Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Elfennol ebe W. Ambrose Bebb thrwyadledd a wnai i Gymru ddylyfu gên o gywilydd. Y delfryd hwnnw a ddylai fod yn ddelfryd i ninnau, ac nid rhyw chwarae plant o ddysgu ar y Gymraeg fel a wnawn ni, a phydru dysgu'r Saesneg. Ail iaith yn y Brifysgol Am y "meddyliau cryfaf" y sonia amdanynt, nid yn yr ysgolion elfennol, ond yn llawer diweddarach, yn y Lycee a'r Brif- ysgol y dysgant yr ail iaith. A dyna oedd holl bwynt fy nadl i. Os eisiau dysgu Saesneg a Ffrangeg sydd arnoch, popeth yn dda. Ond ar un amod o hyd-nad yn yr ysgol elfennol y gwneir hynny, ond yn yr Ysgol Sir a'r Brifysgol. Yno, ac yno'n unig, y mae dysgu'r ieithoedd heblaw iaith y wlad. Rhoddodd Mr. Evans gyfieithwyr y Beibl i Gymraeg yn enghreifftiau o'r meddyliau cryfaf" a fedrodd ddysgu dwy a thair o ieithoedd. Popeth yn dda eto. Ond yn y Brifysgol y dysgasant yr ieithoedd hynny. Ac yno y mae'n ddigon cyfreithlon. Gwel- odd Mr. Evans o'r diwedd, gan mor chwerth- inllyd yw'r peth, nad mewn ysgol elfennol y dysgir Groeg a Lladin. Ond, o safbwynt addysg, y mae'r un mor chwerthinllyd dysgu Saesneg i Gymro uniaith mewn ysgol elfennol â dysgu Groeg a Lladin iddo. Y genedl sy'n bwysig Y bobl sy'n gadael Cymru—fel Mr. Evans ei hun, y mae'n debyg-sydd yn ei boeni ef. A gaf i ddweud wrtho nad y rheini sy'n bwysig i wlad ? Y rhai sy'n wir bwysig ydyw'r rhai sydd yn aros yng Nghymru, sef y mwyafrif mawr, sef, yn wir, corff ac enaid y genedl. Gan y rheini, drwy y rheini, ac er mwyn y rheini, y mae bywyd gwlad, a'i LLAWYSGRIF CEIRIOG A'I LUN Enfyn Mr. Tom Stanley Hamer, arolygydd y swyddfa Lafur, Llanidloes, inni y darlun hwn a roddwyd gan ei ewythr, Mr. John Ceiriog Hughes, i gyfaill. Ar gefn y darlun y mae'r pennill isod, a adgynhyrchwn yn llawysgrifen y bardd ei hun. haddysg, a'i gofal. Ac iddynt hwy, y Gymraeg, a llên Cymru a hanes Cymru, a'r bywyd Cymreig cyfan sydd yn bwysig, ac nid dim arall. Yr un pryd, gofelir am y rhai a edy'r wlad mewn ysgol sir a choleg, lle y dysgir iddynt Saesneg, a'r Gyfraith, a Masnach, a'r holl gyfryw bethau eraill sy'n abl i'w tywys oddi allan i'w gwlad. Digiodd Mr. Evans yn arw iawn wrthyf am imi awgrymu rywsut nad yw enw Syr John Rhvs gwbl mor loyw heddiw ag ydoedd ddeugain mlynedd yn ôl. Paham ? Cym- erai'n hir i egluro. Ond felly y mae-am mai felly y mae. Gofyn imi pam yr oedd Syr John Rhys, 0 bawb, yn gadeirydd Cyni- deithas yr faith Gymraeg. Neu pam yr oedd Hwfa Môn yn Archdderwydd ? Y Gwaredwr yn uniaith A phaham, meddai, y rhoddwyd y sillaf urddasol "—Syr, mae'n debyg — o flaen ei enw ? Mae sawl pam yn bosibl, ond nid enwaf i'r un. Yn gynnil iawn, iawn, mi awgrymaf i Mr. Evans-heb awgrymu mai hyn oedd y rheswm o bell ffordd—mi awgrymaf os gall yntau lwyddo i wneuthur Cymru'n wlad ddwyieithog, hynny yw, yn wlad o Saeson, y hydd yntau'n bur sicr o'r "sillaf urddasol "— Syr Oddi wrth Syr John Rhvs dwg