Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sut y buasech chwi yn mesur dant? UNILEVER RESEARCH Dedwydd y dyn sydd â llond ei geg o ddannedd-¾ei ddannedd ef ei hun-na all dim o'r tu allan nac o'r tu fewn amharu â hwy. Dedwydd, ond prin iawn, achos mae'r dyn cyffredin yn dal i ddisgwyl i gyfrinion gwyddoniaeth ddadlennu pob achos, a pherffeithio pob amddiffynfa. Ac y mae mesur dant yn rhan o'r dadlennu hwn. Dewiswn ef yma am ei bosibiliadau darluniol. Mae dirywiad yn gadael tyllau ac y mae'r rhain yn ehangu'r arwynebedd. Felly wrth eu gwisgo â chylchoedd microscopig (problem: sut y gellir gosod yr haen yn rheolaidd ac ar yr un pryd sicrhau ei fod yn glynu ?), ac yna eu glanhau, fe ellir astudio dirywiad dannedd yn nhermau ychwanegu at yr arwynebedd. Dyfeisgarwch yw'r allwedd ymchwil ddatblygol, ac y mae digon o Ie ddyfeisgarwch yn y maes hwn. Eto nid yw hwn yn ddim ond un o'r problemau sydd yn ein hwynebu. Os yw her ymchwil yn apelio atoch, dowch i gysylltiad â ni. Ysgrifennwch at:- Swyddog Staff, Unilever Research, Unilever House, Llundain, E.C.4.