Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Ym mhob rhifyn o'r GWYDDONYDD bydd adran yn cael ei neilltuo i bwyso a mesur llyfrau newydd. Yn y rhifyn hwn canolbwyntiwn ar lyfrau i blant, a'r llyfrau newydd sy'n ymwneud â seryddiaeth a'r ymdrechion i goncro'r gwagle. LLYFRAU PLANT Y mae diddordeb yr ifanc mewn gwyddoniaeth yn amlwg. Fe ofyn y plentyn tair neu bedair oed, 'Pam mae'r awyr yn las?' neu 'Pam mae'r glaw yn syrthio?' Eto'n ddiweddarach cymerwn weith- rediadau ein set deledu neu'r teleffon yn gwbl ganiataol. Mae'n amlwg ein bod yn colli'r chwilfrydedd rywle rhwng tair a phymtheg oed. Gellir maddau i fam dau neu dri o blant, sy'n cael ei mwydro â chwestiynau, am beidio â'u hateb o ddifrif. Ond gwae y tad sy'n esgeuluso'i blant trwy beidio â chymeradwyo'r llenyddiaeth briodol iddynt a fydd yn digoni eu diddordeb. Pa mor ifanc y gellir, mewn gwirionedd, roddi atebion gwyddonol i blant? O weld y llyfrau a gyhoeddir, gorau po gyntaf, mae'n amlwg. Cymerwch y dosbarth 4-8 oed, er enghraifft. Y mae llyfrau cyfres Lefsfind out, a gyhoeddir gan Black, yn ddechrau da iawn. Cymeradwyaf The Moon Seems to Change gan F. M. Branley ac A Tree is a Plant gan C. R. Bulla (y ddau yn 10s. 6ch.). Nid ydynt yn ceisio egluro yn gymaint â chyflwyno ffeithiau diddorol yn y modd mwyaf deniadol. Fel y bydd y plant yn symud ymlaen a'u deall yn datblygu, y mae'n holl bwysig fod y wybodaeth a gyflwynir yn gwbl gywir. Nid gwiw siarad i lawr â phlant. Y mae Exp/oring Science gan J. N. Leonard (Odhams, 21s.) yn siarad â phlant ar eu lefel hwy heb fod yn nawddogol. Dyma'r math mwyaf darllenadwy o lenyddiaeth wyddonol sy'n edrych ar y byd o'n cwmpas a sôn am wyr enwog gwyddoniaeth. Llyfrau eraill y gellir eu cymeradwyo oherwydd eu pwyslais ar ddisgrifio yn hytrach na dehongli yw Stars gan Hal Goodwin (Dobson 10s. 6ch.), Thunderstorms gan T. H. Bell (Dobson, 12s. 6ch.) a From Coracles to Cunarders gan L. E. Snellgrove (Longmans, 9s. 6ch.). Ym mhob un o'r llyfrau hyn dechreua'r awdur o fan sy'n gyfarwydd i'r plant a datblyga'n raddol i stori newydd. Cawn hefyd, wrth gwrs, y plentyn chwilfrydig. Rhaid i hwn gael mynd at berfeddion pethau a gweld sut y maent yn gweithio. Nid oes prinder llyfrau i'w gyfarwyddo ar hyd y llwybr creadigol yma. Y mae How Things Work gan Martin Mann (Butterworths, 10s. 6ch.) a Let's Find Out gan J. P. Harvey (Evans, 15s.) yn egluro amrywiaeth o wrthrychau cyfarwydd fel y teleffon, y cwpwrdd iâ, y teledydd, etc., ac yn ateb cwestiynau fel 'Pam nad yw llong yn suddo?' neu 'Sut y bydd y camera yn tynnu llun?' Swyddogaeth bwysig arall y mathau hyn o lyfrau yw eu bod yn rhoi ystyr i'r pentwr o ffeithiau technegol, dwl 0 bosibl, sydd yn rhaid eu dysgu mewn gwyddoniaeth elfennol yn yr ysgol. 'R wy'n siwr na allai'r un gwyddonydd ifanc lai na chael ei ysbrydoli gan hanes enillwyr gwobrau Nobel fel y ceir yn y llyfr The Young Physicisfs Companion gan M. Goldsmith (Souvenir, 18s.). SERYDDIAETH A THEITHIO'R GWAGLE Y mae ffasiynau yn newid lawn mor gyflym mewn gwyddoniaeth ag mewn dilladau merched. Am bymtheg mlynedd wedi'r rhyfel, ynni atomig a fflachiodd ddychymyg y cyhoedd, ond yn raddol fe'i gwthiwyd i'r cysgod gan ymchwiliadau'r gwagle. Yn sgîl y gweithgareddau hyn enynnwyd mwy o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd mewn seryddiaeth. Pwysleisir hyn gan nifer y llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y pynciau hyn, mwy yn sicr nag mewn unrhyw adran arall 0 wyddoniaeth. Am y rheswn hwn, bwriwn olwg yn ein rhifyn cyntaf dros rai o'r llyfrau hyn. I Gymru 'r oedd cyhoeddi Darlithiau Gregynog a draddodwyd gan Syr Bernard Lovell yn Aber- ystwyth yn achlysur pwysig. (The Exploration of Outer Space, Oxford, 16s.). Mewn arddull glir iawn disgrifia ffrwyth ei ymdrechion i astudio'r bydysawd gyda thelesgop radio Jodrell Bank. Fel y pwysleisiodd, un o agweddau mwyaf rhamantus y gwaith hwn yw posibilrwydd ateb, yn y dyfodol agos, gwestiwn y bu diwinyddion yn ogystal â gwyddonwyr yn dadlau yn ei gylch, sef, a grewyd y bydysawd mewn un weithred yntau a yw'r cread wedi bod yn ei ffurf bresennol er cychwyn amser, ac y bydd felly i dragwyddoldeb. Fel yr edrycha seryddwr gyda'i offerynnau diwedd- araf i'r gwagle, mewn gwirionedd edrych yn ôl mewn amser y mae, gan fod goleuni'r sêr a'r negeseuau radio a ddaw o alaethau tu hwnt i olwg telesgop wedi bod ar eu ffordd tuag at y ddaear