Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A'i waniad yn tywynnu Yn neidr dan i'r dyfnder du. Gwyllt hiraeth y pellterau Ieuanc fyd heb wae na chwyn Sanctaidd oes Ieuenctid A'r garan ar y goror, Draw ymhell, drist fedwy'r mor. Bwlch ni ddangosai lie bu. Troes gemliw wawl tros Gamlan, Eurai fo drueni'r fan, Onid teg, yr ennyd hon, Drem oer y cedwyr meirwon. 'Does dim esbonio ar gyfrinach geiriau fel yna, ar y gafael sydd ganddyn-nhw arnom ni, na dim sy'n fuddiol i'w ddweud amdanyn- nhw, dim ond diolch am eu bod, a'u derbyn nhw i'w trysori yn y cof, yno i weithredu eu rhin ynom. A chydnabod dawn y meistr. Ac os oes yna rywfaint o'r bardd ynom ni, deisyfu ymdrechu'r un modd ag yntau. Bedwyr, yn drist a distaw, At y drin aeth eto draw.