Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Purfa Nicel Clydach Sefydliadau Diwydiannol Enwog VI. Y Cwmni Nicel Rhyngwladol (Mond) Cyf. SAIF Purfa Nicel Clydach ym mhentref Clydach-ar-Dawe, rhyw bum milltir i'r gogledd o Abertawe. Cyflogir mwy o weithwyr yn y Burfa hon nag yn unrhyw sefydliad diwydiannol arall yng Nghwm Tawe, ac fe fu iddi ran bwysig yn hanes diwydiannol y cwm byth oddi ar ei sefydlu yn 1901. Yn y flwyddyn honno dechreuodd y Dr. Ludwig Mond, F.R.S., buro mwynau nicel yng Nghlydach. Ynghyd â dau wyddonydd arall yr oedd Mond wedi darganfod carbonyl nicel yn 1889 ac erbyn 1900 yr oedd wedi datblygu'r proses yn un buddiol i sicrhau nicel pur o'r mwyn ar raddfa ddiwydiannol. Deuai'r mwyn yn wreiddiol, fel ag y daw heddiw, o ardal Sudbury yn Ontario, Canada; yno y mae'r mwynfeydd sylffìd nicel a chopor ehangaf yn y byd. Wrth ei gloddio y mae yn y mwyn o 3% i 4% o nicel a chopor, ynghyd â rhyw gymaint o aur, arian, cobalt, seleniwm, teliwriwm, platinwm, a metelau gwerthfawr eraill. Crynodir y mwyn yng Nghanada trwy gyfres o ddulliau metelegol yn cynnwys mathru, ymnofiad mewn ewyn, didoli magnetig, a mwyndoddi. Canlyniad hyn ydyw didoli pedwar mwyn cryno: un â chrynswth o nicel, yr ail o gopor, y trydydd o haearn, a'r olaf o fetelau gwerthfawr. Cludir mwyn cryno'r nicel, ocsid nicel yn cynnwys 75 o'r metel, i Glydach ac yma fe'i dadelfennir yn fetel a'i burdeb yn well na 99·97 Gofyn ymwelwyr yn aml pam y dewiswyd Clydach fel man sefydlu'r Burfa. Yr ateb yn syml ydyw fod y proses gwreiddiol yn galw am gyflenwad dihysbydd o lo carreg Cymreig at gynhyrchu nwy, ac am ddigonedd o ddwr i'w ddefnyddio yn y gwaith. Gwyr y sawl sy'n gyfarwydd â'r fro fod Clydach ar ymyl y maes glo carreg, ac yn wir, cyn sefydlu'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, yr oedd gan y Cwmni ei bwll glo carreg ei hun. Saif y Burfa rhwng Afon Tawe a chamlas y cwm ac fe allai dynnu dwr o'r naill a'r llall. Hefyd yr oedd angen porthladd addas i dderbyn y mwyn o Ganada ac