Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cymmrodorion a'r Gymdeithas MATTHEW WILLIAMS 'R ydym yn ddyledus i'r Dr. Matthew Williams, cyn-Brif Arolygydd y Weinyddiaeth Addysg mewn astudiaethau technegol, am y sylwadau gwreiddiol hyn am gefndir sefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion. Edrychwn ymlaen at gael rhagor o gyfraniadau ganddo ar hanes gwyddoniaeth. — Gol. Nid oedd posibilrwydd o 'ddau ddiwylliant' pan sefydlwyd y Gymdeithas Frenhinol nac, yn wir, yn y ganrif ddilynol ac yn y cyswllt hwn mae hanes Cymry Llundain a'r Cymmrodorion a'r Cymdeith- asau Cymreig eraill yn eu perthynas â'r Gymdeithas Frenhinol yn ddiddorol. Yr unig Gymro a oedd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif y gellir ei alw yn fathemategwr neu wyddonydd o fri, oedd William Jones a etholwyd yn Gymrawd yn 1712: bu wedi hynny yn Is-Lywydd y Gymdeithas. Fe'i ganwyd yn Llanfihangel Tre'r Beirdd yn Sir Fôn, mewn tyddyn oedd yn ffinio â'r Fferem, lle y ganwyd Morrisiaid Môn. Awgryma John Davies, yn ei Gofiant o Moses Williams, a R. T. Jenkins a Helen Ramage yn eu llyfr ar hanes Cymdeithas y Cym- mrodorion, mai'r ffaith bod William Jones a'r Morrisiaid yn gymdogion pan oeddynt yn blant a fu yn symbyliad i sefydlu'r Cymmrodorion fel cymdeithas i fodoli ochr yn ochr â'r Gymdeithas Frenhinol. Cenfigen Mae rhyw gymaint o sail i'r honiad hwn: yn eu llythyrau at ei gilydd ni ddengys y Morrisiaid fawr o barch at William Jones. Cyfeirir ato fel Wil Shôn Shors (mae'n debyg mae John George oedd enw ei dad), neu Pabo (yr oedd ei dad wedi symud i fyw yn Llanbabo), neu Yr Ustus, oherwydd ei fod yn Ynad Heddwch. Dengys hyn oll genfigen at wr na chafodd fawr o gyfleusterau addysg, ac eto a Frenhinol ddringodd i safle digon uchel fel mathemategwr i gyfeillachu ag Isaac Newton ac Edward Halley. Golygodd beth o waith Newton gogyfer â'r Wasg ac yr oedd yn aelod o'r pwyllgor a benodwyd gan y Gymdeithas Frenhinol i benderfynu pwy yn iawn a ddarganfu defnydd y Calcwlws fel offeryn mathemategol. Bu William Jones am flynyddoedd yn gweithredu fel tiwtor i deulu Iarll Macclesfield a threuliodd ran helaeth o'i oes yn Shirburn, cartref yr Iarll ger Rhydychen. Gwrthod cynnig Mae'n debyg mai ei safle fel mathemategwr a'i gyfeillgarwch â dysgedigion ac ag aristocratiaid y cyfnod oedd yn tynnu dwr o ddannedd y Morrisiaid. Yr oedd Richard Morris, y brawd oedd yn byw yn Llundain, ar delerau digon cyfeillgar â'i gyd- blwyfolyn, ac er y diffyg parch a ddangosir at William Jones yn eu llythyrau, yr oedd yn barod i fanteisio ar y gydnabyddiaeth ohono i geisio dylanwadu arno i gynnig enw ei frawd Lewis fel Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Mewn llythyr dyddiedig 1747 oddi wrth William Morris at ei frawd Richard, ceir y frawddeg, 'so you and old Justice Pabo have a mind to get F.R.S. added to Lewis's name\ Ceir llawer cyfeiriad arall at y 'tair llythyren' yn eu llythyrau i ddangos gymaint oedd bod yn Gymrodor yn ei olygu iddynt. Nid nad oedd gan Lewis Morris gymaint o gymwys- terau â llawer o'r Cymrodyr­-nid hynny oedd y