Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DILYN STORMYDD GYDA RADAR Ym mis Medi 1961 rhwygwyd Talaith Mexico gan un o'r corwyntoedd mwyaf nerthol a wynebodd yr Unol Daleithiau erioed. Trwy gymorth y dyfeis- iadau gwyddonol diweddaraf i ddilyn stormydd, rhybuddiwyd trigolion y dalaith ymlaen llaw. O ganlyniad llwyddodd 500,000 o bobl i gyrraedd diogelwch a chollwyd llai na 25; mae hyn yn ffaith arwyddocaol iawn pan ystyrir i 6,000 gael eu lladd gan gorwynt llai nerthol ym 1960. Ymhlith y dyfeisiadau a ddefnyddiwyd, yr un mwyaf diweddar oedd Tiros III, y lloeren Americanaidd sydd yn cario camera a all anfon lluniau o'r corwynt i'r ddaear o bellter o 400 milltir yn y gwagle. Y mae'r llwyddiant hwn o ragweld dyfodiad y corwynt Adargraffwyd y darlun o Science Horizons, drwy garedigrwydd Swyddfa Cyhoeddusrwydd yr Unol Daleithiau 'Carla' yn awgrymumaitrwyddefnyddiolloerennau tebyg y gellir datblygu dulliau o ragfynegi tywydd dros y byd i gyd, ac yn y modd yma rwystro llawer o effeithiau trychinebus stormydd. Y mae'r llun yn dangos yr hyn a welir ar radarsgop pan fydd y corwynt yn datblygu- sylwch fel y mae cymylau'r corwynt yn ffurfio trobwll. Bellach y mae gorsafoedd ar hyd arfordir gorllewinol America, o Fae Mexico hyd at Canada, sydd yn medru derbyn darluniau tebyg i hyn. Gan fod 'llygad' pob offeryn radar yn ymestyn rhyw 250 o filltiroedd, a'u bod wedi eu gosod fel bod un orsaf yn cymryd drosodd pan fo'r llall yn dechrau methu, y mae'n bosibl cael rhybudd cynnar o ddyfodiad storm ym mhob rhan o'r Unol Daleithiau.