Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynlluniau Trawsfynydd a Thanygrisiau YN YSTOD 1963 fe welir rhan o atomfa enwog Trawsfynydd yn cychwyn ar y gwaith o gynhyrchu trydan. Rhoddir y tanwydd wraniwm yn yr ad- weithydd a'i ddwyn i gyflwr argyfyngol fel y bydd adwaith cadwynol yn mynd rhagddo yn araf ac o dan reolaeth. Ymhollta'r atomau wraniwm gan ryddhau gwres a ddefnyddir i godi ager i wneud trydan. Yr un cynllun sylfaenol sydd i bob atomfa, sef, rhyw ffurf ar danwydd, rhywbeth i'w gynnwys, rhywbeth i arafu a rheoli'r adwaith cadwynol rhag Argraff arlunydd o Orsaf Niwcliar Trawsfynydd EIRWEN GWYNN i'r holl beth fynd ar dân, a chynllun i drosglwyddo'r gwres i'r rhan o'r pwerdy sy'n codi ager i droi tyrbein i wneud trydan. Cael ager o dan bwysedd i droi tyrbein yw'r amcan fel yn y pwerdai con- fensiynol sy'n llosgi glo neu olew. Er bod y syniad canolog yr un fath ym mhob atomfa, mae amrywiaeth mawr ohonynt yn bosibl. Fe arbrofir ym Mhrydain gyda sawl math o atomfa ond i'r pwrpas ymarferol o gynhyrchu trydan, rhai a elwir yn Magnox yn unig a godir ar hyn o bryd.