Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol MEWN cyfres o erthyglau yn y Western Mail ym mis Medi 1958, cyflwynais y ffigurau diweddaraf am grynhoad yr elfen wenwynig strontiwm-90 yn ein bwyd a'n hesgyrn. Mynegodd llawer o bobl a oedd mewn awdurdod y pryd hynny eu harswyd bod y sefyllfa yn un mor ddifrifol, a phwysleis- iwyd y dylid cadw'r broblem o dan wyliadwriaeth barhaus. I wneud hyn sefydlwyd labordy arbennig yng Nghasnewydd i archwilio dwr a bwydydd Cymru fel y byddai unrhyw gynnydd sylweddol yn cael ei ganfod ar unwaith. Plediodd yr awdurdodau lleol eu cefnogaeth i'r fenter 'holl bwysig', ac ar sail hyn gwariwyd miloedd o bunnoedd ar yr offer angenrheidiol i wneud y dadansoddiadau cymhleth. Ond yn gwbl wahanol i'r disgwyl yr aeth y cynlluniau er hynny. Buan y diflannodd y brwdfrydedd cyntaf a'r sêl i ddiogelu 'plant bach ardaloedd mynyddig Cymru,' pan sylweddolwyd y byddai'n rhaid talu am y wybodaeth arbennig. Gwrthododd un awdurdod ar ôl y llall i anfon samplau o lefrith, pridd, dwr, etc., i Gasnewydd, a phrofodd y fenter yn fethiant llwyr. Y newydd-ddyfodiad Mae'n ddiddorol sylwi beth a ddigwyddodd i'r ffigurau yn y cyfamser. Dylwn eich atgoffa i ddechrau nad oedd dim strontiwm-90 yn y byd cyn y ffrwydriad niwcliar cyntaf. Newydd-ddyfodiad ydyw, ac oherwydd ei fod yn disgyn o gylch uchaf yr awyr i'r ddaear, a gwartheg yn bwyta'r glaswellt mae'n ymddangos yn fuan yn ein llefrith. Drwy lefrith yn bennaf y gwna strontiwm-90 ei ffordd i'n hesgyrn, lle y mae yn beryglus oherwydd y gall achosi cancr, a chlefydau fel leucaemia ac anaemia. Yn anffodus hefyd y mae gan yr elfen yma hanner-oes hir iawn-28 mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd yn gwanhau i hanner ei nerth mewn 28 mlynedd, i hanner x hanner, hynny yw, chwarter ei nerth mewn 56 mlynedd. Felly 112 mlynedd ar ôl ffrwydro'r bom niwcliar olaf yn y byd, fe fydd o'r swm gwreiddiol yn parhau. Nid problem i un genhedlaeth yn unig yw felly. Wedi crynhoi mewn asgwrn, nid yw chwaith yn symud oddi yno am gyfnod hir iawn. Nodwedd anffodus arall sy'n perthyn i'r elfen hon yw ei bod yn crynhoi'n gyflymach mewn esgyrn plant 1 i 5 oed, pryd y mae'r esgyrn yn cael eu hadeiladu, nag mewn esgyrn oedolion. Am y rheswm hwn yn unig haedda ein sylw gofalus. Y cynnydd Hawliodd y broblem sylw'r awdurdodau yn gyntaf oll am fod y crynhoad o strontiwm-90 yn amrywio'n fawr o ardal i ardal, ac yn ymgasglu mwy mewn ardaloedd mynyddig fel Cymru, lle y mae'r pridd yn ddiffygiol mewn calch, a lle y ceir llawer o law. Y mae'r amrywiaeth yn parhau hyd heddiw, ar waethaf gobeithion dall yr awdurdodau. Wele gymhariaeth rhwng 1958- pryd y gwelwyd fwyaf o gyffro ymysg y cyhoedd ynglyn â'r broblem-a'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd (Adroddiad Labordy Radiobioleg, y Cyngor Ymchwil Amaethyddol, ARCL II, 1964): STRONTIWM-90 MEWN LLEFRITH-RHAGFYR 1963 A 1958* Cyfartaledd blwyddyn Prydain Cymru Un o'r ardaloedd arbennig' Ffigurau lleol uchaf 1958 6-97 10-88 Sir Aberteifi 28·4 48 1963 25-6 35-4 Sir Gaernarfon 210t 371 (Awst 1963) Yr uned strontiwm yw'r picocurie (=micro-microcurie strontiwm-90 i bob gram o galsiwm). t Y ffigur cymharol yn Sir Gaerhirfryn yw 56.