Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portread Alfred James Nicholas, C.B.E., M.I.E.E. GADAWODD Mr. A. J. Nicholas swydd gyfforddus a chyfrifol yng nghanoldir Lloegr 22 mlynedd yn ôl i ddod i Gymru i ddechrau ffatri fach yn Nhrefforest i gynhyrchu offer trydan. Fe'i rhybudd- iwyd gan lu o gyfeillion na fyddai'n debyg o gael y math arbennig o lafur yr oedd ei angen yn Ne Cymru. Onid oedd y mwyafrif mawr wedi arfer gweithio yn y pwll glo, a'r ardal felly heb unrhyw draddodiad yn y meysydd technegol a gwyddonol? Dyma fenter anobeithiol yn eu golwg hwy a gwell 0 lawer a fyddai dechrau ar y gwaith mewn rhyw ran o Loegr lle yr oedd gwell cyfleusterau. South Wales Switchgear, Cyf. Beth yw eu barn heddiw tybed? O'r cychwyn sigledig yna tyfodd cwmni South Wales Switchgear Cyf., sydd yn awr yn cyflogi mwy na 3,500 0 bobl. Yn ogystal â ffatri Trefforest y mae gweithfeydd wedi eu hadeiladu yn Blackwood, Sgotland, Awstralia, De Affrig, De Rhodesia, a'r India, i enwi dim ond rhai o'r 50 o wledydd lle mae'r cwmni'n awr wedi ymsefydlu. Prawf o lwyddiant masnachol y grwp yw iddynt wneud dros Elm. o elw y llynedd. Y mae'r llwyddiant aruthrol yma yn deyrnged arbennig i ffydd A. J. Nicholas yng ngallu'r Cymry i addasu eu hunain at waith yr oes beirianneg drydanol a oedd ar wawrio. Mewn cenhedlaeth magodd gefndir technolegol yn yr ardal a'i traws- newidiodd o fod yn ardal dlawd ddiwaith i un o'r mannau mwyaf llewyrchus ym Mhrydain gyda'i dyfodol diwydiannol yn gwbl ddiogel. Hyfforddi prentiswyr Gwnaeth hyn drwy ganolbwyntio ar yr ifanc. Dechreuodd gynlluniau uchelgeisiol i hyfforddi prentiswyr ac erbyn hyn y mae mwy na 500 o fechgyn a merched o bob rhan o Gymru yn cael eu cyflogi a'u hyfforddi yn ysgol dechnegol y gwaith. Mewn llawer ystyr 'roedd o flaen ei oes gyda'r cynlluniau hyn oherwydd prin fod llawer cwmni eto wedi deffro i'r angen am wneud defnydd llawn o'r bobl ifanc sydd well ganddynt waith ymarferol nag academig. Ond, wedi'r cwbl, dyn ymarferol yw Mr. Nicholas a thrwy ei ymdrechion ei hun dringodd o'r gwaelod isaf un yn y diwydiant i'w swydd bresennol, sef Cadeirydd Aberdare Holdings, Cyf., sy'n cynnwys Aberdare Cables, South Wales Switchgear, Cyf., a llawer o gwmnïau eraill ym Mhrydain ac mewn gwledydd tramor. Y mae ei egni a'i frwdfrydedd yn rhyfeddol a rhywfodd y mae yn medru fflachio pawb sydd o'i gwmpas gyda'r un tân. Nid yw'n credu mewn setlo unrhyw broblem anodd, boed fach neu fawr, drwy anfon allan lythyrau amhersonol. Gwell yw ganddo gyfarfod