Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fynediad i'r Prifysgolion, ar ffurflen sydd i'w chael gan brifathrawon ysgolion gramadeg. ABERYSTWYTH Adeiladau Yn Aberystwyth, fel yng ngholegau eraill y Brifysgol, mae gweithgarwch mawr gydag adeiladau newyddion. Yn y byd sydd ohoni, i'r adrannau gwydd- onol, gan mwyaf, y mae'r rhai hyn yn mynd, ac ym mis Hydref diwethaf dechreuwyd cyfaneddu dau adeilad gwyddonol newydd. Y mwyaf o'r ddau yw adeilad newydd y gwyddorau ffisegol, sef ffiseg, mathemateg, ac ystadegaeth, ar Benglais, adeilad o ddiddordeb pensaernïol uwchlaw'r cyffredin, y ceir manylion llawn amdano mewn rhifyn arall o'r cylchgrawn hwn. Agorir yr adeilad yn swyddogol ym mis Mai. Labordy Cemeg ar y Buarth yw'r ail adeilad, ychwanegiad at Labordai Edward Davies, a godwyd yn 1908, yn rhodd i'r coleg gan deulu Llandinam (y bu eu haelioni i'r coleg er ei ddyddiau cyntaf yn nodedig a dibaid), er cof am Mr. Edward Davies, sef mab y David Davies cyntaf o Landinam a thad yr Arglwydd Davies cyntaf. Agorwyd yr ychwanegiad hwn ddydd Sadwrn, Ion- awr 26, gan y trydydd Arglwydd Davies, gwr ifanc y gellir disgwyl ei weled yn fuan yn dathlu canrif gyfan o gysylltiad agos rhwng ei deulu a'r coleg. Adeilad yn y dull modern yw hwn, heb gyfaddawd o fath yn y byd â'r hen adeilad gerllaw iddo. Eangderau o ffenestri gwydr a phanelau lliw, melyn a glas, sydd fwyaf amlwg yn ei agwedd allanol, o gyfeiriad Plas Crug. Oddifewn, ceir ynddo labordai eang at addysgu ac ymchwil, theatr ddarlithio fodern a lle DAVID YORWERTH DAVIES Gohebydd Gwyddonol y Guardian Newyddiadurwr proffesiynol 33 mlwydd oed yw David Yorwerth Davies, sy'n enedigolo Aberystwyth. Wedi bwrw'i brentisiaeth gyda nifer o bapurau yng Ngogledd Cymru a Chaer ymunodd â staff y Guardian yn Llundain. Ar hyn o bryd efsy'n gofalu am gynnwys gwyddonol y papur dylanwadol hwnnw. H.D. ynddi i ddau gant, a llyfrgell. Un argraff amlwg iawn a geir o gerdded drwy ystafelloedd yr adeilad hwn yw'r modd y treiddiodd dulliau a chelfi ffiseg i mewn i gemeg; gellir tybio mewn mannau mai labordy ffiseg yn wir ydyw. Mae hyn yn arbennig o wir mewn gwaith ymchwil, ond gwelir yr un duedd mewn dosbarth- iadau cyffredin, lle, er enghraifft, y dadansoddir cymysgeddau cemegol drwy ddulliau ffiseg yn hytrach na'r dulliau cemegol traddodiadol a fu cyhyd yn rhan hanfodol o hyfforddiant pob myfyriwr cemeg. Cynnwys yr adeilad tua 23,000 troed- fedd sgwâr, a thalwyd cyfanswm o agos i £ 270,000 amdano, dwy ran o dair o'r swm hwn am yr adeilad ei hun, a'r gweddill am ei aparatws a'i ddodrefn. Diddorol yw nodi bod pedwar o gyn- benaethiaid yr adran Gemeg yn fyw heddiw, a chyfanswm eu hoedran dros dri chant ac ugain o flynyddoedd, sef J. J. Sudborough, a benodwyd yn 1901 ac a ymadawodd yn 1911 i fynd yn athro yn yr India; Alexander Findlay, a aeth i Aberdeen yn 1919; T. Campbell James, sydd yn annwyl gan genedl- aethau lawer o fyfyrwyr Aberystwyth, a fu'n ddarlithydd o 1904 hyd 1921 ac yn bennaeth o hynny hyd 1945; a C. W. Davies, cyn-fyfyriwr a chyn-aelod o staff yr adran, y daeth i'w ran y dasg o ail-fywiogi'r adran wedi iddi gael ei meddiannu drwy gydol y rhyfel gan ysgol gemeg Coleg Prifysgol Llundain. Ar ei gynllun ef, yn y bôn, y codwyd yr adeilad newydd, er mai wedi ei ymddeol- iad ef yn 1960 y dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu. Dechreuir, fis Ebrill, ar adeilad new- ydd arall ar Benglais i'r gwyddorau Yn rhinweddei swyddy mae efgydá'r cyntaf glywed am unrhyw ddatblygiad newydd mewn gwyddoniaeth. Fel y gwelir wrth ei sylwadau daw sibrydion digon diddorol i'w glustiau hefyd! R ydym ynfalch eifod wedi derbyn gwahoddiad i gyfrannWn gyson i'r cylchgrawn. Ni fyddwn yn awgrymu testun iddo: yn hytrach rhown dragwyddol heol iddo Vn goleuo ar unrhyw wybodaeth bwysig a ddaw i'w sylw. cymdeithasol, a rydd gartref i adrannau Daearyddiaeth, Daeareg, Economeg, Gwleidyddiaeth, a'r Gyfraith. Hyd y gwelir, hwn yw'r adeilad gwyddonol olaf sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd yn Aberystwyth. Adran Ffiseg Bu'r adran hon yn adnabyddus ymhell o Aberystwyth er dyddiau y gwr gwir anghyffredin hwnnw, y diweddar Athro E. J. Williams, a saethodd fel seren-wib drwy wybren ffiseg atomig hyd ei farw trychinebus gynnar yn 1945. Erbyn hyn aeth cysylltiadau'r adran yn fyd-eang drwy ei phennaeth presennol, yr Athro W. J. G. Beynon, a fu'n amlwg gyda'r amryw gomisiynau a phwyllgorau cyd- genedlaethol a fu mor weithgar yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf, ac sydd â'u maes yn parhau i ymeangu. O fod yn ysgrifennydd i'r Comisiwn Cyd- genedlaethol ar yr Ionosffer, aeth yn ysgrifennydd i adran ionosfferig yr IGY; ac ef yw llywydd presennol y CIG (Comité International de Géo- physique), sydd yn trefnu'r ymdrech gydwladol ynglyn â Blwyddyn Dawel yr Haul (IQSY) yn 1964-65. Fel rhan o'r ymdrech hon, mae mintai o wyddonwyr o Brydain yn trefnu i dreulio dwy flynedd yn yr orsaf a gynhelir gan y Gymdeithas Frenhinol yn Halley Bay, yn Antarctica, mor bell i'r de fel nad yw'r môr yn agored yno ond am fis yn y flwyddyn. Yn y fintai hon bydd nifer o aelodau'r adran Ffiseg, a chafwyd gwybod yn ddiweddar bod yr adran i dderbyn grant o £ 25,000 gan y D.S.I.R. i gynnal cyfran Aberystwyth o'r gwaith ionosfferig yn Antarctica. Derbyniodd yr adran eisoes symiau sylweddol o'r ffyn- honnell hon i gynnal y gwaith ymchwil a wneir ar yr ionosffer yn Aberystwyth ar hyn o bryd.