Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYR GEORGE STAPLEDON, F.R.S. Darlun gan Alan Gwynne Jones, a gyflwynwyd i'r Fridfa Blanhigion Gymreig yn 1946 gan yr Arglwydd Milford Cyfarwyddwr cyntaf y Fridfa Blanhigion Gymreig Y mae cofiant newydd Robert Waller i Syr George Stapledon* yn cyfleu inni'r ymdeimlad o egni a'r brwdfrydedd a nodweddai flynyddoedd cynnar y Fridfa. Er mai Sais di-Gymraeg a apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr cyntaf yn Ebrill 1919, y mae'n amheus iawn a fyddai Cymro wedi datblygu'r Fridfa ar linellau mor hollol Gymreig a Chymraeg. Rhoddodd ei ffydd yn gyfan gwbl mewn Cymry am y credai mai hwy a fyddai debycaf o lwyddo yn eu cynefin. Cafwyd enghraifft glir o hyn yn 1920 pan ddaeth yr amser i apwyntio prif aelodau'r staff. Awgrymodd y Weinyddiaeth yn Llundain y dylent apwyntio gwr a oedd yn fyd-enwog ym maes geneteg planhigion. Ond ni chytunodd Syr George. Ei resymau­-ni wyddai'r dyn yma ddim am las- wellt, am Gymru na'i phobl. Apwyntiwyd T. J. Jenkin ac arbedwyd San Steffan rhag camgymeriad trychinebus. Fel y sylwa awdur y llyfr, ymddengys i Syr George ddod yn fwy Cymreig na'r Cymry! Byddai'n dda pe bai gan benaethiaid ein sefydliadau cenedl- aethol heddiw hanner cymaint o ffydd yng ngallu Cymry. Yr oedd Syr George Stapledon yn gynrychiolydd oes a gredai y gallai gwyddoniaeth greu nefoedd ar y ddaear, ond a siomwyd gan y datblygiadau. Ar hyd ei oes ni chollodd y weledigaeth gyntaf o gyfeirio ei waith i wasanaethu cymdeithas. Y mae'n deyrnged uchel i gymeriad ac ymroddiad ei gyd- weithwyr yn Aberystwyth mai yno y treuliodd Syr George ei flynyddoedd hapusaf. Prophet of the New Age: The Life and Thought of Sir George Stapledon, F.R.S. (Faber, 36s.).