Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sefydliadau Ymchwil Enwog VI. Canolfan Ymchwil Retina, Boston, Massachusetts BREUDDWYD a wireddwyd yw'r Retina, ac mae'n amheus a fyddai'r fath ganolfan wedi medru tyfu ac ymsefydlu o gwbl yn un lle ond yn yr Unol Daleithiau. Pa siawns, tybed, a fyddai i ffoadur o Hwngari i ddod i un o ganolfannau dysg hynaf ac enwocaf Prydain, dechrau gwaith ymchwil yno, ac ymhen dim ond un mlynedd ar ddeg gasglu digon o arian drwy ewyllys da y cyhoedd i adeiladu labordai newydd yn costio dros £ lm. Dyna a wnaeth Endre A. Balazs, M.D., yn Boston, cartref Prifysgol Harvard, Massachusetts Institute of Technology, Prifysgol Boston, Ysbyty Cyffredinol Massachusetts, a llu o golegau a phrifysgolion eraill a wnaeth Boston yn ganolfan addysg mwyaf yr America, ac yn atyniad magnetig i feddylwyr mwya'r byd. Ymestyn cylch y gwaith Perswadiodd Balazs rai cefnogwyr yn gyntaf i brynu hen dy yn 30 Chambers Street. Er yn gwbl anaddas aeth ati yn ddyfal i addasu'r adeilad ar gyfer nifer o ymchwilwyr brwd a ymgysegrodd eu hunain i helaethu ein gwybodaeth am saernïaeth a gweithrediad y llygad. Pan symudodd y cwmni i'w hadeilad newydd yng nghanol Boston y llynedd 'roedd cylch y gwaith wedi ei ymestyn i gynnwys nid yn unig y llygad ond hefyd 'ymchwil sylfaenol ar agweddau biolegol a meddygol organau eraill y corff'. Pryd hynny ychwanegwyd at yr enw gwreiddiol Canolfan Retina y disgrifiad cywirach o'r gwaith presennol, sef Sefydliad Ymchwil yn y Gwyddorau Biolegol a Meddygol. Mewn deuddeng mlynedd tyfodd o fod yn broblem ymchwil un dyn yn sefydliad enwog sydd yn cyflogi rhai cannoedd ac yn eu plith rai o wyddonwyr enwocaf y byd. Yn ystod y cyfnod yma datblygodd ein gwybodaeth am gyfansoddiad a gweithrediad y llygad yn fwy nag erioed o'r blaen a bu gweithwyr y Retina ar y blaen mewn llawer agwedd o'r gwaith.