfen gwerth ei gadw. Dibynna hyn lawer iawn ar y dyn ei hun, ond daw'r un sydd o ddifrif i weld yn fuan mai gwell yw ei gyfyngu ei hun i un gangen-er enghraifft, lluniau pobl, lluniau llysiau a blodau, neu luniau adeiladau. Nid cynllun gwael fyddai gweithio cyfres o ddarluniau ar destun arbennig os gellir portreiadu twf neu ddatblygiad ynddynt. Dyna raniad arall a'i hawgryma'i hun yn naturiol yw tynnu lluniau allan a thynnu lluniau i mewn. Darluniau Hydref. Gyda golwg ar dynnu lluniau allan nid yw pasiant y gaeaf ronyn yn llai rhamantus na'r ha. Oni ellir cael darluniau o'r hydref a'i gysgodion hir a'i lwyni hanner crin, eira a glaw y gaeaf, strydoedd wedi eu goleuo, Uynnoedd wedi rhewi, a llawer o bethau eraill Eithr nid oes derfyn ar y pethau y gellid eu cynllunio yn y tv, er enghraifft, lluniau o'r plant yn chwarae, y fam yn gwau, y gath a'r ci'n pendwmpian wrth y tân. Mewn gair, y mae mwy o gyfleusterau i gael lluniau diddorol i mewn yn y gaeaf nag yn yr ha. A ddigwydd wrth dynnu llun. Yr anhawster mawr yn y gaeaf yw nad oes lawer o olau naturiol, fel sydd yn yr ha. Y mae mwy nag un ffordd i ddod dros ben yr anhawster, ac i ddeall hynny mantais fawr yw cael rhyw syniad o'r hyn a ddigwydd yn ystod tynnu llun. Dyma ddarlun i egluro'r nodiadau. A yw ffynhonnell y golau (yr haul, dy- weder) teflir y golau ar y ddau afal B, yna teflir i C, sef y crwnwydr, a thrwy C i D, y cen (ffilm) a ddarparwyd i dderbyn argraffiadau. Os cedwir hyn mewn cof, ni cheir anhawster i ddeall yr hyn a ddilyn. Gwelwn fod pedwar peth yn penderfynu ansawdd y Uun, sef y golau o A gallu B i daflu'r golau hwn swm ac amser y golau yn C a chyflymder y cen D i dderbyn a dal yr argraffiadau. Nid oes angen manylu ar yr ail o'r pedwar hyn gan fod y gallu i daflu golau gan bopeth sy'n weledig i'r Uygaid. Yr unig beth i sylwi arno yw bod rhai lliwiau, megis glas, yn trosglwyddo golau'n well na Uiwiau tywyll fel coch. Rhaid manylu ychydig ar y tri arall. Ar hyn o bryd, y mae tri math o ffilmiau ar y farchnad y ffilm gyHredin (Kodak neu Selo) y ffilm hanner lliw gromatig (chrome, Y mae digon o amrywiaeth testunau, oddi mewn ac oddi allan medai Idwal ab Ieuan fel Verichrome) a'r Uiwiog, y pancromatig (Kodak Pan, Isopan). Gwahaniaetha'r mathau hyn mewn gallu i gyfleu lliwiau ac mewn cyflymdra. Wrth gyflymdra mewn ffilm golygir y gallu i ddal Uun â chyn lleied o oleuni ag sydd bosibl, hynny yw, cyflymaf y bo'r ffilm, gorau'n y byd yw at dynnu Uun pan fo'r golau heb fod yn gryf. Rhagoriaeth pennaf y pancromatig yw y rhydd well lluniau na'r mathau eraill wrth olau lamp. Hon hefyd yw'r ddrutaf: yr agosaf ati yw'r gromatig a'r ffilm gyffredin yw'r rataf o'r cwbl, ond gellir dweud ar y cyfan fod y pris uwch yn werth ei roi oherwydd y rhagoriaeth a welir yn y lluniau. Amser a swm golau. Yr ystyriaeth nesaf yw gallu'r peth tynnu lluniau i ollwng y golau i gyrraedd y ffilm. Rhennir y rhan yma o'r gwaith yn ddwy ran, sef swm y golau a ollyngir i mewn a'r amser a roir iddo i aros ar y ffilm. Penderfynir y cyntaf gan y stop," a'r ail gan y speed." Dangosir swm y golau ar rai camerâu gan enwau megis dull," bright," ond ar y rhan fwyaf gan ffigurau gyda'r lythyren F o'u blaen, fel F22, F16, Fll, F8, F6.3, weithiau fwy a weithiau lai. Peth pwysig i'w gofio ynglvn â'r rhai hyn yw mai mwyaf yn y byd y ffigur, lleiaf y bydd y stop, ac o ganlyniad Heiaf yn y byd o olau sy'n mynd ar y ffilm. Peth araU i ddal sylw arno yw bod pob stop yn ddwbl maint yr un o'i ßaen-y mae dwywaith gymaint o olau'n mynd trwodd gydag F8 ag sydd gydag Fll. Fe ddilyn yn naturiol o hyn fod perthynas rhwng y stop a'r amser a roddir i'r golau fynd trwodd ac os bydd angen cwtogi'r amser, rhaid rhoi stop mwy. Llun mor neu eira. Nodir yr amser ar y camera gan y ffigurau 25, 50, 100. Golyga'r rhain chwarter canfed hanner canfed a chanfed ran o eiliad. Ar gamera ychydig yn ddrutach na'r arferol ceir caead a rydd fwy o ddewis, fel un. rhan o ddeg o eiliad, chwarter eiliad, hanner eiliad ac eiliad cyfan. Pan na fydd sôn am gyflymdra na swm golau ar gamera, megis y camera-blwch, gellir cymryd bod y stop yn F16 a'r cyflym- dra yn 25. Nid yw hyn o fawr werth ond pan fydd digon o olau haul. Y lleiaf y gellir ei ddefnyddio yn ystod y gaeaf yw F8 a 25, a hynny ar lan y môr neu i dynnu darn o wlad agored neu gymylau.