Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dilyn Achau Gwenith HUGH REES O WENITH, fel y gwyr pawb, y daw ein bara beunydd- iol. Hollol naturiol felly yw bod diddordeb mawr yn y planhigyn hwn, sydd mor bwysig i'n bywydau ni ac i fywydau miliynau o bobl y byd; yn arbennig, mae diddordeb mewn dilyn ei achau. Ceidw'r di- ddordeb hwn ymchwilwyr yn brysur ym Mhrydain, yn yr Amerig, ac mewn llawer gwlad arall. Pa fath o blanhigyn yw gwenith ? Pa wybodaeth sydd am ei hanes ac am ei hynafiaid? Sylwn i ddechrau fod dau fath o wenith yn bwysig mewn amaethyddiaeth heddiw. Enw gwydd- onol y cyntaf yw Triticum aestivum, a hwn a ddefnyddir yn gyffredinol, yma ac yn y rhan fwyaf o'r byd, i wneud bara. Defnyddir y llall yn yr Eidal a rhai gwledydd eraill i gynhyrchu pasta yr Eidal, sef sylfaen y tylwyth amrywiol o fwydydd megis macaroni, vermicelli, a spaghetti. Enw hwn yw Triticum durum. Mae gwahaniaethau nodweddiadol yn eu golwg allanol ac yn eu tyfiant, fel y dengys y llun a a b. Y cromosomau Eithr nid yw'r gwahaniaethau allanol hyn ond cysgod o wahaniaethau eraill mwy sylfaenol. O chwilio cyfansoddiad mewnol celloedd unigol y ddau blanhigyn o dan y meicrosgop, gellir cyfrif y bodau a elwir yn gromosomau oddi mewn i'r gell. Credir mai yn y cromosomau hyn y mae dirgelion etifeddeg, a gwelir hwy yn y meicrosgop fel ffyn byrion cadwynog. Yn y rhywogaeth gyntaf a enwyd, sef gwenith bara, mae ym mhob cell o bob planhigyn 42 o gromosomau, tra nad oes yn yr ail, sef gwenith macaroni, ond 28. Gan mai'r cromosomau hyn, mewn planhigion ac anifeiliaid fel ei gilydd, sydd yn rheoli tyfiant ac etifeddiant, nid yw'n syndod bod gwahaniaethau fel hyn yn eu rhif. (a) Triticum durum (b) Triticum aestivum Gofynnwn yn awr sut y gall y ffeithiau hyn ynglýn â rhif y cromosomau daflu goleuni ar achau gwenith? Cawn weld y gellir darganfod ynddynt awgrymiadau o gryn bwys. I ddechrau, mae'n sicr bod gwenith, fel pob planhigyn amaethyddol, wedi datblygu o blanhigion gwyllt. Mae'r gwenithau