Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma antur gwbl newydd yn Gymraeg, ac y mae'n bleser mawr i mi, fel Is-Ganghellor y Brifysgol a hefyd fel Cadeirydd Bwrdd y Wasg, roi croeso calonnog iddi. Dr. Llywelyn Chambers a awgrymodd gyntaf y dylai fod cylchgrawn Cymraeg i drafod pynciau gwyddonol. Cafodd ef gefnogaeth ei Goleg ym Mangor, a phasiwyd yr awgrym i Fwrdd Gwasg y Brifysgol. Yng Ngorffennaf 1962 fe gyfarfu wyth o wyddonwyr o Gymry, dau o bob un o Golegau'r Brifysgol, i drafod y posibilrwydd o gychwyn cylchgrawn gwyddonol yn Gymraeg. Wedi trafodaeth ystyriol penderfynwyd gyda brwdfrydedd argymell i Fwrdd y Wasg gyhoeddi cylchgrawn felly. Yr oedd pawb yn teimlo fod angen cyhoeddiad a fyddai'n boblogaidd, yn yr ystyr o fod yn ddarllenadwy ac o ddiddordeb i Gymry deallus, a hefyd ar yr un pryd yn gwbl safonol ac yn trafod datblygiadau gwyddonol diweddar. Penderfynodd Bwrdd y Wasg weithredu yn unol ag awgrym y gwyddonwyr, a phenodwyd Dr. Glyn O. Phillips yn Olygydd. Penderfynwyd hefyd gyhoeddi'r cylchgrawn bob chwarter. Fe ddywedwyd gannoedd o weithiau ein bod yn byw mewn oes wyddonol, a bod gwyddoniaeth, yn ei hamryfal agweddau, yn cyffwrdd â bywyd pawb ohonom. Ni allwn oll fod yn wyddonwyr, ac fe fyddai'n ddiflas iawn pe baem, ond fe ddylai fod gennym ddigon o chwilfrydedd ynghylch y byd o'n cwmpas i fynnu cael gwybod beth sy'n mynd ymlaen ymysg y nifer cynyddol o'n cyd-ddynion sy'n cael eu galw'n wyddonwyr. A 'does dim amheuaeth nad ydynt yn gwneud pethau diddorol dros ben. Ymgais i ddiwallu'r chwilfrydedd hwn yw Y GWYDDONYDD, a chyfrwng hefyd, fe obeithir, i feithrin mwy o chwilfrydedd felly ymysg y Cymry sy'n darllen Cymraeg. Gyflwyniad gan YR IS-GANGHELLOR, DR. THOMAS PARRY