Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau o'r Colegau ABERTAWE Coleg ar ei brifiant ydyw hwn: mae yma eleni 1,871 o fyfyrwyr, chwe chant yng nghyfadran y Celfyddydau, chwe chant a hanner yng nghyfadran Gwydd- oniaeth Bur, a phedwar cant yng nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwys- edig. Ymhen pum mlynedd eto disgwylir y bydd mil o fyfyrwyr ym mhob un o'r tair cyfadran. Sefydlwyd y coleg ym 1920, mewn adeiladau-dros-dro o gwmpas yr Abaty ym Mharc Singleton, ac yn yr wyth mlynedd diwethaf yn unig y gwelwyd yr adeiladau parhaol cyntaf yn cael eu codi. Eisoes cwblhawyd adeilad y Gwydd- orau Naturiol (Bywydeg, Llysieueg, Daeareg, a Daearyddiaeth) ynghyd â'r gerddi llysieuol, yr adran Gemegol, dwy neuadd breswyl a'r Canolfan Cym- deithasol. Tynnu at ei derfyn y mae'r gwaith ar adeilad y Celfyddydau ac ar ymestyniad y Llyfrgell. Fis neu ddau yn ôl dechreuwyd ar sylfeini adeilad y Gwyddorau Cymwys- edig. Yma y bydd traean myfyrwyr a staff y coleg yn cartrefu, yr adrannau Peirianneg Sifil, Mecanyddol a Thryd- anol, adran Meteleg ac adran Peirianneg Gemegol. Hwn fydd adeilad mwyaf y coleg a chymer dros dair blynedd i'w gwblhau. Lleolir y peiriannau trymion mewn labordai a gweithfeydd ar y llawr, labordai ysgafnach ac ystafelloedd ym- chwil y staff mewn twr ag iddo wyth llawr, a'r ystafelloedd darlithio mewn twr arall. Nid drwg i gyd fu aros cyhyd am ein hadeiladau parhaol, gan ein bod yn awr yn cael coleg hollol newydd yn hytrach na chlytwaith o welliannau ac ychwanegiadau. Daeth yr adeiladau hyn â nifer mawr o ymwelwyr i Abertawe yn eu sgil; daeth y coleg yn wir yn gyrchfan i lawer o gymdeithasau i gynnal eu cynadleddau. Ym mis Ionawr daeth holl gymdeithasau gwyddonol De Cymru ynghyd, fel y gwnânt unwaith bob blwyddyn, i wrando darlith ac i giniawa. Dyma'r tro cyntaf i'r cyd-gyfarfod ddigwydd yn Abertawe ac ar yr achlysur hwn yr oedd yr Arglwydd Hailsham wedi addo darlithio ar 'Gwyddoniaeth a'r Llywodraeth', ond oherwydd ei ddyletswyddau newydd yn y Gogledd-ddwyrain bu'n rhaid iddo roi'r bwriad heibio. Priodol efallai oedd cael Cymro i annerch ar yr un testun. Disgrifiodd Dr. D. T. Lewis ei hun fel 'gwyddonydd sy'n gwybod ychydig am wleidyddiaeth yn cymeryd lle gwleidydd sy'n gwybod ychydig am wyddoniaeth'. Graddiodd Dr. Lewis yng Ngholeg Aberystwyth ac yn ddiweddarach cafodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru. Cododd yng ngwasanaeth y Llywodraeth i swydd Prif Gemegydd y Llywodraeth, ac ef sydd yng ngofal holl labordai cemegol Adran Ymchwil Wyddonol a Diwyd- iannol (D.S.I.R.). Yn ystod ei araith disgrifiodd Dr. Lewis waith ei labordai, yn arbennig yr astudiaeth a wnaed o effaith ffiworin ar ddannedd, a'r rheol- aeth a gedwir ar ddefnyddio cyffuriau cemegol mewn bwydydd. Pwysleisiodd mai nifer bychan iawn o gyffuriau, lliwiau ychwanegol, er enghraifft, a ganiateir mewn bwydydd a gynhyrchir yn y wlad hon, ond fod yn rhaid cadw gwyliadwriaeth ofalus ar fwydydd a ddaw yma o wledydd eraill. Mae cyflwr dysgu mathemateg yn y wlad hon yn achosi cryn bryder ar hyn o bryd, ac y mae'n amlwg