Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. WILLIAM GRIFFITHS (GWILYM AP LLEISION) 1863-1925 GAN E. P. JONES, Y TYMBL MEWN ffermdy yng Nghwmgiedd, Ystradgynlais, o'r enw Bryn-y-groes y ganed William Griffiths ar 4 Mai 1863, ac yno y treuliodd ei fywyd. Magwyd ef yng Nghapel Iorath, neu Yorath, capel y Methodistiaid Calfinaidd, a daeth mewn amser yn weinidog amo. Cafodd ei addysg fore yn y 'British School' sydd heddiw yn dai annedd yn Heol Oddfellows. Ymlith y rhai fu yn yr ysgol hon wedi cyfnod William Griffiths, oedd John Walter Jones, prifathro cyntaf Ysgol Sir Ystradgynlais, a hen ddisgybl iddo ef yw'r Athro Dr. Stephen J. Williams, Abertawe. Wedi gadael yr ysgol, aros gartref wnaeth Wm. Griffiths i helpu ei dad ar y fferm. 'Roedd ganddo feddwl mawr o Fryn-y-groes, a bu'r fferm yng ngofal y teulu er 1607. Pan dynnwyd yr hen dy i lawr rai blynyddoedd yn 61, torrwyd dam o drawst i'w gadw, ac arno wedi eu cerfio ceir 'I O S 1607 J L', yn dynodi adeg ei adeiladu a'r preswylydd. Y mae'r dam hwn heddiw ym meddiant ei fab, Mr. Leyshon Griffiths, Rhydaman, a mab i gefnder Wm. Griffiths, John Griffiths, sydd yn byw ym Mryn-y- groes yn awr. Hanai'r Griffisiaid o Forgannwg. Adwaenid hwy fel y 'Leisioniaid' o Fynachlog Nedd. Eglwyswr oedd ei dad, a bu ar un adeg yn rhedwas (courier) i'r offeriad ac yn byw hanner ei amser ar 'gefn ei geffyl'. Nis gwyddom pam, na sut yr aeth Wm. Griffiths at y Methodistiaid, ond yr oedd ei gartref a'r capel yn agos i'w gilydd a daethant yn brif ddiddordebau iddo. Bryn-y-groes a Chapel Yorath oedd ei fyd-ffermio'r naill a bugeilio'r llall. Ymhen rhai blynyddoedd, rhoddodd ei fryd ar y Weinidogaeth. Hyd yn hyn, nid oedd wedi cael addysg ond yr addysg elfennol y cyfeiriwyd ati eisioes. Aeth i ysgol ragbaratoawl Coleg Arnold, ac oddiyno i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, am flwyddyn. Ni fu mewn coleg diwinyddol yn 61 pob hanes. Croniclir ar ei garreg fedd iddo fod yn weinidog Capel Yorath o 1891 hyd 1925, blwyddyn ei farw. Ond ar y tabled yng nghyntedd y capel, sylwir mai o 1893 hyd 1925 y bu yn gweinidogaethu yno. Yr esboniad tebygol ar y gwahaniaeth yma o ddwy flynedd yw, ei fod yn gofalu am y praidd yno cyn ei ordeinio. Gweithiodd yn egniol yn yr eglwys a thu allan iddi drwy ei oes. Y fferm a'r capel oedd ei fywoliaeth. Ychydig o gyflog gafodd fel gweinidog; dibynnai'n bennaf ar ffermio.