Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwasanaeth Ymgynghorol Cenedlaethol Amaethyddol (N.A.A.S.) II. BWRW GOLWG AR DYFU YD YNG NGHYMRU EVAN I. PRYTHERCH DENGYS yr ystadegau amaethyddol fod arwynebedd tir dan yd yng Nghymru yn debyg iawn heddiw i'r hyn ydoedd yn union cyn yr Ail Ryfel Byd yn 1939. Mae'r ffigurau yn ddiddorol yn wyneb y newid mawr a fu ym mhoblogrwydd y gwahanol ydau dros y cyfnod. TIR DAN YD (MILOEDD O ACERI) Yd 1939 1960 1962 1963 Gwenith 129 17·6 17-2 150 Ceirch 160-3 126-3 102-1 88-3 Haidd 22-4 39-0 61·2 82-5 YdCymysg 14-2 34-7 26-3 20-7 Y newid Rhyw bum mlynedd ar hugain yn ôl yr oedd llawer mwy o dir dan geirch yng Nghymru na than yr holl ydau eraill gyda'i gilydd, ond erbyn heddiw mae'r stori wedi newid, yn union, yn wir, fel y mae wedi newid yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Y prif reswm am y newid yw bod y gwelliant mawr yn ffrwythlondeb y tir er 1939 wedi ei wneud yn bosibl i godi rhagor o'r ydau eraill, yn enwedig haidd. Hyd yn weddol ddiweddar ceirch oedd yr yd mwyaf addas i Gymru ond erbyn heddiw y mae'n llawn cyn hawsed i dyfu haidd. Hefyd mae haidd yn ennyn diddordeb newydd gan fod mathau sy'n cnydio'n drwm wedi dod i'n cyrraedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Heblaw hyn, mae gan haidd fantais arall arbennig oherwydd ei addas- rwydd i roddi cynnyrch da pan fyddo'r dyddiad hau yn llawer rhy ddiweddar i geirch lwyddo. Yn wir, mae ceirch wedi colli tir yn arw oherwydd difrod y fritfly sy'n gysylltiedig â hau diweddar. Hefyd, mae arbrofi wedi dangos nad bwyd i fochyn yn unig ydyw haidd, ond ei fod yn gymwys i borthi bron pob dosbarth o anifeiliaid, ac yn enwedig bustych ieuainc. Brodor o Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yw Mr. Prytherch. Ganwyd a magwyd ef ar fferm ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanymddyfri. Treuliodd rai blynyddoedd gartref ar y fferm cyn dilyn cwrs addysg yn Sefydliad Amaethyddol Pibwr-lwyd. Enillodd ysgoloriaeth o Bibwr-lwyd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, a graddiodd mewn gwyddor gwlad yn 1940 ac ennill ei N.D.A. y flwyddyn ddilynol. Bu'n aelod o staff y Pwyllgor Amaeth yn Sir Gaer- fyrddin yn nechrau'r rhyfel ac yn Brif Swyddog Technegol i Bwyllgor Amaeth Brycheiniog ar ôl hynny. Yn 1946 penodwyd efyn Ddirprwy Swyddog Cynghori Brycheiniog yn y Gwasanaeth Cynghori. Daliodd y swydd yma tan 1952 pan etholwyd ef i'w swydd bresennol sef Prif Gynghorwr ar Hwsmon- aeth Cropiau Tir Âr dros Gymru.