fod gwahan- iaeth dybryd rhwng mathemateg ysgol a mathemateg coleg. Sefydlwyd Cynllun Addysg Fathemategol dan nawdd dwy adran Fathemateg a chyfadran Addysg y coleg i ymchwilio i natur y gwendid, ac i gynllunio cyrsiau newydd ar gyfer yr ysgolion. Bydd y cynllun dan ofal Dr. S. K. Zaremba ac fe fydd ef yn rhoi rhan helaeth o'i amser eleni i'r gwaith. Eisoes trefnwyd cyfres wythnosol o ddarlithiau i athrawon ar ddatblygiadau diweddar mewn mathemateg, a chyn- Hunir cwrs deng niwrnod yn ystod yr haf. Ym mis Hydref aeth Mr. H. Dickin- son, adran Peirianneg Drydanol, i Brifysgol Bucaramanga, Colombia, De America. Bydd yno am ddwy flynedd o dan nawdd U.N.E.S.C.O. fel cyng- horydd technegol. Ddiwedd y tymor hwn bydd Dr. H. E. Hallam o'r adran Cemeg yn mynd am flwyddyn i swydd gyffelyb ym Mhrifysgol Nigeria, i gyng- hori ar sefydlu cyrsiau newydd. Bu Dr. Hallam ar un adeg yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Khartoum. Un o'r pethau mwyaf nodedig sy'n digwydd yn Abertawe ar hyn o bryd ydyw gwaith Cynllun Datblygu Gwaelod Cwm Tawe. Amcan y cynllun ydyw paratoi astudiaeth fanwl o'r anialwch anghyfannedd, didyfiant, sy'n llawn o domenni slag ac adfeilion, sydd yn gyfarwydd iawn i unrhyw un a ddaw i mewn i Abertawe ar y trên. Cefnogir yr ymchwil gan Sefydliad Nuffield, y Llywodraeth, a'r dre, ac y mae'r coleg yn gyfrifol am y gwaith. Apwyntiwyd staff mewn nifer o adrannau yn y coleg i weithio ar y cynllun dan y cyfarwyddwr Mr. K. J. Hilton. Daw'r gwaith ymchwil i ben yn gynnar yn 1965 ac wedi hyn bydd y cynllun yn nwylo'r awdurdod lleol. I.W.W. BANGOR Y mae gwaith yr Athro E. A. Andrew, pennaeth adran Ffiseg, Coleg Bangor, yn enwog bellach drwy'r byd. Yr oedd- em yn siomedig felly i glywed ei fod wedi derbyn swydd gyffelyb ym Mhrif- ysgol Nottingham. Y mae yno ddwy gadair Ffiseg, a'r Athro Andrew fydd y pennaeth. Deallwn hefyd bod y Dr. S. Clough, cyn-fyfyriwr o Fangor, sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r Athro Andrew ym maes nodweddion magnetig atomau hefyd yn ymadael â Bangor i swydd prif ddarlithydd yn Nottingham. Y mae adran Llysieueg Amaethyddol ym Mangor yn datblygu yn gyflym y dyddiau hyn. Codwyd tai gwydr a labordai newydd yn Nhreborth er mwyn cael y cyfleusterau arbennig sydd yn angenrheidiol i astudio planhigion y gwledydd poeth. Ymchwilir hefyd i effaith gwahanol fathau o oleuni ar dyfiant hadau. Rhoddwyd £ 10,000 i adran Swoleg Coleg Bangor gan y sefydliad Wellcome i'w galluogi i adeiladu labordy embry- oleg newydd. Y mae hyn bellach wedi ei gwblhau, ac y mae cyfleusterau ardderchog yno yn awr i astudio 'Embryoleg ac atgynhyrchiad mamalau'. LL.C. CAERDYDD- YR YSGOL FEDDYGOL Y mae arbenigwyr yn ystyried bod cyflwr dannedd poblogaeth Prydain Fawr yn arswydus o wael. Daeth hyn i'r golwg yn ystod yr ail ryfel byd. Yn union wedi i'r rhyfel orffen, apwynt- iwyd Comisiwn i astudio'r mater; cyhoeddwyd barn y Comisiwn yn Adroddiad Teviot ym 1946. Dadlennwyd drwy'r Adroddiad bod eisiau mwy o ddeintyddion ar y wlad er mwyn rhoi triniaeth, ac i addysgu pobl sut i ofalu am eu dannedd. Awgrymwyd y dylid