Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Profedigaeth Cymro Oherwydd Iddewes [Parhad o dudalen 283] Cymeriad arall o ddiddordeb mawr imi oedd un o'r merched a weithiai yno. Daeth i'r wlad hon yn blentyn wyth mlwydd oed a thocyn am ei gwddf, a bu am beth amser yng ngofal un o'r Rabiniaid. Dywedodd mai'r rheswm am hynny oedd i'w thad a'i mam gael eu lladd mewn pogrom. Y dydd cyn i hyn ddigwydd daeth swyddog heibio i rai o'r Iddewon cyfoethocaf yn nhref ei geni gan geisio arian ganddynt ac addo os câi y byddai iddynt ddiogelwch. Nid ymddiriedai'r Iddewon fawr yn hynny a addawai, ond manteisio ar gyfle i osod eu merch fechan ar long yn perthyn i'r wlad hon a thalu am ei chludiad i Lundain. Y nos honno lladdwyd y ddau ac ugeiniau Pan foch yn tynnu llun ar eira gellir defnyddio'r camera-blwch oherwydd bod stop F16 a Fll yn ddigon. Y mae golau oddi ar eira cyn gryfed â golau haul i bwrpas tynnu llun. Os ych am wneuthur iawn ddefnydd o'r tymor yma rhaid penderfynu cymryd lluniau i mewn, ac wrth gwrs nid yw'r cyflymdra a nodwyd uchod o unrhyw werth i hyn. Gelwir 1/25, 1/50 yn dynnu ebrwydd (instanianeous, yn cael ei ddynodi gan y llythyren I ar rai camerâu). Golyga hyn fod y caead yn agor i adael y golau i mewn ac yn cau i'w gadw allan pan dynner y glicied unwaith. Pan nad oes digon o olau i ganiatáu hyn, gellir tynnu wrth amser, hynny yw, rhoi'r pwynt ar y llythyren T, yna fe saif y caead yn agored wedi pwyso'r glicied a rhaid ei bwyso eilwaith i'w gau. Trwy wneuthur hyn geHir rheoli'r amser a gadael i'r golau hynny o amser a fynner eraill gyda hwynt. Preswyliai'r ferch gyda'i hewythr, gŴT lled gefnog, ond gweithiai am ei thamaid fel y tlotaf o'i chyd-genedl, a bostiai'n fynych ei bod wedi rhoi yn agos i ganpunt yn y banc. Syrthiodd fy olynydd yn y siop hon- Cymro arall-i brofedigaeth oherwydd y ferch dlos hon. Er nad oedd priodi yn ei feddwl bu allan am dro gyda hi fwy nag unwaith, a thalodd am fwy nag un swper iddi. Un diwrnod daeth un o'r Iddewon hynaf ataf i holi sut fachgen oedd y Cymro, a chan dybied mai o safbwynt busnes yr holai, rhoddais y gair gorau iddo. Y nos honno gwahoddwyd ef i dv gŵr nas adnabuasai o'r blaen, ac er mawr syndod iddo cynigiwyd y ferch a dwy siop dybaco i argraffu ar y ffilm. Wrth gwrs ni olyga hyn mai po fwyaf o amser a roir. sicraf yn y byd fydd y Uun yn wir y perygl mawr ar y dechrau yw rhoi gormod. Nid oes yr un rheol, eithr trwy gadw at yr un lle, a'r un amser o'r dydd, yn ogystal â'r un math o ffilm, wedi ychydig o arbrofion, deuir i weld yr amser iawn i'w roi. Fel rhywbeth i gychwyn arno, mewn ystafell olau â'r gwrthrych y bwTÌedir ei dynnu heb fod dros ddwylath oddi wrth y ffenestr, cy- frifwch o un i bump mor gyflym ag y gellwch yn ddealladwy rhwng agor a chau'r caead, gyda stop F8, ac ni fydd ymhell o'i le. Rhaid cofio na ellir dal y camera yn y llaw am yr ysbaid yma, ond ei osod ar fwrdd neu rywbeth sefydlog arall, a chael yr un y bwriedir ei dynnu i ddeall bod yn rhaid iddo yntau gadw'n llonydd. Cyfrifwyd o un i bump ar F8 i'r darlun o'r ci ar y tu- dalen arall, ac ar Fll i ddarlun yr eneth, gan ei bod yn nes i'r ffenestr. Ar y traeth fin DOl yn Aberystwyth [Y darlun gan E. D. Davi#s, Creigiau, Caerdydd. iddo ar gais ei hewythr. Fedraf i ddim priodi heb gael caniatâd fy nhad," ebe'r Cymro, o ddiffyg esgus arall, ond er syndod iddo, codi yn eu golwg a wnâi oherwydd ei ateb. Yr oedd anrhydeddu tad a mam yn beth mawr yn eu golwg. Ar gais fy nghyfaill ymhen ychydig ddyddiau ysgrifennais lythyr ato, yn enw'i dad, yn ei hysbysu y collai bob dimai o'r pum mil punnoedd a oedd i fod iddo ar ôl ei dad, a mwy na hynny, y byddai'n ei felltithio â'i anadl olaf os priodai Iddewes cofier ar yr un pryd mai aradrwr ar fferm oedd y tad Argyhoeddodd hyn yr hen ewythr bod priodas yn amhosibl, ond ni chollodd ei edmygedd o'r Cymro ifanc hyd ei fedd. Un tro yr oedd angen pâr o ddillad arnaf a gofynnais i deiliwr, a oedd yn grefftwr da, ei gweithio imi. Ymhen tridiau gelwais amdani, ond er syndod imi nid oedd y dillad ganddo. Cyfaddefodd ei fod wedi'i gosod allan i ŵr arall o'r un genedl. Euthum at hwnnw yn dân gwyllt, ond gyrrwyd y ffw] ymhellach eto a chefais hi yn nhv gwr o Sais tlawd a'i gwnâi am grocbris. Telais iddo yr hyn a addewais i'r UeiU ac ni chawsant geiniog gennyf am y drafferth o'i throsglwyddo. Ymhen blynyddoedd wedyn cyfarfûm â gwr tew fy niwrnod cyntaf, a'i air cyntaf ydoedd 'Nawr, 'nawr gan ein bod yn hen ffrindiau. dwedwch o ba genedl y dowch ? Slefenski," ebe finnau, a glywsoch chwi am Lloyd George ? Do'n siŵr," oedd ei ateb. "Fet fel, yr oeddwn bob amser yn meddwl mai rywle o'r Balkans yr oeddych yn dod." Tybed a allaswn fod wedi'i gadw'n gyf- rinach heddiw a chymaint o Gymraeg ar y radio ? Ofnaf na fedrwn