Mr. Evans ni eilwaith at H. M. Stanley, gan ddweud na buasai yntau wedi dringo i fri oni bai am Saesneg. Nid gwiw dweud wrtho y gallasai wasanaethu Cymru yn llawer iawn gwell heb yr iaith honno na chwaith ei atgoffa mai gr uniaith oedd ei Waredwr ef ei hun. Go brin yr eddyf y ffaitb olaf hon, sydd braidd yn atgas ganddo. Gwell ganddo redeg oddi wrth ei Waredwr at Bawl Apostol, a dweud-yr oedd ef yn ddwy- ieithog, beth bynnag, ac ef oedd y llestr etholeclig." Gwir, yr oedd Pawl yn ddwy- ieithog, ac yn llestr etholedig i'r cenhedl- oedd. Nid oes wadu hynny. Ond sylwed Mr. Evans ar hyn mai'r Gwaredwr ei hun- y gŵr uniaith hwnnw—oedd ffynnon a goleuni a bywyd yr holl grefydd a sefydlwyd ganddo. Y Gymraeg yn yr ysgolion elfennol Ar ôl iddo Ef hau'r had yn ei wlad ei hun ar ôl i'r wlad honno gael ei magu a'i meithrin ym mhob dull a modd i fod yn deilwng o'i neges Ef ar ôl gwasanaethu'r genedl honno hyd yr eithaf, a chynnig yr Efengyl iddi ie, ar ôl hyn oíl y cafodd Paw! fod yn Apostol i'r cenhedloedd eraill. Felly, yma eto. yn gyntaf achuber tv Israel. Gyda ninnau— yn gyntaf, achuber Cymru yn gyntaf achuber iaith Cymru yn gyntaf, achuber holl fywyd Cymru. Yna. sonier am ddysgu Saesneg. Mewn geiriau eraill, y Gymraeg yn unig yn yr ysgolion elfennol, ond yn y rhannau Seisnig o Gymru. Nid yw'r gair "cul" yn torri dadl Na thybied Mr. Evans fod defnyddio'r gair i cul yn torri dadl. Nid oes gan y gair hwnnw ryw lawer o golyn i rai pobl. Os cul ydyw gwneuthur eich cenedl yn faes eich bywyd a'ch llafur os cul yw bod yn ffyddlon iddi hi'n gyntaf peth os cul yw gweini ar ddefaid eich porfa a dynion o'r un gwaed ac anianawd â chwi'ch hun ac os cul yw ceisio rhoddi i'ch gwlad amodau byw'n llawn ac yn helaethach—yna cul ydyw nod- wedd werthfawrocaf bywyd yn yr oes hon a phob oes arall. Byddwn gul. Yn olaf, rhaid imi ddiolch i Mr. Evans am estyn imi yn wresog ei law mewn brawdgarwch." a therfynu drwy ddweud wrtho eto y derfydd am yr iaith Gymraeg ac am Gymru y dydd y bydd pob Cymro'n gwybod Saesneg yn llawn cystal a Gymraeg. Oblegid y dydd hwnnw ni bydd eisiau'r Gymraeg arno mwyach. Ni bydd ganddi ddim i'w fynegi na ellir ei fynegi yn Saesneg. Cadw'niwyryf uniaith Ni bydd ganddi gefndir o bobl yn trysori yn eu cof a'u bywyd ddim o'r nodweddion cwbl Gymreig, dim o'r briod-ddull draddod- iadol Gymreig, dim o'r ffynnon loyw o'r lle y tarddodd ac y tardda ein llên, ein traddodiad, ein hanes. Bydd y genedl wedi sychu. Bydd y ffynnon Gymreig wedi mynd yn hesb. Fe dderfydd am ein ho!l odidowgrwydd. Cadw'r ardaloedd Cymreig yn wyryf uniaith, ac ennill ardaloedd eraill atynt, ydyw amod diogelwch yr iaith a'r holl fywyd Cymreig. Cymru Gymraeg uniaith ydyw'r ddelfryd i ymgyrraedd tuag ati, a hynny drwy gyfrwng yr ysgolion elfennol. Gwlad uniaith yw'r unig wlad y mae ei hiaith bob amser yn sicr ac yn ddiogel, yn olau ac yn eglur, a'i bywyd yn gyfan ac yn ddisigl. 'W. AMBROSE BEBB.