Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwelir fod fy amcangyfrif yn cynnwys mwy na 2,500 o Ogledd Cymru nag o Dde Cymru a Sir Fynwy efo'i gilydd. Yr unig gyfnod yr oedd y De a Mynwy yn uwch na'r Gogledd oedd rhyng 1831 a 1840, sef 1,334 yn fwy. Rhwng Cymru gyfan, yr oedd yr ymfudo fel a ganlyn 1794 1801 1,349 I802 — I8I6 I38 I8I7 — I8I6 I,09I I,09I I82I — I830 I,825 35,6I8 1831 — 1840 6,664 1841 — 1850 12,663 1851 — 1860 11,888 Diddorol yw cymharu Sir Aberteifi a Sir Frycheiniog. Rhown gyfrif y ddwy Sir yn gyfochrog Sir Aberteifi Sir Frycheiniog 1794 — 1801 73 23 1802 — 1816 1 10 1817 — 1820 202 25 1821 — 1830 II3 5,556 49 1,114 1831 — 1840 1,835 307 1841 — 1830 2,266 284 185 i860 1,065 416 Diamau y rheswm dros i'r ymfudo fod yn llai o Dde Cymru nag o'r Gogledd yw bod y diwydiannau glo, haearn a thoddi yn llyncu'r boblogaeth yn bur llwyr, ac yr oedd prysurdeb mawr yn y De ynglyn a chamlesydd, rheilffyrdd, a ffyrdd i gludo nwyddau. 0 rannau amaethyddol y Gogledd a Sir Aberteifi yr aeth y mwyafrif llethol o'r ymfudwyr i'r U.D.A. Ar 61 1841 y dechreuodd diwydiannwyr llechi a mwn ymfudo o Ogledd Cymru. Cymerais yn fy mhen i fras ddosbarthu ymfudwyr Sir Frycheiniog o wahanol ardaloedd a threfi. Nid wyf yn gwarantu eu bod yn hollol