Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG TECHNOLEG UWCHRADD CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD Prifathro: ALEXANDER HARVEY, PH.D., B.SC., F.INST.P. Hwn yw'r unig Goleg Technoleg Uwchradd yng Nghymru, a chynigir ganddo gyrsiau amser-llawn a 'sandwich' yn arwain at Raddau Prifysgol, Diplomau mewn Technoleg, Diplomau a Thystysgrifau Coleg a Chenedlaethol, a chymwysterau proffesiynnol mewn amryw ddisgyblaethau, yn cynnwys: FFISEG GWEINYDDIAETH PENSAERNIAETH PEIRIANAETH MECANYDDOL, TRYDANOL, ETC. ADEILADU MORWRIAETH CEMEG OPTEG YSTADEGAETH CYFFURIAETH Ceir hefyd gyrsiau uwchradd rhan-amser mewn paratoad tuag at nifer o alwedigaethau. Gellir cael manylion a gwybodaeth ychwanegol oddi wrth y Cofrestrydd yn y Coleg. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CLEMENT THOMAS, K.C.V.O., LL.D., F.R.C.P., F.R.C.S. Pennaeth: A. TREVOR JONES, M.D., F.R.C.P., F.P.H. Ysgrifennydd: F. DODSWORTH, F.C.I.S. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch.), a gall myfyrwyr sy'n paratoi ar gyfer graddau o dan Gyrff Arholi eraill fynychu'r cyrsiau. Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion, 29 Tavistock Square, Llundain, W.C.l, cyn diwrnod olaf y flwyddyn sy'n rhagflaenu'r Hydref y bwriedir dechrau ar y cwrs. Gellir gwneud cais cyn cael canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol am matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth yr Ysgrifennydd. Disgwylir y bydd yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol newydd yng Nghaerdydd wedi eu cwblhau, ac yn barod i dderbyn myfyrwyr deintyddol clinigol, erbyn Hydref 1965; a bydd yr adrannau cyn-glinigol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn barod i gymryd myfyrwyr y flwyddyn flaenorol, Hydref 1964. Dylid gwneud cais am fynediad drwy'r Canolfan Ceisiadau cyn 31 Rhagfyr, 1963. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglyn â'r cyrsiau at Ddeon Astudiaethau Deintyddol, 36 Newport Road, Caerdydd.