Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drefnol am y tro cyntaf yng Nghymru. Oherwydd mai rheswm hanesyddol yw hwn rhaid crynhoi yn fyr ddatblygiad daeareg fel disgyblaeth wyddonol. Oddi ar ei flynyddoedd cyntaf ar wyneb y ddaear, cymerodd dyn ddiddordeb mawr mewn creigiau, mwynau, a ffosiliaid. Y prif resymau, mae'n debyg, yw eu defnyddioldeb, eu prydferthwch, eu gwerth ariannol, a ffurfiau hynod y ffosiliaid. Er i'r mwyn- wyr ar chwarelwyr ddysgu llawer am y creigiau yn y pwll neu'r chwarel, y naturiaethwyr a ddechreu- odd feddwl am ryfeddodau'r creigiau. Daethant i sylweddoli fod creigiau wedi eu gosod yn drefnus o dan y ddaear ar waethaf y diffyg trefn sydd yn eu hymddangosiad ar wyneb y tir. Cymro o'r enw George Owen oedd y cyntaf i ddarganfod y ffaith bwysig hon. Dangoswyd fod rhai creigiau mewn haenau ond eraill heb fod felly, a deallwyd fod y ddau ddosbarth yn hollol wahanol o ran eu cyfansoddiad; y mae'r creigiau haenol, fel y tywod- feini ar haenau glo, yn debyg eu golwg i waddod ar waelod y môr wedi ei wasgu'n galed, ac yn aml iawn yn cynnwys gweddillion anifeiliaid a phlanhig- ion, tra fo'r creigiau anhaenol fel gwenithfaen a basalt wedi eu gwneud yn gyfan gwbl o risialau. Deallwyd hefyd fod llawer o'r mwynau wedi eu ffurfio mewn gwythiennau sydd yn torri ar draws y cerrig haenol, ac felly yn hollol wahanol i'r gwyth- iennau glo sydd yn cydorwedd â'i gilydd yn drefnus. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd mynd mawr ar gasglu creigiau, mwynau a ffosiliaid, a thrafodaethau brwd ynglyn â'u tarddiad, ac yn y blynyddoedd hyn dyfalwyd yn wyllt. Credodd un daearegwr byd-enwog fod creigiau grisial, fel lafa, wedi eu gwaelodi mewn môr cyntefig ac felly wedi eu ffurfio gan ddeddf natur nad yw mewn bod heddiw. Credodd eraill mae canlyniadau'r Dilyw oedd y ffosiliaid, ac eraill mai triciau natur oeddynt, heb fod iddynt unrhyw gysylltiad â bywyd. Ond ym mlynyddoedd diwethaf y ganrif gosodwyd yr astud- iaeth ar sylfaen wyddonol, a hynny i raddau helaeth iawn drwy ymdrechion un dyn, James Hutton, mathemategydd a meddyg o'r Alban. Dechreuodd Hutton drwy dynnu sylw at y ffaith fod tonnau'r môr yn ffurfio'r tywod ar y traethau drwy falurio'r clogwyni; fod gwaddod yn ymgasglu ar waelod y môr am fod glawogydd trymion yn rhyddhau Ilawer o bridd y ddaear, o'r mynyddoedd a'r llechweddau, ac yn golchi hwnnw yn llifbridd i'r afonydd, a'r afonydd yn ei gario i'r môr; fod llawer iawn o'r anifeiliaid bach sydd yn byw yn y môr yn adeiladu cregyn amdanynt eu hunain, a'r gragen yn cael ei chladdu yn y tywod pan fydd yr anifail yn marw. Felly, oherwydd fod y creigiau haenol yn debyg iawn i waddod neu i dywod wedi ei wasgu yn galed, ac am fod y ffosiliaid sydd yn y creigiau yn debyg iawn i gregyn, rhesymodd Hutton fod y creigiau wedi eu ffurfio yn union yn yr un modd: aeth y gwaddod i waelod y môr a'i wasgu yn galed i wneud craig. Yn ôl Hutton, felly, mae yr hyn a welwn ni heddiw ar wyneb y byd yn ddigon Vn galluogi ni i amgyffred sut y jfurfiwyd y creigiau haenol a'r, ffosiliaid sydd ynddynt. Y mae'r presennol yn allwedd i'r gorffennol. Honnai Hutton mai yr un cyflwr oedd i ffurfiad y cerrig anhaenol crisialaidd, fel y gwyrddfaen a'r gwenithfaen, ag sydd i'r lafa sydd yn llifo allan yn garreg doddedig o losg- fynyddoedd y byd heddiw. Ffurfiwyd y lafa mewn amgylchfyd o wres aruthrol, a gwasgfa fawr yng nghrombil y ddaear, a'i wthio i fyny gan gyffroadau mewnol y ddaear nes torri cramen y ddaear. Pan edrychir ar haenau o graig fel hyn, y maent megis tudalennau mewn llyfr, yn cynnwys hanes datblygiad y ddaear. Yn yr un modd y mae'r creigiau anhaenol yn cynnwys hanes datblygiad crombil y ddaear. Trefn y creigiau Gorchwyl cyntaf yr hanesydd daearegol yw sefydlu trefn briodol yr haenau er mwyn sefydlu amseryddiaeth eu ffurfio. Cymerwyd y cam pwysig cyntaf yn nechrau'r ganrif ddiwethaf gan beirian- nydd o'r enw William Smith. Dangosodd ef fod haenau cerrig Lloegr a Chymru yn gogwyddo i'r tir tua'r de-ddwyrain ac felly fod yr haenau uchaf, sef y rhai ieuangaf, yn brigo yn ardal Llundain, a'r haenau isaf a hynaf yn dod i'r wyneb yng nghanol- dir a gogledd Cymru. Ar yr un pryd darganfu un o egwyddorion pwysicaf daeareg, sef bod y ffosiliaid yn wahanol ym mhob haen. Yr egwyddor hon oedd sylfaen gwaith Darwin, ac y mae yn angenrheidiol yn y gwaith o gyfartalu yr haenau mewn gwahanol ardaloedd. Defnyddiodd William Smith enwau cyfarwydd chwarelwyr Lloegr ar y gwahanol haenau-geiriau diddorol fel Coral Rag, Cornbrash, Clunch, a Lias, ond oherwydd fod gwaith cyffelyb yn mynd ymlaen ar gyfandir Ewrob ar yr un pryd, penderfynwyd defnyddio yr enwau a welir yn y tabl, ar y casgliadau o haenau, sef y ffurfiadau (formations) a'r cynull- iadau (systems). Oherwydd mai hanes yw testun llyfr y creigiau, dewiswyd geiriau fel Primary (Cyntaf), a Secondary (Eilradd), yn enwau i'r casgliadau o gynulliadau, ac oherwydd fod y llyfr