Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

adwaith: yn yr ystyr gemegol, y newid a gymer Ie yng nghyfansoddiad sylweddau o'u cymysgu; 11. adweithiau; S. reaction. ADWAITH CADWYNOL: adwaith cemegol hunan gynhyrchiol (yma cyfeirir at hollti atomau wraniwm gan niwtronau). adweithydd: pentwr o graffeit yn cynnwys wran- iwm lle cynhyrchir y gwres mewn atomfa; -ion; S. reactor. AGRONOMEGWR: gwyddonwr sydd yn trefnu ffermydd; 11. -wyr; S. agronomist. ARGYFYNGOL: y cyflwr a gyrhaedda wraniwm pan fydd yn dechrau cynnal adwaith cadwynol; S. critical. ARSYLWADAU: y mesuriadau a geir wrth astudio gwrthrych drwy delesgop neu offer tebyg; S. observations. AWRORA: gogleddwawr, golau'r gogledd; S. aurora, northern lights. AWTOMATIG: yn symud neu weithio ohono'i hun; S. automatic. BASALT: math o graig lwyd-ddu neu goch-ddu; S. basalt. BYSWELLT: rhywogaeth o borfa toreithiog, troed y ceiliog; S. cocksfoot. CALCHFAEN: carreg galch; S. limestone. CARBOHIDRAD: sylwedd cemegol yn cynnwys car- bon, hidrogen, ac ocsigen a geir yn gyffredin mewn natur. Dau aelod o'r teulu yma yw glwcos (C6H1206) a starch; 11. -au; S. carbohydrate. CEFNFOREG: astudiaeth wyddonol o'r cefnfor; S. oceanography. CEIRCH: math o ydrawn a ddefnyddir i borthi ceffylau a da corniog, a hefyd i wneud blawd; S. oats. CEIRCH-LLWYD-CWTA: un o fathau Aberystwyth o geirch ar gyfer tir yr ymylon. CRAMEN: rhan allanol y ddaear; S. crust. CROESIAD: rhywogaeth yn deillio o groesi dwy rywogaeth wahanol; croesryw; S. hybrid. CROMOSOM: uned o fewn y gell fyw sy'n tros- glwyddo nodweddion o un genhedlaeth i'r llall; 11. -au; S. chromosome. CYFNEWIDYDD: llestr a ddefnyddir i wneud dur; S. converter. Geirfa cyfrifydd: peiriant electronig sy'n efelychu'r ymennydd dynol yn ei weithrediad; S. electronic computer. DAEAREG: gwyddor sy'n ymwneud â chrofen y ddaear a'i chreigiau; S. geology. DAEAREGWR: dyn sydd yn astudio daeareg; 11. -egwyr; S. geologist. diamod: heb amod; S. absolute. ELECTRONIG: gweithio drwy gyfrwng symudiad electronau; S. electronic. EPIL: plant, hil, hiliogaeth; 11. -iaid; S. offspring, progeny. ffosil: ffurf bywyd cyntefig ar y ddaear mewn craig; 11. -iaid; S. fossil. FFISIOLEG: astudiaeth o weithrediad pethau byw; S. physiology. GENETEG: gwyddor etifeddeg a thras; S. genetics. GLODDOLION: ffosiliaid. GOLOSG: defnydd tân a geir wrth losgi glo; S. coke. GWASGEDD: y weithred o wasgu; S. pressure. GWENiTHFAEN: ithfaen, carreg galed iawn; S. granite. GWYRDDFAEN: emrallt; S. emerald. HAFALIAD: fformiwla yn dangos cyfartaledd dau fynegiant; 11. -au; S. equation. IONOSFFER: haen drydanol sydd yn amgylchynu'r ddaear; S. ionosphere. LLIFBRIDD: pridd a gludir gan ddwr, dolbridd; S. alluvium. LLOEREN: gwrthrych y gellir ei saethu i'r gwagle i amgylchynu'r ddaear, megis y lleuad; 11. -nau; S. satellite. LLOSGFYNYDD: mynydd tân; S. volcano. LLYNGYR: math o bryfed neu abwyd a geir ym mherfedd anifeiliaid; S. tape-worms, helminths. LLWYDNI: gwelwedd, malltod; S. greyness, miìdew. MEILLION: rhywogaeth o blanhigyn a ddefnyddir yn borthiant anifail; S. clover. MEINTONIAETH: mesuroniaeth, geometreg; S. geometry.