Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n amlwg fod y ffigurau wedi cynyddu mwy er 1958 nag a allai neb fod wedi ei ragweld y pryd hynny, ac y mae'r 'ardaloedd arbennig' fel Cymru, ac yn enwedig y rhannau mynyddig, yn parhau i ymgasglu llawer iawn mwy na'r cyfartaledd dros y wlad. Mwy na'r lefel rybuddiol Heb amheuaeth felly, oddi ar 1958 y mae mwy o'r gwenwyn wedi cronni yn esgyrn ein plant, ac yn arbennig felly yn yr ardaloedd mynyddig gwlyb. Y lefel gyffredinol ym Mhrydain yn y dosbarth 1 i 2 oed am y blynyddoedd 1959, 1960, 1961, a 1962, a hanner cyntaf 1963 oedd 3-9, 3-4, 2-5, 2-4, a rhyw 4 uned strontiwm. Ond yn yr ardaloedd 'arbennig' nid yw'n amhosibl y gallai'r lefel mewn esgyrn plant fod wedi cyrraedd hyd 50 uned strontiwm-90 (gweler Adroddiad y Cyngor Ymchwil Meddygol, 1964, ar y pwnc), ac yn fwy na'r lefel rybuddiol (33 uned strontiwm) y pwysleisiwyd na ddylid ei chyrraedd yn y boblogaeth gyffredinol. Nid yw hyn yn sefyllfa foddhaol, ac fel tad i ddau o blant bach o dan 5 oed, fe garwn i fod wedi cael gwybodaeth am bob ardal yng Nghymru i fedru osgoi-ar adegau arbennig fel canol haf, pryd y mae'r strontiwm-90 uchaf-y llefrith a fyddai'n cynnwys y gwenwyn. Ond oherwydd agwedd grintachlyd y mwyafrif o'r awdurdodau nid oedd y wybodaeth ar gael. Y mae eu cyfrifoldeb yn fawr. GLYN O. PHILLIPS TANWYDD HEDDIW at ddull cynhyrchiad yfory yw GWASANAETH CYFARWYDDO DIWYDIANT Gwnewch ddefnydd o staff dechnegol Bwrdd Nwy Cymru. Cewch gyngor a gwasanaeth cynllunio i'ch problemau cynhyrchu am ddim. Byddwch fodern a defnyddiwch Nwy-y tanwydd amlochrog ac effeithiol. NWY CYFLYM NWY CYMRU (DIWYDIANNOL) SNELLING HOUSE, BUTE TERRACE CAERDYDD. Tel. 33131