Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sefydliadau Diwydiannol Enwog I. Gwaith Dur Spencer, Llan-wern Pan agorodd y Frenhines waith dur Spencer ym mis Hydref 1963 sicrhaodd y byddai Cymru yn parhau am genhedlaeth eto yn flaenllaw ymhlith y gwledydd-cynhyrchu-dur pwysicaf yn y byd. Tair blynedd yn unig a gymerwyd i adeiladu un o'r gweithfeydd dur mwyaf yn Ewrob. Y mae yn waith cyflawn, hynny yw, y mae yr holl adnoddau yno i drin y defnyddiau angenrheidiol i wneud dur (glo, mwyn haearn a chalch., ac i'w cyfnewid yn stribedau dur. Y mae'r rhain wedyn yn addas i'w defnyddio i wneud ceir, cybyrddau iâ, peiriannau golchi, dodrefn dur ac amrywiaeth eang o gynhyrchion sy'n gofyn am ddur o ansawdd dda. Pan fydd y gwaith wrth ei lawn brysurdeb, cyn- hyrchir 1 -3 miliwn o dunelli o haearn a 1 -4 miliwn o dunelli o ddur y flwyddyn. Yn sgîl y proses ceir nifer o is-gynhyrchion pwysig, sef bensol (22 miliwn o alwyni), sulffat amonia (9,000 o dunelli), a thar (35,000 tunnell). Pam yr adeiladwyd y gwaith? Y mae cwmni Richard, Thomas a Baldwin ar hyd y blynyddoedd wedi arloesi dulliau newydd o gynhyrchu stribedau dur. Yn wir, hwy a ddatblygodd y proses cyntaf o gynhyrchu stribedau trwy rowlio'r dur tra pery'n boeth. Yn wyneb y gystadleuaeth o Japan ac o'r cyfandir rhaid cynhyrchu dur heddiw mor rhad ag sydd bosibl, ac aethpwyd ati yn Llan-wern i leihau costau trwy ddefnyddio awtomatiaeth ar raddfa na welwyd erioed mo'i thebyg yn y wlad hon. Nid dynion a fydd yn gofalu bod holl adrannau'r gwaith enfawr yma yn gweithredu fel y dylent. Yn hytrach, y goruchwylwyr fydd y cyfrifwyr electronig enfawr a sefydlwyd yma. Rheola'r rhain y ffwrneisi golosg, y ffwrneisi blast, a'r felin rowlio sydd, yn Llan-wern, yn fwy nag unrhyw ddwy felin strip-dur arall yn y wlad. Synnais fod hyd yn oed y wagenni sy'n rhedeg ar y rhwydwaith o reilffyrdd trwy wahanol rannau'r gwaith yn cael eu rheoli yn awtomatig gan y cyfrifwyr ac ni fydd angen i ddwylo dyn eu cyffwrdd. Yn yr un modd bydd holl archebion y cwsmeriaid yn cael eu trin gan y cyfrifydd. Bydd pob addewid am gwblhau archeb i ddyddiad arbennig, felly, yn cael ei chadw- neu o leiaf dyna'r bwriad ar hyn o bryd Cynhyrchu'r dur Sylfaen unrhyw broses i gynhyrchu dur yw yn gyntaf gymysgu'r defnyddiau crai-mwyn haearn, calch, golosg a dwr. Y mae'r ffwrneisi lle y cynhyrchir y golosg yn rhyddhau y nwy, a defnyddir hwn wedyn fel tanwydd i gynhesu'r gwaith. Yn ogystal, cesglir yr is-gynhyrchion pwysig y soniwyd amdanynt eisoes. Llosgir y golosg gyda'r mwyn a'r calch yn y ffwmeisi blast sy'n gweithio mewn tymheredd o 2,000 gradd C. Oherwydd y gwres aruthrol ceir adweithiau cemegol sy'n gwneud i'r gymysgedd doddi gan gynhyrchu'r haearn a ddisgyn i waelod y ffwrnais. Erys y slag ar yr wyneb. Pob rhyw bedair awr arllwysir yr haearn toddedig allan o waelod y ffwrnais a'i gludo ar y rheilffordd i'w storio mewn tymheredd arbennig cyn mynd ymlaen gyda'r proses o wneud dur ohono. Yng ngwaith Spencer cynhyrchir y dur drwy chwythu ocsigen drwy geg y cyfnewidydd sy'n cynnwys yr haearn poeth, a thrwy ychwanegu calch, ffluorspar ac ocsid nifer o fetelau, ceir y dur o'r nodwedd angenrheidiol. Y mae'r tymheredd erbyn hyn yn 1,600 gradd C. Golygfa fyth-gofiadwy wedyn yw gweld y llafnau dur yn cael eu rhowlio, a 37 o filltiroedd yr awr o'r stribedau yn gadael y felin i'w gwneud yn dorchau.