Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portread Syr Oliver Graham Sutton, C.B.E., D.Sc., LL.D., F.R.S. UN o'r PETHAU a bair gryn ddifyrrwch i lawer o ymwelwyr â Phrydain yw ein hoffter o'r tywydd fel testun sgwrs. Onibai am y tywydd, byddai'r egni a dreulir mewn siarad ym Mhrydain gryn dipyn yn llai, a heb y testun hwn, digon tebyg y byddai golwg wahanol ar gymdeithas yn yr ynysoedd hyn. Yng Nghymru wledig gynt, dibynnai llwyddiant a chysur yr amaethwr i raddau helaeth ar ei allu i broffwydo'r tywydd, ac ymhob cymdeithas wledig ceid, a cheir hyd heddiw, nid yn unig y dyn â'r ddawn i ddehongli symudiadau'r glass, yn enwedig wedi ei guro'n ysgafn a migwrn bys, ond y sylwedydd craff a ddeallai 'arwyddion' y tywydd. Pwy, a fagwyd yn y wlad, na ŵyr am gochi i fyny, cochi i lawr, dail yn troi, gwartheg yn gorwedd, a doethinebau fel 'pan gollir y glaw, o'r gogledd y daw' ? Eithr heddiw, i wlad a thref, daeth proffwyd newydd i drafod 'rhagolygon y tywydd' amryw weithiau bob dydd, yn llefaru i ddechrau, ac yn ddiweddarach yn rhith-ymddangos, gyda'i fapiau a'i linellau gwasgedd a'i gylchoedd 'uchel' ac 'isel', ac efallai mai cynysgaeth i'r canol-oed bellach yw gallu clywed swn glaw yn y gwynt, a ddynodir gan saethau ar y mapiau hyn. Nid anodd yw tybio bod, mewn rhyw ganolfan ddirgel, wr holl-wybodol a all addo, yn bur sicr fel rheol, oriau neu ddyddiau ymlaen llaw, heulwen neu ddrycin i ardaloedd nas gwelodd erioed. Pennaeth Swyddfa Feteoroleg Mewn byd sydd, hyd yn hyn, yn gorfod bodloni ar y posibl, y gwr a ddaw agosaf at y dyb ogleisiol hon yw Syr Graham Sutton, sef pennaeth Swyddfa'r Tywydd, neu'r Swyddfa Feteoroleg, un o adrannau'r Llywodraeth sydd wedi ymsefydlu'n ddiweddar mewn cartref newydd yn Bracknell, yn nhawelwch gwledig Berkshire. O'r swyddfa hon y daw'r wybodaeth am y tywydd a geir gan y BBC a chan y papurau dyddiol. Gwyr pawb am gynnyrch y Swyddfa, ond ychydig a wyr am y Swyddfa ei hun, nac am ei phennaeth, sydd fel llawer gwr nodedig arall a'i waith yn cyffwrdd yn agos â bywyd beunyddiol ei gyd-ddynion, ac eto'n ddieithr iddynt. Yng Nghwmbrân, Sir Fynwy, y ganwyd Syr Graham, ar y pedwerydd o Chwefror 1903, yn fab i Oliver Sutton, prifathro'r ysgol gynradd, a'i briod Rachel, Rhydderch gynt. Cymraes Gymraeg oedd Mrs. Sutton, ac er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, gwelir effaith y traddodiad Cymraeg yn y ffaith mai i Goleg Aberystwyth yr aeth y pedwar plentyn, tri brawd a chwaer. Yn 1920 yr aeth Graham i Aberystwyth, gyda'r ysgoloriaeth uchaf y gallai'r Coleg ei chynnig iddo, a graddiodd yn 1923 gydag anrhydedd yn y dosbarth uchaf mewn mathemateg bur. Yn Aberystwyth daeth o dan ddylanwad yr Athro W. H. Young, gwr tra hynod a benodasid yn athro mathemateg bur yn 1920. Nid pawb o'i ddisgyblion na'i gyd-athrawon a allai ddygymod â Young, ond nid oes ddadl